<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 2 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:48, 2 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Nid yw ef yn deall y ffordd y mae rheolau cymorth gwladwriaethol yn gweithio. Fel rheol, pan fydd rheolau cymorth gwladwriaethol yn cael eu torri, y derbynnydd sy'n ad-dalu, nid y Llywodraeth. O'n safbwynt ni, byddwn yn asesu'r sefyllfa i weld bod y risg yn dderbyniol. Dau beth y mae'n rhaid eu dweud am Gylchffordd Cymru: yn gyntaf, nid yw’r archwilydd cyffredinol wedi dweud nad yw hwn yn brosiect gwerth ei gefnogi, ac nid yw’r archwilydd cyffredinol wedi dweud ychwaith bod Cylchffordd Cymru yn sefydliad busnes heb unrhyw asedau, yn groes i’w Aelod Seneddol ei hun, David Davies, a'r hyn y mae ef wedi ei ddweud. Oes, yn ystod y gwaith o ddatblygu Cylchffordd Cymru, ceir asesiad o risg. Caiff penderfyniadau eu gwneud i dderbyn y risg honno os ystyrir bod angen, ac yna, wrth gwrs, rydym ni’n symud ymlaen i weld a all Cylchffordd Cymru droi’n realiti. Dyna beth mae Llywodraethau yn ei wneud: edrych ar risg a gwneud yn siŵr bod y risg honno’n dderbyniol, oherwydd, yn y pen draw, efallai y bydd y wobr yn un sy'n werth ei chael. Nid ydym ar y cam hwnnw eto; rydym ni’n dal i weithio i weld a all Cylchffordd Cymru lunio’r model cynaliadwy hwnnw.