– Senedd Cymru ar 2 Mai 2017.
Rydym nawr yn symud ymlaen at eitem 6 ar yr agenda, sef y ddadl ar wasanaethau diabetes yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.
Cynnig NDM6292 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:
a) wella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;
b) cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;
c) galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau; a
d) defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ar y papur ac i gael y cyfle i gael y ddadl hon am her iechyd cyhoeddus sylweddol i Gymru, ac i nodi ein cynnydd o ran gwella ansawdd gofal, yn ogystal ag ailddatgan ein disgwyliadau a’n huchelgais ar gyfer gwelliant pellach.
Rwy’n mynd i sôn yn fyr am y gwelliannau. Yn anffodus, ni fyddaf yn gallu cefnogi gwelliant 1 a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, gan nad ydym yn credu ei bod yn gywir i ddatgan nad oes addysg strwythuredig ar gael i blant a phobl ifanc. Rydym yn gwybod bod y gwasanaethau hyn ar gael. Ond, rwyf ar ddeall bod pryder gwirioneddol ynghylch y niferoedd y cofnodir eu bod yn manteisio ar addysg strwythuredig a’r ffigurau yr ydym yn eu cael o’n harchwiliad. Mae ein holl unedau diabetes pediatrig yn cynnig addysg hunanreoli i blant a phobl ifanc sydd newydd gael diagnosis. Hoffem wella'r hyn y mae’r archwiliad yn ei gyfrif i wella ei gywirdeb, ond nid yw cleifion yn cael eu hatgyfeirio i leoliad arall i gael addysg diabetes: mae'n cael ei ddarparu o fewn yr uned. Gallwn ddweud, fodd bynnag, ein bod yn ddiweddar wedi cyflwyno rhaglen addysg strwythuredig newydd i Gymru gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc o'r enw SEREN. Y rhaglen hon yw'r gyntaf o'i math yn y DU. Felly, rydym yn disgwyl gweld gwelliant o ran cofnodi cyfranogiad mewn addysg hunan-reoli yn y dyfodol, a hefyd, wrth gwrs, hoffem gynyddu niferoedd y bobl sy’n cymryd rhan. Felly, mater o eiriad yw hwn a dweud y gwir, yn hytrach na’n huchelgais ni a chydnabod bod angen inni wneud mwy.
O ran gwelliant 2, rwy’n hapus i groesawu a derbyn y gwelliant sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd ymdrin â gordewdra, a byddaf yn siarad am y mater penodol hwnnw yn nes ymlaen yn fy nghyfraniad. Ond, ar y cychwyn, hoffwn gydnabod, wrth gwrs, fel y bydd pobl yn y lle hwn yn ei wybod, bod yna wahaniaeth rhwng diabetes math 1 a math 2. Mae diabetes math 1 yn grŵp llawer llai o bobl ac nid oes ffactorau ffordd o fyw yn gysylltiedig â’i ddatblygiad, ond mae math 2 yn sicr yn gysylltiedig â ffactorau ffordd o fyw. Mae llawer o'n trafodaeth am dwf diabetes yn ymwneud yn bennaf â’r cynnydd mewn diabetes math 2 ledled ein gwlad. Ond, yr amcangyfrif yw bod diabetes yn ei holl ffurfiau, â’i holl gymhlethdodau, yn costio tua 10 y cant o’r gwariant ar iechyd yma yng Nghymru. Ac, os na fydd newid, o fewn yr 20 mlynedd nesaf rydym yn amcangyfrif y bydd hynny’n codi i tua 17 y cant o'r gwariant ar iechyd. Mae cofrestri meddygon teulu ar hyn o bryd yn dangos bod diabetes gan 7.3 y cant o'r boblogaeth dros 17 oed a bod y niferoedd yn parhau i godi. Mae hynny’n bron i 189,000 o'n ffrindiau, aelodau o'n teuluoedd, ein cydweithwyr a’n cymdogion sy'n byw gyda’r clefyd hwn, ac eraill sydd heb gael diagnosis eto.
Felly, o ran galw, cost a dioddef uniongyrchol, mae diabetes eisoes yn cael effaith ddifrifol ar ein cymdeithas a’n system iechyd a gofal. Mae'r niferoedd wedi cynyddu dros 17 y cant mewn pum mlynedd yn unig, ac rydym yn amcangyfrif y bydd yn effeithio ar dros 300,000 o bobl erbyn 2025. Mae'n bwysig cydnabod, er ein bod yn awyddus i wella'r gofal a thriniaeth, nad oes pilsen hud i drin ein ffordd allan o'r epidemig diabetes hwn. Mae hyn yn un o'r prif heriau iechyd cyhoeddus sy'n wynebu Cymru. Mae angen newid sylweddol mewn agwedd ac ymddygiad o fewn pob un o'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli.
Cafodd ein dulliau cenedlaethol yma yng Nghymru eu diweddaru ym mis Rhagfyr y llynedd, a bydd hynny’n mynd â ni hyd at 2020. Ar 21 Ebrill eleni, cyhoeddwyd datganiad o gynnydd a bwriad gennym, ac mae’r datganiad hwnnw yn tynnu sylw at yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni, yn ogystal â'r hyn sydd gennym i'w wneud eto. Mae'n nodi'n glir beth yw cyfeiriad, trefniadau arweinyddiaeth a meysydd ein pwyslais cenedlaethol.
Yn ogystal â lleihau nifer yr achosion newydd o ddiabetes, rydym yn cydnabod bod angen pwyslais parhaus ar wella’r ffyrdd yr ydym yn trin pobl ac yn eu cynorthwyo i reoli eu diabetes. Mae ar lawer o bobl sy’n dioddef o ddiabetes angen cymorth dwys ac eang i reoli eu cyflwr ac i leihau'r risg o ddallineb, clefyd y traed, methiant yr arennau a chlefyd y galon. I’r mwyafrif helaeth, darperir hyn mewn gofal sylfaenol a chymunedol, ond bydd ar eraill angen defnyddio ysbytai a thimau arbenigol iawn. Mae hynny'n atgyfnerthu'r angen i weithio fel system wirioneddol gydgysylltiedig. Dyna pam mae hi’n flaenoriaeth genedlaethol allweddol i ddefnyddio gwybodeg i ddarparu cofnod diabetes unedig ar draws gwahanol leoliadau gofal iechyd, a dylai’r cofnod diabetes unedig hwnnw helpu i ddarparu gofal diabetes integredig, cywir ac amserol lle bynnag y mae’r claf dan sylw yn cael gofal iechyd. Yn syml, dylai ein helpu i ddarparu gwell gofal i'r dinesydd.
