Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 2 Mai 2017.
Roeddwn i’n ymaddasu fy hun, nawr, i ble mae'r Aelod yn eistedd erbyn hyn. Wel, byddwn yn gwneud y gorau o’r holl ddulliau sydd ar gael i gefnogi'r economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys gwneud y defnydd gorau o'r £1 biliwn o bwerau benthyg a sicrhawyd drwy'r fframwaith cyllidol newydd.