Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 2 Mai 2017.
Wel, ni fyddwn eisiau rhagfarnu’r drafodaeth sy'n cael ei chynnal yfory, ond rwy’n derbyn yr hyn y mae wedi ei ddweud. Mae'n hynod bwysig ein bod ni’n cael cymorth a chefnogaeth o bob sector o ddiwydiant wrth i ni edrych ar waith teg. Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol, rwyf hefyd eisoes wedi gofyn i’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wneud rhywfaint o waith ar hyn—yn enwedig o ran diffinio beth yw gwaith teg. Gallwn gael syniad o sut y mae gwaith teg yn edrych, ond mae'n hynod bwysig ei ddiffinio cyn gryfed â phosibl er mwyn i waith y comisiwn fod yn effeithiol.