Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 3 Mai 2017.
Ie, diolch am hynny. Er bod y Llywodraeth wedi yma wedi darparu arian, ni chredaf ei bod yn system a roddwyd ar waith yn gyffredinol ac yn gyson, felly byddai’n dda pe gallai bob cyngor ddarlledu cyfarfodydd cyngor llawn fan lleiaf. Gobeithio y byddwch yn cadw at hyn, ac rwy’n siŵr y gwnewch. Mae’n dda fod rhai o’r cynghorau hefyd yn darlledu cyfarfodydd cabinet, ac mae hynny i’w groesawu. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd y byddwch yn mynd ar drywydd hyn wedi’r etholiadau lleol?