1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Mai 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella mynediad at ofal iechyd sylfaenol? OAQ(5)0574(FM)
Gwnaf. Trwy foderneiddio ein gwasanaethau gofal sylfaenol, rydym ni eisiau i fynediad barhau i wella. Pan fydd materion lleol yn codi, fel y byddant, rydym ni’n disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau bod anghenion lleol yn parhau i gael eu diwallu.
Yn fy etholaeth i, rydym ni wedi cael problemau mawr o ran cadw a recriwtio meddygon teulu, ac mae'n peri pryder arbennig yn y Rhondda gan fod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio a phoblogaeth meddygon teulu sy'n heneiddio hefyd. Y llynedd, gwelsom gau meddygfa Tŷ Horeb yn Nhreorci, a, llai na phythefnos yn ôl, dywedwyd wrth gleifion meddygfa’r Maerdy i fynd i feddygfa Ferndale gan na ellid trefnu gwasanaeth meddyg teulu ar gyfer y diwrnod penodol hwnnw. Achosodd hyn lawer o bryder mewn ardal lle mae’n anodd cael apwyntiadau ar unrhyw adeg. Gyda'r holl broblemau yn y GIG yn Lloegr, pam mae recriwtio yn gymaint o broblem yng Nghymru? Dylai meddygon fod yn torri eu boliau i ddod i weithio yng Nghymru, ond rydych chi wedi methu â manteisio ar y sefyllfa honno. A ydych chi hefyd yn gresynu’r ffaith, ar ôl 18 mlynedd o Lafur yn rhedeg GIG Cymru, ein bod yn dal i fod ag un o'r rhifau claf i feddyg gwaethaf yn yr UE gyfan?
Mae gennym ni fwy o feddygon teulu nag erioed o'r blaen, ac rydym ni mewn sefyllfa lle mae mwy a mwy o feddygon teulu eisiau dod i weithio yng Nghymru. Mae'n hynod bwysig bod strwythur ymarfer cyffredinol yng Nghymru yn ddeniadol. Mae'n wirionedd, yn fy marn i, bod mwy a mwy o feddygon teulu eisiau bod yn gyflogedig. Nid ydyn nhw eisiau prynu i mewn i bractis. Nid ydyn nhw eisiau gweithio ar sail y model hwnnw. Pam? Maen nhw wedi dod drwy'r ysgol feddygol gyda dyled—nid yw talu mwy o arian yn ddewis deniadol i lawer ohonyn nhw. Bydd y model contractwr yn ddeniadol i rai, a bydd hynny’n rhan bwysig o'r GIG am flynyddoedd i ddod.
Mae hi'n iawn am yr hyn a ddigwyddodd yn y Maerdy. Gwn fod problem yno ar un diwrnod; oherwydd amgylchiadau annisgwyl, nid oedd y cymorth wrth gefn yno. Mae hynny'n rhywbeth y gallaf ddeall y mae pobl yn y Maerdy yn rhwystredig amdano. Mae'n rhan o bractis Ferndale, ond, serch hynny, ceir meddygfa gangen yn y Maerdy. Yr hyn yr ydym ni’n ei ganfod, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi gweld, er enghraifft, cynnydd o 16 y cant i nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi hyd yn hyn o'i gymharu â'r llynedd. Mae'r gronfa gofal sylfaenol £43 miliwn wedi helpu i ddarparu mwy na 250 o swyddi gofal sylfaenol ychwanegol, gan gynnwys swyddi meddygon teulu a nyrsio, fferyllwyr a ffisiotherapyddion. Yn bwysig, mae gwaith yn cael ei wneud yng Nghwm Taf—wrth gwrs, mae’r Rhondda’n rhan o hynny—yn gweithio ar draws wyth practis mewn un clwstwr. Felly, gall meddygfeydd sy’n eithaf bach ac sy’n ei chael hi’n anodd darparu gwasanaeth ar y lefel a ddisgwylir y dyddiau hyn weithio gyda'i gilydd i ddarparu’r gwasanaeth cynhwysfawr sydd ei angen ar bobl.
Mae angen i gleifion gael mynediad at feddygfeydd teulu da a meddygon teulu da, ond mae hefyd angen iddyn nhw gael ansawdd da o ran y mynediad hwnnw. Mae pob un ohonom ni’n derbyn, ac rwy’n meddwl bod cydnabyddiaeth gynyddol, y dylai meddygon teulu gael eu gadael i ymdrin â'r achosion mwy cymhleth a'r rheini â chyflyrau cydafiachus lluosog. Rydym ni’n croesawu'r cynnydd i nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol, ac rydym ni’n croesawu'r twf o ran cael cwnselwyr mewn meddygfeydd teulu, ac o ran cael nyrsys cyflwr gofal cronig, arbenigwyr gofal lliniarol ac yn y blaen. Ond rwy’n meddwl tybed, Brif Weinidog, pa drafodaethau y gallai eich Llywodraeth fod wedi eu cael o ran ymestyn hyd yr apwyntiad. Oherwydd os oes rhaid i feddyg teulu sydd eisoes o dan bwysau aruthrol weld claf â phroblemau gofal iechyd cymhleth neu gyflyrau cydafiachus ac ysgrifennu’r nodiadau hynny, yna mae'r 10 munud safonol yn beth anodd iawn iddyn nhw wneud yr holl waith hwnnw ynddo. Tybed a yw eich Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r mater penodol hwnnw.
A gaf i groesawu, yn gyntaf oll, yr hyn a ddywedodd yr Aelod am beidio â phentyrru—nid dyna’r ffordd y’i mynegwyd ganddi, ond dyna yr oedd hi’n ei olygu—yr holl bwysau ar feddygon teulu? Nid oes angen meddyg teulu ar nifer fawr o achosion sy'n ymddangos gerbron meddygon teulu, a dyna pam mae’n hynod o bwysig bod gennym ni Dewis Doeth, wrth gwrs. Rydym ni’n gweld, pan fydd byrddau iechyd yn cymryd practisau drosodd, eu bod yn dod yn amlddisgyblaeth. Gellir cyfeirio pobl at y nyrs, at y fferyllydd, at y therapydd galwedigaethol neu at y ffisiotherapydd, fel y bo'n briodol, yn hytrach na phawb yn pentyrru ar y meddyg teulu. Yr her i’r practisau llai yw gallu cymryd pwysau oddi arnynt eu hunain yn y dyfodol, trwy weithio gyda meddygfeydd eraill i ddarparu gwasanaethau ehangach a mwy cyfannol rhyngddynt. Felly, er enghraifft, a yw'n rhesymol i bractis un meddyg gyflogi llawer o nyrsys neu ffisiotherapyddion? Nac ydy, ond yn gweithio gyda meddygfeydd eraill, mae'n dod yn llawer mwy ymarferol wedyn i hynny ddigwydd. Ond mae'n hynod bwysig nad ydym—nid yw hi’n gwneud hyn, er tegwch—mae'n hynod bwysig i ni beidio â meddwl bod gofal sylfaenol yn golygu meddygon teulu yn unig; mae'n golygu sicrhau bod pobl yn cael y lefel cywir o ofal ar yr adeg gywir. Rydych chi’n tynnu’r pwysau oddi ar feddygon teulu, rydych chi’n rhyddhau mwy o amser iddyn nhw weld y cleifion sydd angen mwy o amser i gael eu gweld.