Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 3 Mai 2017.
Wel, Llywydd, rwy’n ymwybodol o’r system yn yr Alban. Nid wyf o’r farn y gellir honni bod y system wedi arwain yn uniongyrchol at y ffaith eu bod wedi cael etholiadau a ymleddir yno, gan fod ganddynt ardaloedd mwy o faint, wrth gwrs, gyda mwy o gynghorwyr o ganlyniad. Mae ein Papur Gwyn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni, yn argymell caniatáu dewis o ran y ffordd y cynhelir etholiadau—y dull o ethol i awdurdodau lleol. Mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben erbyn hyn, a gobeithiaf allu gwneud datganiad i’r Cynulliad cyn diwedd tymor yr haf ynglŷn â chanlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.