Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 3 Mai 2017.
Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i ymgysylltu â phawb yng Nghymru ac mae hyrwyddo’r Cynulliad yn un o’n prif flaenoriaethau. Cafodd strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd newydd ei chymeradwyo ym mis Ionawr, sy’n cynnwys dwy fenter newydd allweddol, sef sefydlu senedd ieuenctid i Gymru a chyflawni argymhellion y tasglu gwybodaeth a newyddion digidol y disgwylir iddo gyflwyno adroddiad yn y tymor yma.