Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 2 Mai 2017.
Na fyddwn. Mae'r cytundeb yn un y byddem ni eisiau iddo fod yn gadarnhaol. Nid ydym yn bwriadu cyfrannu dim mwy o arian cyhoeddus; ein nod yw gweithio gyda buddsoddwr preifat ar gyfer y dyfodol. Mae'r holl bethau hyn yn cael eu trafod ar hyn o bryd. Ond rwy’n atgoffa arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig bod yn rhaid weithiau i chi wneud penderfyniad er lles pobl yn y dyfodol. Yr wythnos diwethaf, gwelsom y penderfyniad gan Qatar Airways i hedfan taith feunyddiol i mewn i Faes Awyr Caerdydd. Pe byddai ef wedi cael ei ffordd, byddai’r maes awyr hwnnw ar gau. Byddai wedi cau. Eisteddodd yn y fan yna yn cwestiynu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r maes awyr. Rydym ni wedi gweld cynnydd mawr i nifer y teithwyr; rydym ni’n gweld Qatar Airways yn dod i mewn—roeddwn i yno dros y penwythnos. Ceir cyfleoedd enfawr—cyfleoedd enfawr i Gymru o ganlyniad i hynny. Gadewch iddo fe ymddiheuro am y ffaith ei fod yn barod i roi 1,000 o swyddi mewn perygl ym Mro Morgannwg—[Torri ar draws.]—ym Mro Morgannwg trwy ganiatáu i’r maes awyr gau. Yn ogystal â hynny, mae gennym ni ddiweithdra sy'n is nag yn Lloegr, is nag yn yr Alban ac yn is nag yng Ngogledd Iwerddon. Mae gennym ni sefyllfa lle mae’r pum cwmni sydd wedi tyfu fwyaf yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf yn gwmnïau yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi eu helpu, y ffaith ein bod ni wedi cael y ffigurau buddsoddiad tramor uniongyrchol gorau ers 30 mlynedd. Y gwir amdani yw ein bod ni’n creu swyddi pan fo’r Torïaid yn eu dinistrio.