Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 3 Mai 2017.
Fel y gŵyr yr Aelod, ac Aelodau eraill y Cynulliad, sefydlais banel annibynnol i oruchwylio ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adolygiad Donna Ockenden o ofal cleifion ar ward Tawel Fan. Yr hyn y bwriadwn ei sefydlu yn rhan o ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wrth gwrs, yw a allai ansawdd y gofal a ddarparwyd fod wedi bod yn ffactor a gyfrannodd at farwolaeth rhai cleifion.