Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 2 Mai 2017.
Os dilynwn ni resymeg y Prif Weinidog mai nawr yw'r amser i fanteisio ar gyfraddau llog hanesyddol o isel, pam mae Ysgrifennydd cyllid ei Lywodraeth ei hun yn cyfyngu ar y cyllido drwy'r model buddsoddiad cydfuddiannol i £1 biliwn, ac nid ei gynyddu i’r £7.5 biliwn a awgrymwyd gan Gerry Holtham, a oedd yn gynghorydd uwch i’w Lywodraeth? Onid yw hon yn enghraifft arall eto o'r Blaid Lafur yn dweud un peth yn ei maniffesto ar gyfer Prydain ac yn gwneud rhywbeth gwahanol yng Nghymru? Dyna'r math o ragrith sydd wedi rhoi enw drwg i wleidyddiaeth ddemocrataidd.