1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Mai 2017.
10. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod Cymru yn genedl deg o ran gwaith? OAQ(5)0570(FM)
Rwy’n cynnal trafodaethau agos gyda'n partneriaid cymdeithasol ar waith teg a'r camau y gallwn eu cymryd gyda'n gilydd fel bod gan fwy o bobl fynediad at waith da ac incwm diogel. Yfory rwy’n cyfarfod â'n partneriaid cymdeithasol, TUC Cymru a sefydliadau busnes i drafod sefydlu comisiwn gwaith teg.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb, er iddo wneud y cyhoeddiad hwn yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn ôl yn y gwanwyn, ac mae'n siomedig, o ystyried y datblygiadau ar lefel y DU, nad yw'r comisiwn gwaith teg hwn wedi ei sefydlu. Yn ôl y data diweddaraf yr wyf i wedi gallu dod o hyd iddynt, mae Cymru ymhlith y gwledydd lleiaf teg o ran gwaith ar yr ynysoedd hyn: mae 45,000 o bobl wedi eu dosbarthu fel bod yn hunangyflogedig tâl isel, mae 60 y cant o weithwyr dros dro eisiau swyddi parhaol ond ni allant eu cael, ac mae 42,000 o bobl ar gontractau dim oriau. Pan fydd yn mynd ati i sefydlu comisiwn gwaith teg o’r diwedd, a all ef wneud ymrwymiad mai rhan o'i gylch gorchwyl fydd adolygu'r holl ddeddfwriaeth undebau llafur flaenorol a chyfredol fel y maen nhw’n berthnasol i feysydd datganoledig, fel y gallwn ni yng Nghymru gymryd yr ysbryd y mae ei Lywodraeth ef wedi ei ddangos o ran Deddf yr Undebau Llafur 2016 a diwygio’r holl ddeddfwriaeth gwrth-undebau llafur atchweliadol yn y wlad hon?
Wel, ni fyddwn eisiau rhagfarnu’r drafodaeth sy'n cael ei chynnal yfory, ond rwy’n derbyn yr hyn y mae wedi ei ddweud. Mae'n hynod bwysig ein bod ni’n cael cymorth a chefnogaeth o bob sector o ddiwydiant wrth i ni edrych ar waith teg. Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol, rwyf hefyd eisoes wedi gofyn i’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wneud rhywfaint o waith ar hyn—yn enwedig o ran diffinio beth yw gwaith teg. Gallwn gael syniad o sut y mae gwaith teg yn edrych, ond mae'n hynod bwysig ei ddiffinio cyn gryfed â phosibl er mwyn i waith y comisiwn fod yn effeithiol.
Diolch i’r Prif Weinidog.