Rydym ni’n gweithio gyda meddygon gofal sylfaenol, nyrsys arbenigol a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i ddatblygu model newydd o ofal diabetes sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Nid oes arnom ofn dysgu arfer gorau oddi mewn i Gymru na thu hwnt iddi i wneud hynny. Bydd hynny'n sicr yn golygu newid pellach i ofal sylfaenol ac atgyfnerthu'r angen i unioni arfer lleol nad yw’n dda ac nad yw’n rhoi blaenoriaeth briodol i ganlyniadau i gleifion.
Fodd bynnag, dylai fod pob claf â diabetes yn derbyn eu prosesau gofal allweddol a argymhellir gan NICE, gan weithio tuag at dargedau triniaeth unigol. Er yr holl gynnydd yr ydym wedi'i wneud, rydym yn gwybod nad ydym wedi gwneud hynny mewn modd mor gyson ag yr oeddem yn ei ddymuno. Felly, mae ein darparwyr gofal sylfaenol eisoes yn gweithio â data archwilio cenedlaethol i ymdrin ag amrywiadau mewn gofal a gwella safonau. Dyna fyfyrio priodol gan y gweithwyr proffesiynol eu hunain am yr angen i wneud gwelliannau pellach.
Rydym yn gwybod o'r archwiliad y gallwn wneud cynnydd ar adroddiadau diweddar, sydd wedi dangos chwe blynedd o welliant parhaus mewn canlyniadau ar lefel y boblogaeth. Mae gennym hefyd waith pwysig ar y gweill i gefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth a phobl sy'n aros yn yr ysbyty, gan fod diabetes gan un o bob pump o gleifion mewnol. Mae hynny, unwaith eto, yn amlygu pwysigrwydd rhaglenni gwella gwasanaethau ysbytai fel Think Glucose a Think, Check, Act. Mae ein harchwiliad diabetes cleifion mewnol yn cadarnhau bod ysbytai’n darparu gofal diabetes mwy personol, lefelau uchel o brofiad y claf, a llai o bobl yn dioddef hypoglycemia tra eu bod yn yr ysbyty. Unwaith eto, rwy’n derbyn bod mwy inni ei wneud i geisio gwelliant pellach a’i ddarparu. Rydym, fodd bynnag, i helpu i gyflawni hynny, wedi creu grŵp bach o arweinwyr cenedlaethol i gynorthwyo byrddau iechyd i roi’r cynllun ar waith ac unioni’r amrywiaeth o ran gofal yr ydym yn ei weld. Felly, gan ddefnyddio rhan o'r dyraniad blynyddol o £1 filiwn, mae gennym arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer diabetes, a nifer o swyddi arweinyddiaeth eraill sy'n cwmpasu therapi pwmp inswlin, gofal traed, a'r cyfnod pontio i wasanaethau i oedolion ac addysg strwythuredig. Mae’r arweinydd clinigol cenedlaethol hwnnw wedi cael croeso eang, nid yn unig o fewn y gwasanaeth, ond ar draws y trydydd sector sy’n ymgyrchu hefyd. Felly, bydd y grŵp gweithredu cenedlaethol sy'n cynnwys cydweithwyr yn y trydydd sector yn parhau i osod y cyfeiriad strategol ar gyfer diabetes ac yn gweithio i gynorthwyo byrddau iechyd i wella gwasanaethau diabetes yn barhaus.
I droi’n ôl at natur yr her sy'n ein hwynebu, rydym yn credu bod lle, er enghraifft, i fwy o weithredu gorfodol, boed hynny'n ardoll ar siwgr, hysbysebu, a bod bwyd afiach, diod a thybaco ar gael—yn enwedig o ran lleihau lefel diabetes math 2 a’r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â diabetes. Fodd bynnag, ni fydd ymyrraeth na gorfodaeth gan y Llywodraeth yn unig yn datrys yr her genedlaethol sy'n ein hwynebu. Fel yr wyf wedi’i ddweud, mae hon yn broblem i’r gymdeithas gyfan. Fel cenedl, nid ydym yn gwneud digon o ymarfer corff, nid ydym yn bwyta’n ddigon da, ac nid ydym yn gwneud hanner digon i leihau ein siawns o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd a diabetes math 2. Rydym yn gwybod hyn ers talwm iawn. Rydym yn cydnabod bod angen newid sylweddol i ymddygiad ar raddfa fawr, ond nid ydym wedi bod yn ddigon llwyddiannus wrth gyflawni’r newid hwnnw yn ein cymunedau. Ni fyddwn yn llwyddiannus, er hynny, drwy ddim ond darlithio pobl neu wneud rhai o'r ymddygiadau hynny’n anoddach neu'n ddrutach. Nid dyna, ynddo'i hun, fydd yr ateb y bydd ei angen arnom. Mae angen inni barhau i wneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws eu gwneud, eu deall, a’u rhoi ar waith. Mae angen y newid cymdeithasol hwnnw mewn agwedd ac ymddygiad, ac afraid dweud nad yw hynny'n hawdd. Nid oes unrhyw gymdeithas orllewinol wedi llwyddo i wneud hyn, ond rydym i gyd yn wynebu problem eithaf tebyg.
Mae hynny, fodd bynnag, yn golygu mwy o berchnogaeth, grymuso ac atebolrwydd personol. Bydd llwyddiant yn golygu gwneud mwy o deithio llesol, ymddygiadau iachach, a darparu amgylcheddau iach i ddysgu, gweithio a byw ynddynt. Ond, wrth gwrs, mae gwneud diagnosis o’r her a'r hyn y mae angen inni ei gyflawni yn llawer haws na penderfynu ar sut i wneud hynny. Dyna pam mae cyflwyniad cenedlaethol y rhaglen risg clefyd cardiofasgwlaidd yn un darn allweddol o waith a ariennir ar y cyd rhwng y grwpiau gweithredu diabetes, cardiaidd a strôc. Mae'n nodi’r bobl sy’n wynebu’r risg uchaf o glefyd cardiofasgwlaidd a diabetes ac yn mynd ati i wahodd y bobl hynny i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol er mwyn helpu i leihau eu risg. Ac, yn hollbwysig, nid yw hyn i gyd yn cael ei gynnal mewn lleoliad meddygol. Mae rhywbeth yma am newid ymddygiad a beth yw’r ffordd orau o geisio darparu a chyflawni hynny. Mae hon yn wir yn ymagwedd arloesol, amlglefyd, genedlaethol. Ac nid yw wedi’i chynhyrchu gan un gwleidydd, ond gan ein staff ar draws ein gwasanaeth iechyd a gofal, sy’n gwneud hon yn her fwy cymdeithasol, yn hytrach nag, fel y dywedais, ei chyfyngu i leoliad meddygol yn unig.
