<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:43, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Blaid Lafur yn ymladd etholiadau lleol gyda maniffestos ledled Cymru, ac yn esbonio i’r etholaethau lleol beth yn union y byddai awdurdod a reolir gan Lafur yn ei gynnig iddynt. Maent yn gwneud hynny yn erbyn cefndir Papur Gwyn lle y mae’r Llywodraeth hon wedi amlinellu ein polisïau cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol yn y dyfodol.

Cytunaf â’r hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud—fod pob plaid yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i ddemocratiaeth pan fyddant yn rhoi argymhellion gerbron yr etholwyr ac yn caniatáu i’r bobl hynny benderfynu drostynt eu hunain rhwng y gwahanol brosbectysau sydd o’u blaenau, a chredaf y gwnawn yn dda i adael i bobl wneud y penderfyniadau hynny pan fyddant yn mynd i’r blwch pleidleisio yfory.