Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 2 Mai 2017.
Rwy’n cynnal trafodaethau agos gyda'n partneriaid cymdeithasol ar waith teg a'r camau y gallwn eu cymryd gyda'n gilydd fel bod gan fwy o bobl fynediad at waith da ac incwm diogel. Yfory rwy’n cyfarfod â'n partneriaid cymdeithasol, TUC Cymru a sefydliadau busnes i drafod sefydlu comisiwn gwaith teg.