<p>Proffylacsis Cyn-gysylltiad</p>

Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:31, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth PROUD a gynhaliwyd yn y DU yn 2015 i werthuso effeithiolrwydd proffylacsis cyn-gysylltiad HIV, neu PrEP, ymhlith grŵp risg uchel o ddynion hoyw a deurywiol, fod defnydd dyddiol ohono yn lleihau nifer yr heintiau HIV 86 y cant yn y grŵp hwn, ac o’i gymryd yn y ffordd gywir, roedd ei effeithiolrwydd bron yn 100 y cant. O gofio hynny, sut rydych yn ymateb, o ystyried eich sylw ynglŷn â’ch ymgysylltiad ag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, i’w galwad i ddarparu hwn ochr yn ochr â’u hymyriadau atal eraill, megis defnyddio condomau, newid ymddygiad, a phrofion HIV rheolaidd?