Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 2 Mai 2017.
Wel, nid ein penderfyniad ni oedd adeiladu’r carchar. Nid yw carchardai wedi'u datganoli. Byddwn yn archwilio, wrth gwrs, unrhyw ganlyniadau a holl ganlyniadau adeiladu carchar. Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr garchar eisoes, wrth gwrs, felly os yw pobl yn symud i Ben-y-bont ar Ogwr, yna nid yw'r carchar wedi effeithio ar eu penderfyniad yn hynny o beth, ond mae'n bwysig bod yr holl bethau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus dros ben. Mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn eglur iawn yr hyn y mae'n credu y gall y carchar ei gynnig, nid yn unig o ran capasiti carchardai, ond hefyd o ran yr economi leol, ac iddynt wneud yr achos dros y carchar, a byddwn yn ystyried yn ofalus beth yw eu hachos.