Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch. Ddoe, yn ystod amser cwestiynau’r Prif Weinidog, fe bwysodd Steffan Lewis am ddiweddariad am gomisiwn gwaith teg y Prif Weinidog, ac fe ofynnodd arweinydd Plaid Cymru am arwydd o gefnogaeth i’r egwyddor o ddileu cytundebau dim oriau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwyf i am ddilyn y mater ymhellach efo chi heddiw yma. A ydych chi’n cytuno efo fi, ac efo arweinwyr eich plaid chi yn Lloegr, nad oes lle i gytundebau dim oriau mewn arferion cyflogaeth cyhoeddus cyfoes?