Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn, sydd yn amserol hefyd, fel mae’n digwydd, gan ein bod ni, fel Comisiwn a Chynulliad, wedi cychwyn ar yr ymgynghoriad gyda phobl yng Nghymru—pobl ifanc yng Nghymru yn benodol—ar sut y byddwn yn ei sefydlu, a pha fath o senedd ieuenctid yr ŷm ni yn mynd i’w sefydlu yma, i gyd-redeg gyda’n Cynulliad ni. Rŷm ni wedi cychwyn ar yr ymgynghoriad yna yn Ysgol Bro Pedr ddydd Gwener diwethaf. Rwy’n falch bod sioe Nefyn wedi bod yn gyfle hefyd i gysylltu’n uniongyrchol â phobl ifanc. Bydd yr ymgynghoriad yna yn mynd ymlaen tan ddiwedd mis Mehefin. Felly, rwy’n annog pob Aelod Cynulliad fan hyn i sicrhau bod pobl ifanc yn eich etholaethau a’ch rhanbarthau yn cymryd rhan, yn rhannu eu barn nhw ar ba fath o senedd ieuenctid yr ŷm ni eisiau ei gweld yma yng Nghymru. Pobl ifanc Cymru wnaeth ofyn i ni fel Aelodau Cynulliad i sefydlu senedd ieuenctid yma yng Nghymru yn y lle cyntaf. Rŷm ni eisiau iddyn nhw deimlo perchnogaeth o’r senedd ieuenctid yna o’r cychwyn cyntaf, ac rwy’n gobeithio, wrth inni symud ymlaen i wrando ar eu barn nhw, yn ffurfio’r senedd ieuenctid yna, y byddwn ni’n gallu gwneud hynny wrth fynd drwy’r hydref, ac y bydd ein senedd ieuenctid ni yma yng Nghymru am y tro cyntaf yn cael ei sefydlu ar gychwyn 2018.