<p>Pwerau Trethu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:39, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peri rhai risgiau penodol i Gymru, ond bydd hefyd yn arwain at rai cyfleoedd, yn enwedig y gallu, er enghraifft, i osod cyfraddau rhanbarthol neu is-genedlaethol ar gyfer TAW, er enghraifft ar lety mewn gwestai, i roi hwb i’n sector twristiaeth, neu ar gyfer adnewyddu tai i roi hwb i’n sector adeiladu. A fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud cais i ddatganoli’r pwerau hynny i Gymru er mwyn inni gael ysgogiadau treth a fydd yn rhoi hwb i’n heconomi?