Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 3 Mai 2017.
Dirprwy Lywydd, fel y dywedodd Adam Price yn gynharach ynglŷn â’r cyfleoedd a allai ddod mewn perthynas â TAW ar ôl Brexit, mae’n rhaid i ni ddweud bod y ffyrdd y gellir datblygu polisi caffael y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn faes arall pwysig iawn y mae angen i ni weithio arno yma yng Nghymru, ac mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar hynny. Nid yw hynny wedi ein hatal rhag gwneud cryn dipyn o waith eisoes ar gaffael mewn perthynas â’r diwydiant dur. Mae grŵp penodol wedi dod ynghyd, mae adroddiad wedi cael ei gynhyrchu ac mae’n nodi cyfleoedd ar gyfer defnyddio dur Cymru mewn penderfyniadau buddsoddi yng Nghymru. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod yr arian sy’n cael ei wario o bwrs y wlad ar seilwaith Cymru yn cyd-fynd â chyfleoedd i fusnesau Cymru, yn enwedig y diwydiant dur, elwa ar y lefel sylweddol iawn honno o fuddsoddiad.