Mae'r rhaglen yn ganolog i’r ffordd y byddwn yn atal galw yn y dyfodol, ochr yn ochr â'n hymagwedd ehangach at ffyrdd iachach o fyw, ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu o'r dull hwnnw wrth inni fwrw ymlaen. Ni wnaf esgus wrthych chi heddiw, nac wrth grynhoi’r ddadl hon, bod gennym ni’r holl atebion yn y Llywodraeth, oherwydd yn sicr nid yw hynny’n wir. Mae angen inni ddeall beth sy'n gweithio ym mhob cymuned a sut yr ydym yn cyflwyno hynny’n llwyddiannus mewn gwahanol rannau o'n gwlad, oherwydd, os na wnawn, bydd y gost yn fwy na’r telerau ariannol a nodais ar ddechrau'r ddadl hon. Mae pris llawer uwch i’w dalu i unigolion a'u cymunedau, ac nid dim ond i les cymdeithasol ein gwlad, ond i les economaidd ein gwlad, os na allwn weld newid sylweddol i agwedd ac ymddygiad a gwneud rhywbeth mwy na dim ond newid ansawdd y gofal i’r nifer o bobl a fydd yn cael diabetes yn ystod eu bywyd yn ddiangen. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, ac rwyf wedi dewis y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn ei enw.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ar hyn o bryd, mae 177,000 o bobl yng Nghymru yn byw efo diabetes. Mae’n bosib bod rhyw 70,000 o bobl ychwanegol yn dioddef ohono fo, ond un ai ddim yn ymwybodol neu heb gael diagnosis wedi’i gadarnhau. Erbyn 2030, mae disgwyl y bydd y nifer yna tua 300,000 o bobl. Felly, tra bod bod â diabetes yn rhywbeth mawr i’r person sy’n dioddef ohono fo, mae o’n broblem enfawr i’r gwasanaeth iechyd yn ehangach, efo ryw 10 y cant o’r gyllideb, fel rydym ni wedi’i glywed droeon yn fan hyn, yn mynd ar ddelio efo diabetes, a’r rhan fwyaf o hynny yn mynd ar drin cymhlethdodau. Mae tua un o bob pum gwely mewn ysbytai yng Nghymru yn cael eu defnyddio gan berson sydd â diabetes, a’r cymhlethdodau cysylltiedig yma sy’n creu’r effaith ddofn ar iechyd a lles pobl ac ar y defnydd o wasanaethau gofal iechyd. Ond mae hyn hefyd, wrth gwrs, yn golygu bod cyflwyno rheolaeth well, mwy effeithiol, mwy priodol, yn cynnig cyfle gwych nid yn unig i wella iechyd pobl yng Nghymru, ond hefyd i arbed arian ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus ni.
Mi ddof i at ein gwelliant cyntaf ni fan hyn: y pwysigrwydd o gynnig a chynnal cyrsiau addysg strwythuredig ar gyfer y rhai sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes. Y llynedd, mi wnaeth Diabetes UK ddangos bod y diffyg defnydd o’r cyrsiau hyn wedi cyrraedd lefel ryfeddol. Dim ond 2 y cant o’r rhai a oedd wedi cael diagnosis diabetes math 1 yn ddiweddar ar draws Cymru a Lloegr, a dim ond 6 y cant o’r rhai a oedd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2, eto ar draws Cymru a Lloegr, oedd wedi mynychu cwrs. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru yn unig yn waeth fyth. Dim ond 1 y cant o’r rhai efo diabetes math 1, a 0.9 y cant o’r rhai efo diabetes math 2, oedd wedi cofnodi eu bod wedi mynychu rhaglen addysg strwythuredig. Mi oedd y ffigurau’n dangos hefyd mai dim ond 24 y cant o gleifion yng Nghymru efo diabetes math 1 oedd hyd yn oed wedi cael cynnig mynd ar gwrs. Yn amlwg, felly, mi ddylai’r mathau hynny o ffigurau—ac rwy’n gwybod yn iawn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohonyn nhw—fod wedi deffro Llywodraeth Cymru.
Erbyn hyn, mae yna ddau gyfeiriad at addysg yn y datganiad blynyddol o gynnydd. Mae’r cyntaf yn cyfeirio at fynediad at addysg ddigidol i oedolion. Roedd llwyfan addysg ddigidol wedi cael ei lansio ym mis Hydref y llynedd—hynny, wrth gwrs, yn ddatblygiad i’w groesawu, ac mi fyddem ni yn annog y Llywodraeth hefyd i ystyried sut y bydden nhw’n cyrraedd y rhai sydd wedi’u heithrio yn ddigidol, neu’r rhai a fyddai’n elwa mwy o broses wyneb yn wyneb.
Mae’r ail gyfeiriad yn nodi, er bod yna rhywfaint o welliant wedi bod yn y nifer sy’n manteisio ar addysg strwythuredig ymhlith plant a phobl ifanc, nid yw mwy na 50 y cant o blant a phobl ifanc yn defnyddio’r rhaglen, efo gwaith yn dal i fod ar y gweill i adnabod beth yw’r rhwystrau i hynny. Mae hwn, rydw i’n meddwl, yn ymateb rhy araf. Mae’r manteision ariannol ac, wrth gwrs, y manteision iechyd i bobl o sicrhau addysg strwythuredig ehangach yn rhy amlwg i’w gadael i broses fynd yn ei blaen yn organig, rhyw ffordd, i chwilio am ateb. Mae angen ymateb ar fyrder gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau mynediad i lawer iawn mwy o bobl i addysg strwythuredig.
Rydw i hefyd eisiau tynnu sylw at y methiant i sicrhau bod pob claf yn cael y set lawn o archwiliadau iechyd, a mynediad at y prosesau gofal. Mae’r adroddiad cynnydd blynyddol yn nodi bod canran y cleifion sy’n derbyn pob un o’r wyth proses ofal wedi gostwng ers y blynyddoedd blaenorol. Yn y tymor hir, mi allai hyn gael effaith ddifrifol ar eu hiechyd nhw yn gyffredinol. Mae’n rhaid i wasanaeth iechyd Cymru sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i wella’r perfformiad yma. Felly, mae yna’n dal llawer mwy, rydw i’n meddwl, y gallai’r Llywodraeth fod yn ei wneud.
O ran penderfyniad y Gweinidog i beidio â chefnogi ein gwelliant 1 ni oherwydd ei fod yn teimlo nad yw’n adlewyrchiad teg o’r sefyllfa, mae’r ffigurau, mae gen i ofn, yn dangos bod yna broblem fawr o ran mynediad i addysg strwythurol, yn benodol. Mi ddof i’n fyr, i gloi, at ein hail welliant ni, sydd wrth gwrs yn cyfeirio at ordewdra. Rwy’n falch o gael cefnogaeth y Llywodraeth ar hwn. Mae’n amlwg yn broblem fawr—y broblem iechyd cyhoeddus fwyaf sy’n ein hwynebu ni. Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth, gobeithio, i gael strategaeth i daclo gordewdra ar wyneb Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn fuan. Felly, gadewch inni sylweddoli difrifoldeb y broblem honno a delio â hi. Ond, o ystyried y dystiolaeth gynyddol bod diabetes math 2 yn gildroadwy efo diet iach i rai pobl, mae’n ymddangos imi fod hyn yn dal i gael ei danbrisio, braidd. Mae llawer mwy, yn sicr, sydd angen ei wneud.
Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl heddiw. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Allison Williams, cadeirydd y grŵp gweithredu ar ddiabetes, a holl bartneriaid y grŵp hwnnw, oherwydd, wrth ddarllen cynllun cyflawni 2016 a datganiad blynyddol 2017, rwy’n gweld cynnydd gwirioneddol. Mae rhai ffyrdd da iawn ymlaen. Bu rhai systemau cryf a strwythuredig iawn ac yn bennaf oll—ac yn eithaf anghyffredin—mesuradwy, o weld y bu rhai gwelliannau gwirioneddol dda. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu, ac rwy’n rhoi pob clod i'r tîm sydd y tu ôl i hyn.
Rwy'n hapus i gefnogi'r ddau welliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Weinidog, roeddwn yn meddwl, pan wnaethoch eich datganiad agoriadol, eich bod wedi rhoi rhybudd llym iawn inni i gyd am beryglon diabetes ar lefel bersonol, beth sy'n digwydd i'r unigolyn—pa un a oes ganddo fath 1 ynteu math 2; os ydych yn blentyn a bod gennych fath 1, sut y bydd hynny yn effeithio ar eich iechyd am weddill eich oes; y ffaith y gallech, fel diabetig math 2, efallai leihau rhai o’r effeithiau a gaiff arnoch drwy newid eich ffordd o fyw. Roeddwn yn meddwl eich bod wedi amlinellu rhybudd llym iawn ynghylch yr effaith a gaiff ar gyllid cyhoeddus, yr effaith hirdymor a gaiff ar y GIG, y twf mewn diabetes, a phan, yn enwedig, ein bod yn edrych ar fath 2, y costau enfawr a’r ymdrech ddeallusol anferth a wnaethpwyd i ymdrin â rhywbeth nad oes angen inni, mewn gwirionedd, ddioddef ohono—rhywbeth nad oes, mewn nifer fawr o achosion, angen iddo fod gennym.
Felly, ar ôl darllen y diweddariad a'r cynllun cyflawni a gwrando ar yr hyn a ddywedasoch, a gwrando ar yr hyn a ddywedodd Rhun, a dweud y gwir rwyf newydd benderfynu mai dim ond un sylw sydd gennyf: pam o pam nad ydym ni’n edrych ar sut yr ydym yn gwneud addysg gorfforol mewn ysgolion? Oherwydd, Weinidog, rwy’n mynd i ddim ond dyfynnu eich geiriau chi yn y fan yma. Dywedasoch nad ydym yn llwyddo i gyflawni'r newidiadau hyn. Nid ydym yn gwneud digon o ymarfer corff. Nid ydym yn bwyta’n ddigon da. Rydych chi’n edrych ar gamau gweithredu gorfodol fel trethu siwgr—rydych chi’n gofyn a oes angen inni wneud hynny. Wyddoch chi, mae'r rhain yn rhybuddion clir. Mae gennyf i grŵp o bobl yn fy etholaeth i sydd i gyd wedi colli aelod o’u cyrff, a phob un ohonynt wedi ei golli oherwydd diabetes. Maen nhw’n tueddu i fod yn bobl canol oed a hŷn, ac yn wir mae honno'n ffordd eithaf gwael o ddiweddu gweddill eich oes, yn brwydro—ac maen nhw’n brwydro, ac, oherwydd eu bod yn ddiabetig, ac am eu bod eisoes wedi colli un aelod, maent yna mewn gwirionedd yn aml yn mynd ymlaen i golli ail aelod, oherwydd bod eu cylchrediad gwaed mor wael.
Ond yr un peth y gallai’r Llywodraeth hon ei wneud heddiw yw newid y ffordd yr ydym yn cyflwyno ymarfer corff i mewn i ysgolion. Pe byddem yn rhoi mwy o amser ar gyfer addysg gorfforol i’n plant, a phe byddem yn gwneud addysg gorfforol yn llawer mwy o hwyl, fel bod y bobl ifanc hyn wir yn ymrwymo iddo fel eu bod, wrth adael yr ysgol a mynd o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ac o’r ysgol uwchradd i golegau ac o golegau i fod yn oedolion, bod hynny wir yn rhannol yn eu DNA—nid oes yn rhaid i’r ymarfer corff hwnnw olygu rhedeg rownd a rownd a rownd cae rygbi, hoci neu bêl-droed, ond gall yr ymarfer corff fod yn ddawnsio, gall fod yn farchogaeth ceffyl, gall fod yn loncian i fyny ac i lawr, gall fod yn wneud aerobeg, gall fod yn wneud hyfforddiant cylchol, gall fod yn chwarae rygbi, beth bynnag y bo, beth bynnag sydd o ddiddordeb iddynt.
Rwyf wedi edrych ar draws gwledydd eraill y DU ac rwyf wedi edrych ar draws gwledydd eraill Ewrop, oherwydd un o'r pethau yr wyf yn eu clywed gan y Llywodraeth yw bod y cwricwlwm yn orlawn: mae’n amhosibl gwneud lle i awr arall o addysg gorfforol i blant yn yr ysgolion. Yn syml, nid yw hynny’n wir. Gadewch inni fod yn wirioneddol glir: rydym yn cael rhai o'r canlyniadau mwyaf digalon yn ein system addysg, ac eto rydych yn edrych ar ysgolion eraill a gwledydd eraill ac maen nhw’n rhoi dwy neu dair awr yr wythnos i addysg gorfforol, i ymarfer corff iach, i addysgu pobl am ffordd o fyw gadarnhaol a all barhau.
Felly, dyma ni, yn treulio cymaint o amser, arian ac ymdrech i geisio datrys problem sydd, a dweud y gwir, pe byddem yn dechrau’r holl ffordd yn ôl yn y dechrau, efallai na fyddai angen i’r broblem honno fod gennym hyd yn oed. Felly, fy mhle i i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw i’r holl waith gwych hwn—daliwch ati, ond, wir, cysylltwch â’r Ysgrifennydd addysg, siaradwch â'ch cydweithwyr, a gadewch inni wneud newid sylfaenol, oherwydd efallai na allwn achub pobl sydd yn eu 30au, eu 40au a’u 50au heddiw, ond bobol bach, os gallwn ni helpu’r plant wyth, naw a 10 mlwydd oed a'r rhai yn eu harddegau a’u hugeiniau cynnar heddiw, efallai y gallem osgoi’r broblem ofnadwy hon yr ydych chi eich hun wedi’i hamlinellu mor glir fel bom amser sy’n aros i ffrwydro yn ein GIG.
Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ddiabetes math 1 yn fy sylwadau heddiw, sy'n ddim ond 10 y cant o'r holl bobl â diabetes, ond mae’n 96 y cant o'r holl blant a phobl ifanc sydd â diabetes. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog, yn ei gyflwyniad, wedi gwneud yn glir iawn y pwynt nad yw diabetes math 1 yn gysylltiedig â dim o'r materion ffordd o fyw yr ydym wedi’u trafod yma eisoes heddiw. Mae’r ffaith honno, rwy’n meddwl, weithiau’n mynd ar goll yn yr ymgyrch i annog plant ac oedolion i ddilyn arferion iachach o ran bwyta ac ymarfer corff i osgoi cael diabetes math 2, rhywbeth sy’n gwbl hanfodol yn fy marn i, ond rwy’n credu bod mater diabetes math 1 weithiau’n cael ei golli yn y ddadl honno.
Hoffwn dynnu sylw heddiw at un o fy etholwyr, Beth Baldwin, a gollodd ei mab Peter yn drasig yn 2015 yn ddim ond 13 oed oherwydd diabetes math 1 heb gael diagnosis. Mae hyn, wrth gwrs, yn drasiedi ofnadwy i deulu a ffrindiau Peter ac mae hyd yn oed yn fwy ofnadwy o feddwl y byddai prawf pigo bys syml a fyddai'n costio ceiniogau wedi gallu rhoi diagnosis o’i ddiabetes.
Mae Beth wedi ymroi i ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd tawel hwn sy'n taro ein pobl ifanc mor sydyn. Gall y symptomau gael eu cuddio gan symptomau tebyg i ffliw, fel a ddigwyddodd i Peter. Mae hi'n gweithio gyda Diabetes Cymru UK i annog ymarferwyr iechyd a'r cyhoedd yn gyffredinol i fod yn fwy ymwybodol o’r symptomau, sef bod yn sychedig, bod angen mynd i’r tŷ bach, bod yn fwy blinedig a bod yn deneuach.
Mae tua 25 y cant o bobl ifanc sy’n cael diagnosis hwyr o ddiabetes math 1 yn diweddu mewn gofal dwys ac yn drasig, fel yn achos Peter, i rai ohonynt, mae hyn yn rhy hwyr. Mae'r pecyn profi sy’n gallu gwneud diagnosis o ddiabetes yn aml yn cael ei roi i feddygfeydd teulu am ddim gan gwmnïau fferyllol, ond nid oes diwylliant o brofi’n rheolaidd fel sydd ar gyfer pwysedd gwaed, er enghraifft.
Mae'r cynllun cyflawni diabetes yn ystyried diabetes math 1 ac yn dweud:
'Mae angen diagnosis a thriniaeth brydlon ar gyfer diabetes math 1 i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chetoasidosis diabetig. Mae hyn yn hanfodol i blant a allai fod â diabetes math 1; dylai unrhyw blentyn sy'n wael ac sydd ag unrhyw un o nodweddion diabetes gael archwiliad brys o glwcos yn y gwaed mewn capilari a dylid ei atgyfeirio ar frys (i gael ei weld ar yr un diwrnod) i wasanaethau arbenigol os amheuir diabetes.'
Dyma beth hoffai fy etholwr ei wybod gan Ysgrifennydd y Cabinet: pa gamau ymarferol sy’n cael eu cymryd i atgyfnerthu'r neges hon? Oherwydd rwy’n meddwl mai’r mater pwysig am ddiabetes math 1 yw addysg ac ymwybyddiaeth fel y gellir cymryd camau yn gyflym. Efallai y gellid gwneud pethau syml fel posteri, nodiadau atgoffa, digwyddiadau hyfforddi ac ymgyrchoedd yn y cyfryngau cymdeithasol o bosibl, ac efallai fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud hynny, er mwyn hyrwyddo’r symptomau fel bod pobl ar lefel gofal sylfaenol yn ymwybodol o'r symptomau a all arwain at ganlyniadau trasig o'r fath.
A yw'n bosibl amlinellu ym mha ffordd y mae hyn yn cael ei fesur neu ei werthuso i sicrhau bod y broses ar gyfer gwneud diagnosis o ddiabetes math 1 a amlinellir yn y cynllun cyflawni diabetes yn cael ei dilyn? Pa ymrwymiad y mae byrddau iechyd wedi’i wneud i sicrhau bod staff yn cael yr wybodaeth a'r offer sydd eu hangen arnynt i adnabod a phrofi plant â diabetes math 1 a amheuir yn gyflym er mwyn osgoi cymhlethdodau difrifol y diagnosis hwyr?
Gyda chefnogaeth y teulu Baldwin, bydd Diabetes UK Cymru yn lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o symptomau diabetes math 1 i'r cyhoedd cyffredinol a’r proffesiynau gofal iechyd, ac roeddwn yn meddwl tybed a ellid darparu unrhyw gefnogaeth i gynorthwyo’r ymgyrch gyhoeddus hon. Rwy’n meddwl, wrth siarad am fath 1, ei bod yn hanfodol ein bod yn cyfleu’r neges hon—bod symptomau penodol y gellir eu hadnabod. Hoffem sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymwybodol iawn o hynny ac yn gallu gweithredu'n gyflym i wneud yr hyn a allant i helpu i atal trychinebau fel yr hyn a ddigwyddodd i'r teulu yn fy etholaeth.
Hoffwn ddiweddu drwy dalu teyrnged i'r teulu Baldwin a'r ffordd y mae’r farwolaeth drasig wedi eu harwain i ymgyrchu i geisio sicrhau bod symptomau diabetes math 1 yn cael mwy o sylw.
Mae diabetes yn un o'r prif heriau iechyd sy'n wynebu ein cenedl. Mae cymaint ag un rhan o chwech o boblogaeth Cymru yn wynebu risg uchel o ddatblygu’r clefyd, sy'n effeithio ar nifer gynyddol o bobl o gwmpas y byd. Fel y mae datganiad blynyddol o gynnydd Llywodraeth Cymru ei hun yn ei nodi, mae llawer i'w wneud i ymdrin â'r risgiau ffordd o fyw ehangach ar gyfer diabetes ac ymdrin ag anghydraddoldebau o ran y gallu i gael gafael ar wasanaethau diabetes.
Y gwir trist yw bod mwy a mwy o boblogaeth Cymru dros bwysau neu'n ordew ac, felly, yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes math 2. Fel y mae’r adroddiad 'Law yn Llaw at Iechyd' yn ei nodi, mae’r bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas unwaith a hanner yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes. Yn anffodus, nid yw’r rhan fwyaf o'r cyhoedd yn gyffredinol yn ymwybodol o'r risg o ddatblygu diabetes math dau, nac o'r risgiau iechyd eraill a ddaw yn ei sgil.
