1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Mai 2017.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y swm priodol o fenthyca ar gyfer Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y DU? OAQ(5)0567(FM)
Roeddwn i’n ymaddasu fy hun, nawr, i ble mae'r Aelod yn eistedd erbyn hyn. Wel, byddwn yn gwneud y gorau o’r holl ddulliau sydd ar gael i gefnogi'r economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys gwneud y defnydd gorau o'r £1 biliwn o bwerau benthyg a sicrhawyd drwy'r fframwaith cyllidol newydd.
Prif Weinidog, pa un a yw'r cwestiwn yn £1 biliwn neu £1.5 biliwn o fenthyciadau ar gyfer Cymru, neu £500 biliwn o fenthyciadau ar gyfer y DU, mae’n ymddangos bod eich ateb yr un fath: 'Gadewch i ni fenthyg; mae'n rhad.' Mae'n ymddangos bod llai o ystyriaeth i sut y byddem ni’n ad-dalu'r arian neu beth fyddai'n digwydd pe byddai cyfraddau llog yn cynyddu. A ydych chi’n credu o ddifrif ei bod yn briodol i’r DU fenthyg 300 gwaith cymaint â Chymru? Ac os felly, a yw eich safbwynt chi yn fwy credadwy o gwbl nag un Jeremy Corbyn?
Mae gan y DU lawer mwy o offerynnau cyllidol ar gael iddi na Llywodraeth Cymru o ran y ffordd y gall fenthyg ac o ran y polisïau trethu sydd ar gael iddi. Rydym ni’n gwybod na wnaiff eich plaid—neu'r blaid yr ydych chi’n eistedd ar yr ochr yna i'r Siambr â hi—ddiystyru codi treth incwm. Rwy’n gwerthfawrogi’r gonestrwydd hwnnw, ond rwy'n credu ei bod yn iawn i ddweud bod hyd yn oed y Blaid Geidwadol yn ystyried cynyddu trethi incwm yn y dyfodol er mwyn darparu mwy o arian i bwrs y wlad. Gofynnwyd iddyn nhw sawl gwaith i’w ddiystyru, a sawl gwaith nid yw wedi cael ei ddiystyru. Y pwynt yw hyn: mae benthyg ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yn bwysig. Mae’n rhaid iddo fod yn ddarbodus—rwy’n derbyn y pwynt hwnnw—ac mae’n rhaid iddo fod yn fforddiadwy. Ond mae’r hyn sy'n fforddiadwy i’r DU lawer gwaith yn fwy na'r hyn sy'n fforddiadwy i Gymru oherwydd y dulliau sydd ar gael i'r DU a'i gallu i godi arian. Cafodd ei wneud yn y 1940au, pan roedd y sefyllfa yn llawer iawn gwaeth na hyn. Ailadeiladwyd y seilwaith. Rhoddwyd y DU yn ôl ar ei thraed i mewn i'r 1950au. Os oedd modd ei wneud yn y 1940au, pan roedd cyfraddau benthyg yn uwch a'r sefyllfa’n llawer gwaeth, yna pam mae mor afresymol i ddweud na ellir ei wneud yn awr?