Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 3 Mai 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb i Joyce Watson, cyfeiriasoch at welliannau i’r seilwaith trafnidiaeth, ac yn wir, cafwyd sawl cyhoeddiad mewn perthynas â buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’w wneud, naill ai ar ei phen ei hun neu mewn partneriaeth ag eraill yn ne Cymru—ffordd liniaru’r M4, terfynfeydd newydd ym Maes Awyr Caerdydd, system metro de Cymru ac ati. Ac rydych wedi gwneud cyhoeddiad mewn perthynas â gogledd-ddwyrain Cymru, ond beth am weddill Cymru, ac etholaethau fel fy un i? Ceir tagfeydd cyson ar yr A55 yng ngogledd Cymru ac mae hynny’n achosi pwysau ar y diwydiant twristiaeth a busnesau eraill yng ngogledd Cymru, yn ogystal â thrigolion sy’n defnyddio’r ffordd honno yn aml. Nid oes llain galed ar rannau helaeth o’r ffordd honno, ac mae angen gwella ein seilwaith trafnidiaeth hefyd. Pa fudd a ddaw i ogledd-orllewin Cymru a chanol gogledd Cymru o ganlyniad i welliannau Llywodraeth Cymru i’r seilwaith trafnidiaeth?