Nid yw pobl yn gwybod bod rhywun sydd â diabetes mewn mwy o berygl o gael strôc neu drawiad ar y galon na rhywun nad os ganddo ddiabetes. Nid yw pobl yn gwybod bod rhywun sydd â diabetes yn fwy tebygol o orfod colli aelod o’r corff na rhywun nad oes ganddo ddiabetes. Ac nid yw pobl yn gwybod ychwaith bod rhywun sydd â diabetes yn fwy tebygol o farw cyn pryd.
Mae'n rhaid inni addysgu'r cyhoedd am y risg y gallai ffordd o fyw afiach arwain at iddynt ddatblygu diabetes a'r goblygiadau iechyd ehangach y mae diabetes yn eu hachosi. Diolch byth, mae safonau gofal diabetig wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n bryd inni erbyn hyn ddechrau canolbwyntio ar addysg. Mae'n rhaid inni addysgu'r cyhoedd am y risgiau sy'n gysylltiedig â diabetes a'u haddysgu ynghylch sut i reoli'r cyflwr yn iawn.
Mae Diabetes UK wedi lansio ymgyrch 'cymryd rheolaeth', sydd â’r nod o sicrhau bod pawb sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes yn mynychu cwrs addysg diabetes, a fydd yn eu haddysgu am sut i reoli eu diabetes a byw bywyd iach llawn. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall pawb sydd wedi cael diagnosis o'r cyflwr yng Nghymru fynychu cwrs o fewn ychydig fisoedd ar ôl cael diagnosis. Gallai buddsoddiad yn y maes hwn arbed llawer o arian i’r GIG yn y tymor hir drwy leihau'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r clefyd.
Fodd bynnag, rwy’n credu bod yn rhaid i ni fynd yn llawer pellach. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei addysgu am bwysigrwydd deiet iach a’r risgiau sy'n dod gyda bod dros bwysau neu'n ordew. Fel cyn athro addysg gorfforol, ategaf bopeth y mae Angela Burns wedi'i ddweud am yr angen i gynyddu gweithgarwch corfforol yn y cwricwlwm. Rwyf hefyd yn credu y dylai fod gardd gan bob plentyn wrth iddo dyfu i fyny er mwyn iddo ddatblygu yn emosiynol ac yn gorfforol, a dysgu bod chwarae’n bwysig, oherwydd rwy’n credu bod y cyfryngau cymdeithasol wedi cael effaith ddofn ar weithgarwch plant. Ar adeg y Nadolig, nid ydym yn gweld cynifer o blant ar feiciau nawr ag yr oeddem yn arfer eu gweld; maen nhw’n treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd.
Felly, mae'n fater o gywilydd cenedlaethol bod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru a thraean o blant Cymru dros eu pwysau neu'n ordew. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael ein haddysgu’n well am y bwyd yr ydym yn ei fwyta. Dylai rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd ganolbwyntio ar addysgu ein pobl ifanc am sut i fwyta'n iach a sut i fyw’n iach. Mae'n rhaid i ni addysgu ein plant ifanc am y risgiau sy'n gysylltiedig â deiet afiach, y risg o ddatblygu diabetes, y risgiau o farw’n gynnar oherwydd cymhlethdodau diabetes, ac mae'n rhaid i ni addysgu ein pobl ifanc sut y gallant osgoi’r risgiau hynny a byw bywydau hir a chynhyrchiol, heb ddioddef diabetes math 2. Diolch yn fawr.
Tua phum mlynedd yn ôl, cefais ddiagnosis o ddiabetes fy hun, ac roedd yn sioc enfawr. Nid oeddwn yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf y byddai pobl yn ei wneud fel arfer. Math 2 oedd gennyf, ond nid oeddwn i erioed wedi ysmygu yn fy mywyd, nid oeddwn i erioed wedi yfed ac nid oeddwn i’n arbennig o dros bwysau ychwaith. Gall diabetes ddigwydd i bron unrhyw un ac am wahanol resymau. I mi, roedd oherwydd salwch a ymosododd ar fy mhancreas. Cyn gynted ag y cefais ddiagnosis, gwnes yr hyn y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud, sef mynd yn syth ar y rhyngrwyd i ddechrau edrych ar ffyrdd o wella fy hun o’r cyflwr ofnadwy hwn. Gwelais gryn dipyn o bethau a oedd i gyd yn sôn am yr un meysydd —am golli pwysau.
Nid wyf yn siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, pa un a ydych wedi clywed erioed am astudiaeth Newcastle ar y deiet 600 calori. Rydych wedi dweud bod hyn yn rhywbeth nad oes pilsen hud ar ei gyfer, ond gwnaeth Prifysgol Newcastle ymchwil a ariannwyd gan Diabetes UK, gan ddilyn 11 o bobl. Cafodd y bobl hyn eu rhoi ar ddeiet 600 calori am wyth wythnos, ac roeddent yn cael 200 o galorïau ychwanegol o fwyta llysiau. Ar ddiwedd yr astudiaeth, roedd saith o'r 11 o bobl hynny nad oeddent yn ddiabetig mwyach. Mae hynny'n anghredadwy. Hynny yw, os oes gennych y salwch ofnadwy hwn ac y gallwch fod mewn sefyllfa yn sydyn lle nad ydych bellach yn ddiabetig, mae'n rhyfeddol. Rhoddais ddiagnosis i mi fy hun o hyn a gwnes i hyn fy hun. Collais chwe stôn—efallai y bydd rhai ohonoch allan yna’n meddwl ‘rargian fawr!’ Roeddwn yn pwyso llai na fy ngwraig. Nid yw hi’n hoffi fy nghlywed yn dweud hynny, ond mae'n wir—roeddwn yn pwyso llai na fy ngwraig. Llwyddais i gadw fy hun rhag gorfod cymryd inswlin am tua dwy flynedd yn sgil hyn. Ni allai fy meddyg gredu bod y siwgr yn fy ngwaed wedi plymio mor sydyn i'r lefel arferol. Ond roedd yn anghynaliadwy i mi, a gan fod y cyflwr hwn wedi ymosod ar fy mhancreas, dyna pam na chafodd effaith hirdymor arnaf. Ond i bobl sy'n gyn-ddiabetig neu bobl â diabetes math 2 oherwydd swm mawr o fraster o amgylch y pancreas neu organau eraill, byddwn yn erfyn arnoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i edrych ar hyn. Nid un o'r pethau gwallgof hynny oddi ar y rhyngrwyd yw hwn; mae Prifysgol Newcastle, meddygon teulu a Diabetes UK i gyd wedi edrych ar hyn ac wedi dilyn yr astudiaeth hon.
Nawr, mae diabetes gan 7 y cant o'r boblogaeth. Mae'n gyfrifol am 10 y cant o wariant y GIG, sydd yng Nghymru yn £500 miliwn y flwyddyn. Mae dros hanner poblogaeth Cymru dros bwysau. Yr hyn nad yw llawer o bobl yn ei wybod yw os ydych yn fenyw a bod eich canol yn fwy na 31.5 modfedd, ac os ydych yn ddyn a bod eich canol yn fwy na 37 modfedd, rydych newydd gynyddu eich risg o ddiabetes math 2 yn sylweddol.
Pan gefais symptomau diabetes am y tro cyntaf—pan oeddwn yr hyn sy'n cael ei alw yn gyn-ddiabetig—rwy’n meddwl pe byddwn i wedi dilyn y deiet, y gallwn fod wedi gwthio pethau yn ôl hyd yn oed ymhellach cyn iddo ddatblygu i'r cyflwr a wnaeth. Ni fyddaf i fy hun yn marw o ddiabetes. Byddaf yn marw o glefyd y galon, byddaf yn wynebu risg o fynd yn ddall, o golli aelodau, o gael strôc. Oherwydd nid yw pobl yn marw o ddiabetes—rydych chi’n marw o’i sgil effeithiau. Cyn imi gael diagnosis, doeddwn i byth yn mynd at y meddyg. Nid oeddwn i’n mynd o gwbl—doedd dim angen. Pam gwastraffu fy amser i a’i amser ef drwy fynd? Ers hynny, rwy'n mynd yn rheolaidd ac mae gennyf lawer o afiechydon eraill sy'n ymddangos o bryd i'w gilydd sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r diabetes. Pe byddwn yn gyn-ddiabetig, credwch fi, ac yn gwybod yr hyn yr wyf yn ei wybod nawr, byddwn yn gwneud popeth o dan haul i atal y salwch hwn rhag datblygu i'r cyflwr y mae nawr—popeth—oherwydd mae’n bla ac yn felltith llwyr. Rwy’n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallwch daro golwg ar yr astudiaeth hon ac efallai gynnal treial. Rwy'n gwybod o siarad â meddygon teulu nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn ymwybodol o hyn, ac yn sicr nid oes ganddynt unrhyw syniad o sut i’w gynnig i bobl a fyddai'n gallu ei wneud. Gadewch inni wynebu’r peth—mae cael dim ond 800 calori y dydd am wyth wythnos yn gryn dipyn i’w ofyn. Mae angen cymhelliant arnoch i wneud hynny, ond bydd pobl allan yna a fydd yn elwa ar hyn. Nid yw'n fwled hud, ond gall helpu rhai bywydau. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl heddiw. Mi wnaf sôn yn fras am rai o'r sylwadau a wnaed, yn enwedig, ac yn eithaf dealladwy, cyfraniad Rhun ap Iorwerth. Hoffwn ymdrin â rhai o'r pwyntiau am addysg strwythuredig, oherwydd rwy’n cydnabod bod angen gwelliant—mae angen llwybr archwilio priodol i'n galluogi i ddeall yn iawn y niferoedd sy’n manteisio ar hyn a beth y gallwn ei wneud i gynyddu’r niferoedd eto. Mae'n rhan allweddol o reoli'r cyflwr. Nid yw'n cynnwys, efallai, yr atal yr ydym hefyd wedi ei drafod mewn amrywiaeth o gyfraniadau, ond rwy'n cydnabod bod rhywbeth yn y fan yna i ni ei ddatrys. Felly, rwy’n disgwyl gallu adrodd yn y dyfodol am y nifer sy'n manteisio ar y rhaglen Seren a bod hynny wedi cael yr effaith a ddymunir o ran y nifer sy'n manteisio ar yr addysg strwythuredig honno, yn enwedig ar gyfer y rhai â diabetes math 1, ond hefyd am weld cynnydd pellach yn cael ei wneud mewn profion NICE, oherwydd, a dweud y gwir, mae llawer o'r gostyngiad mewn gwirionedd oherwydd un prawf lle’r oedd gostyngiad sylweddol sef y gostyngiad yn y prawf albwmin wrin.
Felly, a dweud y gwir, pan oeddwn i’n sôn am fwrw ymlaen â'r canfyddiadau archwilio ac ymdrin â'r amrywiaeth o ran gofal gyda'n cydweithwyr mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, mae hynny'n rhan bwysig iawn o ddeall pam mae’r amrywiad hwnnw’n bodoli, ar gyfer y profion, y gofal a ddarperir a'r canlyniad. Ceir hunan-fyfyrio gwirioneddol yn y proffesiwn am y ffaith eu bod yn rhan o’n helpu ni i allu gwneud hynny. Nid dim ond mater o geisio newid pethau yw hyn, a dweud mai’r oll sydd ei angen yw i’r dinesydd gymryd cyfrifoldeb llawn a rheolaeth lawn. A dweud y gwir, mae gennym gyfrifoldeb o hyd yn y Llywodraeth ac o fewn y gwasanaeth i wneud y peth iawn o ran darparu’r prosesau gofal, yn ogystal â bod yn briodol atebol am yr hyn sydd yn digwydd ac nad yw’n digwydd.
Unwaith eto, o ran cyfraniad Angela Burns, yr wyf, unwaith eto, yn ei groesawu ar y cyfan, yr hyn y byddwn i’n ei ddweud am eich pwyslais ar weithgarwch corfforol i bobl ifanc—eto, rwy’n cydnabod ei fod yn wirioneddol bwysig, nid yn unig yn y maes hwn, ond mewn llu o rai eraill. Ac mae'n bwysig gweld hynny wedi’i gynnwys fel rhan o'r adolygiad o'r cwricwlwm ar gyfer y dyfodol ynghylch sut i addysgu addysg gorfforol. Ond, mewn gwirionedd, rydym eisoes yn cymryd camau i gynyddu’r gweithgarwch corfforol sy'n digwydd yn ein hysgolion—y filltir ddyddiol yw'r enghraifft fwyaf amlwg. Mae rhywbeth yma am beidio â gweld gweithgarwch corfforol fel gwneud chwaraeon. Rwyf i, yn bersonol, wrth fy modd â chwaraeon. Roeddwn yn mwynhau chwarae chwaraeon pan oeddwn yn berson ifanc nes imi gael fy anafu wrth wneud chwaraeon yn gystadleuol; rwyf nawr yn gystadleuol ar y llinell ochr. Ond yr her yw sut yr ydym yn normaleiddio gweithgarwch corfforol ac yn ei gwneud yn hawdd i bobl ei wneud, ac yn syml. Oherwydd rwy’n credu bod her o ran peidio â dweud bod yn rhaid i weithgarwch corfforol olygu chwaraeon. Mae'n fater o’r ystyr ehangach o sut yr ydym yn normaleiddio gweithgarwch yn ei ystyr ehangach unwaith eto, fel bod pobl yn disgwyl hynny ac wir yn ei fwynhau.
