Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i £1 biliwn o fuddsoddiad arloesol mewn seilwaith ar gyfer tri phrosiect buddsoddi cyfalaf mawr drwy’r model buddsoddi cydfuddiannol ym mis Mawrth yn newyddion calonogol iawn. Ac yn wir, mae’n dangos bod Llywodraeth Lafur Cymru, yn y cyfnod heriol hwn yn ariannol, yn wynebu’r her o ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus. Ysgrifennydd y Cabinet, pryd a sut y bydd busnesau’n gallu tendro am y prosiectau a gyflwynir drwy’r model hwn?