Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r sylwadau hyn, a wnaed mewn llythyrau i deuluoedd cleifion yng ngogledd Cymru, yn peri cryn bryder. Ac o ystyried bod bron i ddwy flynedd bellach ers cyflwyno mesurau arbennig, a bod oddeutu dwy flynedd a hanner ers cyhoeddi adroddiad Donna Ockenden ar gam-drin sefydliadol ar ward Tawel Fan, bydd yn peri cryn bryder fod rhai unigolion yn dal i gael eu cyflogi gan y GIG, gyda’u cyflogau’n cael eu talu gan y trethdalwyr, sydd eto i golli eu gwaith ac sydd eto i wynebu cael eu diswyddo, ac sydd efallai’n dal i weithio yn y gwasanaeth iechyd er gwaethaf y niwed posibl y gallent fod wedi’i achosi i unigolion ar y ward hon.
Rwy’n bryderus fod rhai o’r materion diwylliannol a nodwyd yn adroddiad Donna Ockenden yn dal i fod yn gyffredin yn y gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, a bod pwysau sylweddol o hyd ar gapasiti gwelyau cleifion mewnol. Yr wythnos hon, cefais e-bost gan deulu y bu’n rhaid anfon rhywun sy’n annwyl iddynt i ward iechyd meddwl oherwydd eu hiechyd meddwl gwael, a bu’n rhaid eu hanfon i Fryste, gan nad oedd digon o welyau yng ngogledd Cymru. Mae hynny’n annerbyniol. Ac mae hefyd yn annerbyniol fod rhai cleifion yn gorfod cysgu ar soffas mewn lolfeydd ar wardiau iechyd meddwl gan nad oes digon o welyau, a bod rhai cleifion benywaidd hefyd yn gorfod cysgu ar wardiau iechyd meddwl gwrywaidd yng ngogledd Cymru.
Yn amlwg, ceir heriau enfawr o hyd. Mae pobl yng ngogledd Cymru yn dal i wynebu problemau, ac mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o’r hyn a aeth o’i le. Rwy’n derbyn bod yr ymchwiliadau yn dal i fynd rhagddynt, a’u bod yn ymchwiliadau manwl, a bod yn rhaid i ni ddod o hyd i’r gwirionedd o ran yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yng ngogledd Cymru, ond byddwn yn gwerthfawrogi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech roi rhyw sicrwydd, os yw’r ymchwiliadau hynny’n canfod bod niwed wedi’i achosi, y byddwch yn trafod y posibilrwydd o erlyn y rhai a fu’n gyfrifol am achosi’r niwed gyda’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, yn enwedig lle y gallai’r niwed hwnnw fod wedi arwain at farwolaethau, gan fod y rhain yn faterion difrifol iawn, ac mae pobl yn bryderus iawn yn eu cylch yng ngogledd Cymru, ac nid ydym yn hyderus fod digon o gynnydd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.