Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch am eich ateb. Mae’r dewis yn swnio fel datblygiad i’w groesawu. Fodd bynnag, tybed a fyddai pleidiau sydd wedi bod yno ers amser hir ac sydd wedi bod yn rhedeg eu cyngor ers peth amser yn barod i gyflwyno newid system o’r fath yn wirfoddol, ond cawn weld. Mae lleoliaeth yn egwyddor sy’n cael ei hyrwyddo o bryd i’w gilydd gan eich Llywodraeth. Mae UKIP hefyd yn cefnogi lleoliaeth. Rydym yn awyddus i ganiatáu i drigolion lleol wneud penderfyniadau ynglŷn â datblygiadau cynllunio mawr yn eu hardaloedd. Mewn geiriau eraill, rydym yn awyddus i gael refferenda lleol sy’n rhwymo mewn cyfraith. A yw hon yn enghraifft o leoliaeth y byddech yn ei ffafrio?