Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 3 Mai 2017.
A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiwn pwysig? Efallai ei bod yn ymwybodol ein bod wedi cynnal diwrnod profi’r farchnad llwyddiannus iawn ar 23 Mawrth. Fe’i mynychwyd gan fy nghyd-Aelodau Vaughan Gething ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mynychodd dros 250 o gynrychiolwyr o ystod eang o fusnesau yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw i glywed mwy am y cyfleoedd y bydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn eu cynnig. Rydym bellach yn gallu darparu gwybodaeth yn uniongyrchol i’r rhai sydd â diddordeb. Bydd yr achosion busnes yn cael eu datblygu ymhellach, ac rydym wedi cynllunio rhagor o ddigwyddiadau dros yr haf er mwyn sicrhau bod busnesau ym mhob rhan o Gymru mor ymwybodol â phosibl o’r cyfleoedd newydd hyn ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf.