Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Weinidog, mae rhai o’ch diwygiadau arfaethedig i lywodraeth leol yn galonogol iawn. Ymddengys eich bod yn awyddus i gael mwy o dryloywder, ac efallai hefyd eich bod yn derbyn y syniad fod angen mwy o amrywiaeth barn weithiau. Nid yw trigolion lleol yn cael budd go iawn o gynghorau sy’n cael eu rhedeg fel gwladwriaethau un blaid. A fyddech yn croesawu pe bai cynghorau’n cael gwared ar y system gabinet a dychwelyd at yr hen system bwyllgorau, a oedd yn galluogi aelodau o bob plaid i gymryd rhan yn y gwaith o redeg y cyngor?