Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 2 Mai 2017.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. O safbwynt cartrefi, fel yr amlinellodd mewn ymateb i gwestiwn cynharach, rydym ni i gyd wedi arfer yn llwyr â’r syniad o fantoli’r cyfrifon, rheoli incwm a gwariant, ac, yn hanfodol, rheoli dyled, boed hynny ar y morgais ar ein cartref, neu ar ein car teuluol. Nawr, mae benthyg gan y Llywodraeth yn llawer mwy cymhleth, wrth gwrs, ond mae'r egwyddorion sylfaenol yr un fath, gan gynnwys rheoli eich dyled ar unrhyw adeg benodol. Ac eto mae economeg glasurol yn cydnabod, o ran benthyg gan Lywodraeth, bod adegau, yn enwedig pan fo cost benthyg mor isel ag y mae ar hyn o bryd, pan ellir defnyddio benthyg i wrthdroi cyni cyllidol a dod â thwf, a, thrwy ddod â thwf, sicrhau bod y diffyg yn parhau ar yr un canran o CMC. Felly, onid yw'n bryd, dywedaf wrth y Prif Weinidog, i Lywodraeth y DU newid ei dull er lles y wlad—i Gymru a'r DU? Neu, er lles y wlad, onid yw'n bryd newid Llywodraeth y DU?