Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 2 Mai 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ar y papur ac i gael y cyfle i gael y ddadl hon am her iechyd cyhoeddus sylweddol i Gymru, ac i nodi ein cynnydd o ran gwella ansawdd gofal, yn ogystal ag ailddatgan ein disgwyliadau a’n huchelgais ar gyfer gwelliant pellach.
Rwy’n mynd i sôn yn fyr am y gwelliannau. Yn anffodus, ni fyddaf yn gallu cefnogi gwelliant 1 a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, gan nad ydym yn credu ei bod yn gywir i ddatgan nad oes addysg strwythuredig ar gael i blant a phobl ifanc. Rydym yn gwybod bod y gwasanaethau hyn ar gael. Ond, rwyf ar ddeall bod pryder gwirioneddol ynghylch y niferoedd y cofnodir eu bod yn manteisio ar addysg strwythuredig a’r ffigurau yr ydym yn eu cael o’n harchwiliad. Mae ein holl unedau diabetes pediatrig yn cynnig addysg hunanreoli i blant a phobl ifanc sydd newydd gael diagnosis. Hoffem wella'r hyn y mae’r archwiliad yn ei gyfrif i wella ei gywirdeb, ond nid yw cleifion yn cael eu hatgyfeirio i leoliad arall i gael addysg diabetes: mae'n cael ei ddarparu o fewn yr uned. Gallwn ddweud, fodd bynnag, ein bod yn ddiweddar wedi cyflwyno rhaglen addysg strwythuredig newydd i Gymru gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc o'r enw SEREN. Y rhaglen hon yw'r gyntaf o'i math yn y DU. Felly, rydym yn disgwyl gweld gwelliant o ran cofnodi cyfranogiad mewn addysg hunan-reoli yn y dyfodol, a hefyd, wrth gwrs, hoffem gynyddu niferoedd y bobl sy’n cymryd rhan. Felly, mater o eiriad yw hwn a dweud y gwir, yn hytrach na’n huchelgais ni a chydnabod bod angen inni wneud mwy.
O ran gwelliant 2, rwy’n hapus i groesawu a derbyn y gwelliant sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd ymdrin â gordewdra, a byddaf yn siarad am y mater penodol hwnnw yn nes ymlaen yn fy nghyfraniad. Ond, ar y cychwyn, hoffwn gydnabod, wrth gwrs, fel y bydd pobl yn y lle hwn yn ei wybod, bod yna wahaniaeth rhwng diabetes math 1 a math 2. Mae diabetes math 1 yn grŵp llawer llai o bobl ac nid oes ffactorau ffordd o fyw yn gysylltiedig â’i ddatblygiad, ond mae math 2 yn sicr yn gysylltiedig â ffactorau ffordd o fyw. Mae llawer o'n trafodaeth am dwf diabetes yn ymwneud yn bennaf â’r cynnydd mewn diabetes math 2 ledled ein gwlad. Ond, yr amcangyfrif yw bod diabetes yn ei holl ffurfiau, â’i holl gymhlethdodau, yn costio tua 10 y cant o’r gwariant ar iechyd yma yng Nghymru. Ac, os na fydd newid, o fewn yr 20 mlynedd nesaf rydym yn amcangyfrif y bydd hynny’n codi i tua 17 y cant o'r gwariant ar iechyd. Mae cofrestri meddygon teulu ar hyn o bryd yn dangos bod diabetes gan 7.3 y cant o'r boblogaeth dros 17 oed a bod y niferoedd yn parhau i godi. Mae hynny’n bron i 189,000 o'n ffrindiau, aelodau o'n teuluoedd, ein cydweithwyr a’n cymdogion sy'n byw gyda’r clefyd hwn, ac eraill sydd heb gael diagnosis eto.
Felly, o ran galw, cost a dioddef uniongyrchol, mae diabetes eisoes yn cael effaith ddifrifol ar ein cymdeithas a’n system iechyd a gofal. Mae'r niferoedd wedi cynyddu dros 17 y cant mewn pum mlynedd yn unig, ac rydym yn amcangyfrif y bydd yn effeithio ar dros 300,000 o bobl erbyn 2025. Mae'n bwysig cydnabod, er ein bod yn awyddus i wella'r gofal a thriniaeth, nad oes pilsen hud i drin ein ffordd allan o'r epidemig diabetes hwn. Mae hyn yn un o'r prif heriau iechyd cyhoeddus sy'n wynebu Cymru. Mae angen newid sylweddol mewn agwedd ac ymddygiad o fewn pob un o'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli.