Nid wyf yn dadlau â’r sylw yna o gwbl. Y gwirionedd yw bod gwersi addysg gorfforol wedi lleihau o un munud a thri deg eiliad dros y degawd diwethaf, felly dydyn nhw'n sicr ddim ar gynnydd. Rwy’n meddwl y dylem geisio normaleiddio gweithgarwch. Mae'n anodd iawn gwneud hynny, fodd bynnag, pan fo mwy a mwy o leihau ar gyfleusterau ysgolion, gan gynnwys cyfleusterau chwarae, cyfleusterau awyr agored ac ati. Dyna pam y gwnes i’r pwynt am ei wneud yn hwyl, fel bod y plant hynny’n ei fwynhau. Nid oes yn rhaid iddo olygu rhedeg o gwmpas cae pêl-droed, gallai fod yn ddawnsio amser cinio—byddai unrhyw beth fel yna’n dda, ac nid ydynt yn gwneud hynny.
Wel, rwyf i’n meddwl bod llawer o'r pethau hynny yn digwydd, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, ond hefyd mewn ysgolion uwchradd. Mae yna her unwaith eto am sut yr ydym yn ei normaleiddio a hefyd nad yw’r normaleiddio hwnnw’n rhywbeth sydd wedi’i gyfyngu i ysgol yn unig. Nid cyfrifoldeb gweithwyr addysg proffesiynol yn unig yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gorfforol weithgar ac yn gorfforol llythrennog. Dyna ran o'r her sydd gennym, a dweud y gwir. Mae'n ymwneud ag ymgysylltiad y grŵp rhieni a gofalwyr a'n henghreifftiau cymunedol hefyd. Os na allwn ni gael y rhan honno’n iawn, a dweud y gwir, bydd gennym frwydr anodd. Felly, nid wyf yn meddwl bod gennym lawer o anghytundeb. Mae wir yn fater o sut yr ydym yn mynd o’r diagnosis a'r hyn yr hoffem ei wneud i gyflawni hynny’n ymarferol mewn gwirionedd.
Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am achub pobl yn y dyfodol, ond rwy’n meddwl mai rhan o'n syniad yw y gallwn achub pobl yn eu 30au, 40au a’u 50au, naill ai drwy atal diabetes math 2, neu drwy ei reoli’n well, ac, a dweud y gwir, rwy’n mynd i gyfeirio’n nes ymlaen at lawer o dystiolaeth am y ffaith bod gweithgarwch corfforol yn creu manteision gwirioneddol naill ai o ran atal neu o ran rheoli’r cyflwr hwn, ac amryw o rai eraill, yn well.
Rwyf hefyd yn cydnabod y pwyntiau a gododd Julie Morgan am ddiabetes math 1. Rwy’n meddwl fy mod wedi cwrdd â Beth Baldwin gyda chi ac wedi cael trafodaeth gyda'i mab, Peter. Ac fel y dywedasoch yn gwbl gywir, mae'r cynllun cyflawni’n cydnabod bod angen gwella o ran canfod math 1 ac ymwybyddiaeth o’i symptomau. Ac rydym yn bwriadu ymgymryd â mesurau gyda fferyllfeydd cymunedol ynglŷn â’r rhan sydd ganddynt i'w chwarae mewn profion manteisgar. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ysgrifennu ataf i roi manylion digwyddiad lansio’r ymgyrch ymwybyddiaeth y cyfeiriasoch ato.
Rwy’n meddwl am y cyfraniad a wnaeth Caroline, o UKIP, wrth gwrs, ac rwy'n falch bod ei chyfraniad yn cydnabod y gwelliant sydd wedi ei wneud, ynghyd â’r angen am fwy. Ond byddwn yn dweud eto, yn dawel ond yn glir, bod dysgu am ddeiet iach yn digwydd ym mhob un o'n hysgolion. Mae yna neges glir iawn, iawn, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, y byddai unrhyw un ohonom sy’n ymweld ag ysgol gynradd yn ei hadnabod am fwyta'n iach. Mae'n mynd yn ôl at y pwynt hwn bod gwahanol fesurau’n cael eu defnyddio y tu allan i gatiau'r ysgol, sy’n gosod y patrwm ar gyfer yr hyn y mae pobl yn meddwl ac yn ystyried ei fod yn normal o ran bwyta'n iach a dysgu.
Wrth feddwl am gyfraniad diddorol iawn Nathan Gill, rwy’n ymwybodol o'r astudiaeth y gwnaethoch gyfeirio ati. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o hynny, bod gennym eisoes y dystiolaeth fwyaf arwyddocaol o effaith ymddygiad iachach yng Nghymru, ac mae honno’n dod o Gymru, sef astudiaeth Caerffili. Mae’r garfan honno o bobl—mae'n gyfoeth anhygoel o wybodaeth am bwysigrwydd rheoli deiet, ymarfer corff, alcohol ac ysmygu, ac os na allwn ymdrin â’r pedair her ymddygiad fawr hynny—nid yn unig yn y maes hwn, ond mewn llawer o rai eraill—bydd gennym boblogaeth sy’n llai iach, bydd yn ddrutach i aros yn afiach yn hwy, bydd mwy o boen ac anghysur i'r bobl hynny, a bydd mwy o heriau economaidd hefyd. Mae hwn yn un o'r meysydd hynny lle’r ydym yn gweld hynny’n digwydd ac yn dod yn wir.
Felly, rwy’n fodlon parhau i ddweud bod angen i ni gyflawni’r newid ymddygiad hwnnw gyda'n dinasyddion—nid yw’n fater o bregethu neu geisio codi cywilydd ar bobl, ond gweithio ochr yn ochr â nhw i annog ac i gyflawni rhywfaint o’r newid hwnnw mewn gwirionedd, a'r holl fesurau ar gyfer gorfodi a gofynion, yn ogystal ag annog a grymuso dinasyddion hefyd, a’u cyfrifoldeb eu hunain. Felly, rwy’n fodlon ymrwymo i'r gwelliant parhaus yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â thrin pobl sydd â diabetes a gofalu amdanynt, ac atal diabetes, yn ogystal â'r tryloywder yn ein cynnydd. Nid yw hwn yn fater pleidiol mewn cynifer o ffyrdd, fel y mae’r ddadl heddiw yn ei gydnabod, ond mae wir yn fater cenedlaethol o bwysigrwydd cenedlaethol i bawb ohonom.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddaf yn symud ymlaen yn syth i'r cyfnod pleidleisio.