Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 2 Mai 2017.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Rwy'n falch ei fod o’r farn bod y sesiynau y mae’r pwyllgor wedi eu cael gyda'r comisiynydd yn ddefnyddiol. Roedd ei swyddfa hi yn rhan o'r grŵp a helpodd i lunio'r adroddiad hwn. Bydd llawer o gyfleoedd eraill, rwy'n siŵr, i glywed gan y comisiynydd ac i weithio gyda hi i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn ddefnyddiol i lunwyr polisi wrth iddynt geisio asesu'r cyfleoedd y mae’r tueddiadau a welwn heddiw yn eu darparu ar gyfer llunwyr polisi y dyfodol, ac i osgoi y math o beryglon a nododd yr Aelod pan gyfeiriodd at adroddiad Beeching.
A bod yn onest, Llywydd, rwy’n credu ei fod un cam ar y blaen o ble mae’r adroddiad heddiw. Yr adroddiad yw’r ffordd orau sydd gennym o dynnu ynghyd y dystiolaeth, y data, y gwahanol dueddiadau a welwn yn economi Cymru, yn y gymdeithas yng Nghymru, ac yn y pethau amgylcheddol ehangach hynny, ar gyfer yr holl lunwyr polisi—gan gynnwys pleidiau gwleidyddol a gwleidyddion unigol—i ddod i’w casgliadau ynghylch sut y dylai'r polisïau gael eu llunio yn y dyfodol. Nod yr adroddiad yw bod yn niwtral o ran polisi. Nid yw'n ceisio gwthio polisi mewn unrhyw gyfeiriad penodol. Mae yno fel adnodd fel y gall pobl lunio’r atebion y maen nhw’n credu all ddiwallu anghenion Cymru orau. Mae Mr Bennett yn codi nifer o faterion polisi pwysig. Ni fydd yn dod o hyd i'r atebion yn yr adroddiad ei hun. Yr hyn a gaiff yn yr adroddiad yw’r deunydd crai a fydd yn helpu unrhyw un ohonom i geisio dod o hyd i’r atebion ein hunain.