Cafodd ein dulliau cenedlaethol yma yng Nghymru eu diweddaru ym mis Rhagfyr y llynedd, a bydd hynny’n mynd â ni hyd at 2020. Ar 21 Ebrill eleni, cyhoeddwyd datganiad o gynnydd a bwriad gennym, ac mae’r datganiad hwnnw yn tynnu sylw at yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni, yn ogystal â'r hyn sydd gennym i'w wneud eto. Mae'n nodi'n glir beth yw cyfeiriad, trefniadau arweinyddiaeth a meysydd ein pwyslais cenedlaethol.
Yn ogystal â lleihau nifer yr achosion newydd o ddiabetes, rydym yn cydnabod bod angen pwyslais parhaus ar wella’r ffyrdd yr ydym yn trin pobl ac yn eu cynorthwyo i reoli eu diabetes. Mae ar lawer o bobl sy’n dioddef o ddiabetes angen cymorth dwys ac eang i reoli eu cyflwr ac i leihau'r risg o ddallineb, clefyd y traed, methiant yr arennau a chlefyd y galon. I’r mwyafrif helaeth, darperir hyn mewn gofal sylfaenol a chymunedol, ond bydd ar eraill angen defnyddio ysbytai a thimau arbenigol iawn. Mae hynny'n atgyfnerthu'r angen i weithio fel system wirioneddol gydgysylltiedig. Dyna pam mae hi’n flaenoriaeth genedlaethol allweddol i ddefnyddio gwybodeg i ddarparu cofnod diabetes unedig ar draws gwahanol leoliadau gofal iechyd, a dylai’r cofnod diabetes unedig hwnnw helpu i ddarparu gofal diabetes integredig, cywir ac amserol lle bynnag y mae’r claf dan sylw yn cael gofal iechyd. Yn syml, dylai ein helpu i ddarparu gwell gofal i'r dinesydd.
Rydym ni’n gweithio gyda meddygon gofal sylfaenol, nyrsys arbenigol a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i ddatblygu model newydd o ofal diabetes sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Nid oes arnom ofn dysgu arfer gorau oddi mewn i Gymru na thu hwnt iddi i wneud hynny. Bydd hynny'n sicr yn golygu newid pellach i ofal sylfaenol ac atgyfnerthu'r angen i unioni arfer lleol nad yw’n dda ac nad yw’n rhoi blaenoriaeth briodol i ganlyniadau i gleifion.
Fodd bynnag, dylai fod pob claf â diabetes yn derbyn eu prosesau gofal allweddol a argymhellir gan NICE, gan weithio tuag at dargedau triniaeth unigol. Er yr holl gynnydd yr ydym wedi'i wneud, rydym yn gwybod nad ydym wedi gwneud hynny mewn modd mor gyson ag yr oeddem yn ei ddymuno. Felly, mae ein darparwyr gofal sylfaenol eisoes yn gweithio â data archwilio cenedlaethol i ymdrin ag amrywiadau mewn gofal a gwella safonau. Dyna fyfyrio priodol gan y gweithwyr proffesiynol eu hunain am yr angen i wneud gwelliannau pellach.
Rydym yn gwybod o'r archwiliad y gallwn wneud cynnydd ar adroddiadau diweddar, sydd wedi dangos chwe blynedd o welliant parhaus mewn canlyniadau ar lefel y boblogaeth. Mae gennym hefyd waith pwysig ar y gweill i gefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth a phobl sy'n aros yn yr ysbyty, gan fod diabetes gan un o bob pump o gleifion mewnol. Mae hynny, unwaith eto, yn amlygu pwysigrwydd rhaglenni gwella gwasanaethau ysbytai fel Think Glucose a Think, Check, Act. Mae ein harchwiliad diabetes cleifion mewnol yn cadarnhau bod ysbytai’n darparu gofal diabetes mwy personol, lefelau uchel o brofiad y claf, a llai o bobl yn dioddef hypoglycemia tra eu bod yn yr ysbyty. Unwaith eto, rwy’n derbyn bod mwy inni ei wneud i geisio gwelliant pellach a’i ddarparu. Rydym, fodd bynnag, i helpu i gyflawni hynny, wedi creu grŵp bach o arweinwyr cenedlaethol i gynorthwyo byrddau iechyd i roi’r cynllun ar waith ac unioni’r amrywiaeth o ran gofal yr ydym yn ei weld. Felly, gan ddefnyddio rhan o'r dyraniad blynyddol o £1 filiwn, mae gennym arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer diabetes, a nifer o swyddi arweinyddiaeth eraill sy'n cwmpasu therapi pwmp inswlin, gofal traed, a'r cyfnod pontio i wasanaethau i oedolion ac addysg strwythuredig. Mae’r arweinydd clinigol cenedlaethol hwnnw wedi cael croeso eang, nid yn unig o fewn y gwasanaeth, ond ar draws y trydydd sector sy’n ymgyrchu hefyd. Felly, bydd y grŵp gweithredu cenedlaethol sy'n cynnwys cydweithwyr yn y trydydd sector yn parhau i osod y cyfeiriad strategol ar gyfer diabetes ac yn gweithio i gynorthwyo byrddau iechyd i wella gwasanaethau diabetes yn barhaus.
