Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 2 Mai 2017.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Gwnaeth Nick Ramsay y pwynt ei bod yn debygol na fydd yr adroddiad hwn yn y pen draw yn cael ei drafod mewn tafarndai a chlybiau ledled y de—drwy Gymru gyfan, yn hytrach—ac rwy’n credu y gallai fod yn iawn. Ac rwy’n credu, i ychydig o Aelodau yma yn y Siambr, mae'r cyfan yn parhau i fod yn ddirgelwch, hyd yn oed i ni. Ac mae'r broses lle rydym wedi cael comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol ac adroddiad tueddiadau’r dyfodol: mae'r cyfan yn ymddangos braidd yn gyfrinachol i mi. Rwyf wedi darllen drwy'r adroddiad heddiw. Mae'n adroddiad eithaf swmpus, ond rwy’n cael anhawster dod o hyd i unrhyw ganllawiau ynddo ar gyfer camau gweithredu ystyrlon gan y Llywodraeth, felly mae’r cyfan braidd yn ddryslyd i fi. Cawsom Sophie Howe, y comisiynydd yn ymddangos gerbron y pwyllgor cydraddoldeb, ac roedd yn dyst effeithlon iawn gerbron y pwyllgor. Ymgysylltodd â'r pwyllgor, ond rwy’n teimlo nad oedd hi yno’n ddigon hir mewn gwirionedd i ateb pob un o'r cwestiynau y byddem wedi eisiau gofyn iddi ac i ganfod yn union sut y bydd ei swyddogaeth yn dylanwadu ar gamau gweithredu’r Llywodraeth, gan ei bod yn bwriadu cwmpasu ystod eang o weithgareddau posibl y Llywodraeth. Er enghraifft, caiff 44 o gyrff cyhoeddus eu cwmpasu gan y Ddeddf. Soniodd hi ei hun—Sophie ei hun—am yr anhawster o weithredu deddfwriaeth a'r angen i osgoi ymarferion ticio blychau. Ond sut mae modd osgoi’r rhain pan fo cyrff cyhoeddus, yn ei geiriau hi i hun, eisoes yn teimlo dan warchae oherwydd yr holl ofynion statudol y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni, cyn i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol gael ei chymryd i ystyriaeth hyd yn oed? Yn ychwanegol at hynny, mae'r ffaith bod rhai o'r rheoliadau sy'n deillio o'r gwahanol ofynion statudol yn groes i rai eraill. Dyfynnodd hi ei hunan yr enghraifft o'r angen i fyrddau iechyd fod â chynlluniau tair blynedd, sy'n groes i amcan cenedlaethau'r dyfodol o gynllunio hirdymor. Felly, tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn datrys y gwrth-ddweud amlwg hwn.
O edrych ar y materion ymarferol a all godi o'r adroddiad hwn, ceir y mater o newid yn yr hinsawdd, y cyfeirir ato. Nawr, rydym yn gwybod bod yr hinsawdd yn newid. Mae gwahaniaeth barn yn y Siambr ynglŷn â'r hyn a all fod yn achosi'r newidiadau hynny yn yr hinsawdd, ond rwy’n meddwl, ar y cyfan, ein bod yn cytuno bod yr hinsawdd yn newid. Ceir diffeithdiro cynyddol. Mae'r Sahara yn lledaenu. Mae ardaloedd o Sbaen a rhannau eraill o dde Ewrop yn mynd yn rhy sych ar gyfer amaethyddiaeth. O ystyried bod hyn yn digwydd a bod llai o dir yn debygol o fod ar gael i’w ffermio, byddai'n gwneud synnwyr felly, yn y DU, ein bod yn dal gafael ar ein tir amaethyddol. Mae hyn yn gynllunio hirdymor yn ymwneud â diogelu’r cyflenwad bwyd. Pam, felly, yr ydym ni’n caniatáu i gynghorau adeiladu ar dir llain las? Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, bydd tai yn cael eu codi ar dir sydd wedi cael ei ffermio ers cannoedd o flynyddoedd. Siawns y dylai ystyriaethau cynllunio hirdymor atal unrhyw adeiladu ar dir llain las yng Nghymru. Felly, os oes gennych adroddiad ar genedlaethau’r dyfodol sy’n mynd i fod yn ystyrlon mewn unrhyw ffordd, a ydych chi nawr yn mynd i roi cyngor ac arweiniad i gynghorau i'w hatal neu i'w rhybuddio rhag adeiladu ar dir llain las? Byddai hynny'n un peth ymarferol a fyddai’n deillio o'ch syniad honedig o gael cynllunio hirdymor. Materion eraill: awtomeiddio. Rhagwelir bod tri deg pump y cant o swyddi—a dweud y gwir, rwy'n credu ei fod yn 30 y cant—mewn perygl yng Nghymru oherwydd awtomeiddio. Felly, mae angen uwchsgilio’r boblogaeth weithio yng Nghymru os yw’r broffwydoliaeth hon mewn unrhyw ffordd yn gywir. Awgrymaf y byddai mwy o hyfforddiant galwedigaethol yn helpu. Felly, a fyddech chi’n cytuno bod angen inni symud oddi wrth ddull cyffredinol o ddarparu addysg yng Nghymru? A oes angen i ni edrych ar effeithiolrwydd y system ysgolion cyfun, er enghraifft?
Mae ceir heb yrrwr yn cael eu crybwyll. Nawr, mae hyn yn ddirgelwch llwyr i mi. Gwn ein bod i fod cael ceir heb yrrwr. Awgrymodd Sophie Howe, pan ymddangosodd gerbron y pwyllgor, y dylai prosiect ffordd liniaru'r M4 fod wedi ystyried mater y ceir heb yrrwr. Nid wyf yn siŵr pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud o ran tagfeydd ar y ffyrdd. Er ein bod yn mynd i gael ceir heb yrrwr, oni fydd yr un nifer o geir ar y ffordd? Felly, sut y byddai hyn mewn gwirionedd yn effeithio ar unrhyw beth? Mae hyn yn fy nrysu i. Efallai y gallwch chi—[Torri ar draws.] A phellteroedd stopio. Iawn, efallai y bydd agweddau technegol, nad ydwyf i fel rhywun sydd ddim yn gyrru—[Torri ar draws.] Iawn, diolch. Efallai y bydd yna agweddau technegol nad wyf i wedi’u hystyried, felly ymddiheuriadau am fy anwybodaeth, ond byddai cael atebion yn beth da.
Nawr, fe wnaethoch chi hefyd, yn ddoniol iawn, edrych ar broblemau darogan y dyfodol, a nododd Mike Hedges enghraifft hefyd—fe roesoch chi enghreifftiau yn ymwneud â thail ceffyl a theleffonyddion, a oedd yn eithaf doniol yn eu hunain. Roedd yna hefyd ddyn yn yr 1960au cynnar o'r enw Dr Beeching, a oedd yn tybio na fyddai unrhyw angen i deithwyr deithio ar y rheilffyrdd ymhen ychydig o flynyddoedd. Roedd hynny braidd yn anghywir, onid oedd? Beth bynnag, diolch am yr adroddiad. Pe gallech daflu unrhyw oleuni ar y materion yr wyf i wedi eu codi byddwn yn ddiolchgar. Diolch.