<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:53, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Dirprwy Lywydd, mater i’r awdurdodau lleol eu hunain yw penderfynu ar y systemau sy’n gweddu orau i’w hanghenion a’u hamgylchiadau lleol. Ni allwch siarad o blaid manteision lleoliaeth mewn un cwestiwn a gofyn wedyn i mi bennu o’r fan hon yng Nghaerdydd y ffordd y caiff biniau eu casglu mewn gwahanol rannau o Gymru; nid yw honno’n ffordd gyson o ymdrin â llywodraeth leol. Nid wyf ychwaith, gyda llaw, yn credu bod y dystiolaeth yn dangos bod gwahanol batrymau ar gyfer casglu biniau’n cael effaith andwyol ar ailgylchu.