I droi’n ôl at natur yr her sy'n ein hwynebu, rydym yn credu bod lle, er enghraifft, i fwy o weithredu gorfodol, boed hynny'n ardoll ar siwgr, hysbysebu, a bod bwyd afiach, diod a thybaco ar gael—yn enwedig o ran lleihau lefel diabetes math 2 a’r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â diabetes. Fodd bynnag, ni fydd ymyrraeth na gorfodaeth gan y Llywodraeth yn unig yn datrys yr her genedlaethol sy'n ein hwynebu. Fel yr wyf wedi’i ddweud, mae hon yn broblem i’r gymdeithas gyfan. Fel cenedl, nid ydym yn gwneud digon o ymarfer corff, nid ydym yn bwyta’n ddigon da, ac nid ydym yn gwneud hanner digon i leihau ein siawns o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd a diabetes math 2. Rydym yn gwybod hyn ers talwm iawn. Rydym yn cydnabod bod angen newid sylweddol i ymddygiad ar raddfa fawr, ond nid ydym wedi bod yn ddigon llwyddiannus wrth gyflawni’r newid hwnnw yn ein cymunedau. Ni fyddwn yn llwyddiannus, er hynny, drwy ddim ond darlithio pobl neu wneud rhai o'r ymddygiadau hynny’n anoddach neu'n ddrutach. Nid dyna, ynddo'i hun, fydd yr ateb y bydd ei angen arnom. Mae angen inni barhau i wneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws eu gwneud, eu deall, a’u rhoi ar waith. Mae angen y newid cymdeithasol hwnnw mewn agwedd ac ymddygiad, ac afraid dweud nad yw hynny'n hawdd. Nid oes unrhyw gymdeithas orllewinol wedi llwyddo i wneud hyn, ond rydym i gyd yn wynebu problem eithaf tebyg.
Mae hynny, fodd bynnag, yn golygu mwy o berchnogaeth, grymuso ac atebolrwydd personol. Bydd llwyddiant yn golygu gwneud mwy o deithio llesol, ymddygiadau iachach, a darparu amgylcheddau iach i ddysgu, gweithio a byw ynddynt. Ond, wrth gwrs, mae gwneud diagnosis o’r her a'r hyn y mae angen inni ei gyflawni yn llawer haws na penderfynu ar sut i wneud hynny. Dyna pam mae cyflwyniad cenedlaethol y rhaglen risg clefyd cardiofasgwlaidd yn un darn allweddol o waith a ariennir ar y cyd rhwng y grwpiau gweithredu diabetes, cardiaidd a strôc. Mae'n nodi’r bobl sy’n wynebu’r risg uchaf o glefyd cardiofasgwlaidd a diabetes ac yn mynd ati i wahodd y bobl hynny i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol er mwyn helpu i leihau eu risg. Ac, yn hollbwysig, nid yw hyn i gyd yn cael ei gynnal mewn lleoliad meddygol. Mae rhywbeth yma am newid ymddygiad a beth yw’r ffordd orau o geisio darparu a chyflawni hynny. Mae hon yn wir yn ymagwedd arloesol, amlglefyd, genedlaethol. Ac nid yw wedi’i chynhyrchu gan un gwleidydd, ond gan ein staff ar draws ein gwasanaeth iechyd a gofal, sy’n gwneud hon yn her fwy cymdeithasol, yn hytrach nag, fel y dywedais, ei chyfyngu i leoliad meddygol yn unig.
Mae'r rhaglen yn ganolog i’r ffordd y byddwn yn atal galw yn y dyfodol, ochr yn ochr â'n hymagwedd ehangach at ffyrdd iachach o fyw, ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu o'r dull hwnnw wrth inni fwrw ymlaen. Ni wnaf esgus wrthych chi heddiw, nac wrth grynhoi’r ddadl hon, bod gennym ni’r holl atebion yn y Llywodraeth, oherwydd yn sicr nid yw hynny’n wir. Mae angen inni ddeall beth sy'n gweithio ym mhob cymuned a sut yr ydym yn cyflwyno hynny’n llwyddiannus mewn gwahanol rannau o'n gwlad, oherwydd, os na wnawn, bydd y gost yn fwy na’r telerau ariannol a nodais ar ddechrau'r ddadl hon. Mae pris llawer uwch i’w dalu i unigolion a'u cymunedau, ac nid dim ond i les cymdeithasol ein gwlad, ond i les economaidd ein gwlad, os na allwn weld newid sylweddol i agwedd ac ymddygiad a gwneud rhywbeth mwy na dim ond newid ansawdd y gofal i’r nifer o bobl a fydd yn cael diabetes yn ystod eu bywyd yn ddiangen. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig.