Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 2 Mai 2017.
A gaf i groesawu, yn gyntaf oll, yr hyn a ddywedodd yr Aelod am beidio â phentyrru—nid dyna’r ffordd y’i mynegwyd ganddi, ond dyna yr oedd hi’n ei olygu—yr holl bwysau ar feddygon teulu? Nid oes angen meddyg teulu ar nifer fawr o achosion sy'n ymddangos gerbron meddygon teulu, a dyna pam mae’n hynod o bwysig bod gennym ni Dewis Doeth, wrth gwrs. Rydym ni’n gweld, pan fydd byrddau iechyd yn cymryd practisau drosodd, eu bod yn dod yn amlddisgyblaeth. Gellir cyfeirio pobl at y nyrs, at y fferyllydd, at y therapydd galwedigaethol neu at y ffisiotherapydd, fel y bo'n briodol, yn hytrach na phawb yn pentyrru ar y meddyg teulu. Yr her i’r practisau llai yw gallu cymryd pwysau oddi arnynt eu hunain yn y dyfodol, trwy weithio gyda meddygfeydd eraill i ddarparu gwasanaethau ehangach a mwy cyfannol rhyngddynt. Felly, er enghraifft, a yw'n rhesymol i bractis un meddyg gyflogi llawer o nyrsys neu ffisiotherapyddion? Nac ydy, ond yn gweithio gyda meddygfeydd eraill, mae'n dod yn llawer mwy ymarferol wedyn i hynny ddigwydd. Ond mae'n hynod bwysig nad ydym—nid yw hi’n gwneud hyn, er tegwch—mae'n hynod bwysig i ni beidio â meddwl bod gofal sylfaenol yn golygu meddygon teulu yn unig; mae'n golygu sicrhau bod pobl yn cael y lefel cywir o ofal ar yr adeg gywir. Rydych chi’n tynnu’r pwysau oddi ar feddygon teulu, rydych chi’n rhyddhau mwy o amser iddyn nhw weld y cleifion sydd angen mwy o amser i gael eu gweld.