<p>Prosiectau Ynni Cymunedol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:12, 3 Mai 2017

Mi fyddwch chi’n ymwybodol bod y sector ynni dŵr cymunedol wedi’i effeithio’n wael iawn wrth i ardrethi busnes cael eu hail-werthuso. Mae dros 92 y cant o gynlluniau hydro yng Nghymru yn wynebu cynnydd anferthol, hyd at 900 y cant. Roedd eich maniffesto chi ar gyfer 2016 yn nodi cefnogaeth eich plaid i gynlluniau ynni cymunedol. A fedrwch chi ymrwymo i gynnig pecyn gostyngiad trethi hael i gefnogi prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru, fel sy’n digwydd yn yr Alban? Mi fyddai hyn yn help mawr, ac yn gyfle i’ch Llywodraeth gefnogi’r sector mewn gweithred yn ogystal â gair.