Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 3 Mai 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cynllun buddsoddi sydd gennych yn Llywodraeth Cymru yn enfawr, ond dylid defnyddio caffael fel arf i gefnogi busnesau Cymru, yn enwedig yn fy ardal i gyda’r diwydiant dur. Beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud, mewn gwirionedd, i gefnogi’r diwydiannau hynny drwy gaffael, a pha strategaethau rydych yn eu rhoi ar waith yn hynny o beth?