Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 3 Mai 2017.
Wel, cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod. Credaf fod hawl gan boblogaethau lleol i weld yr hyn sy’n digwydd yn eu henw yn siambrau eu cynghorau. Dyna pam fod y Papur Gwyn yn argymell y dylai darlledu cyfarfodydd cyngor fod yn ofyniad statudol, yn hytrach na chais i’r awdurdodau lleol yn unig, ac mae’r mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru’n dilyn y llwybr hwnnw eisoes. Gobeithiaf y bydd ein Papur Gwyn yn rhoi ysgogiad pellach i wneud hynny ledled Cymru.