Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau lle y gorffennodd David Melding, a diolch, yn ddiffuant, i Lynne Neagle ac aelodau’r pwyllgor am eu hadroddiad? Fel y nododd y Cadeirydd, canolbwyntiodd ymchwiliad y pwyllgor ar effaith y trefniadau cyllid grant newydd a gyflwynwyd yn 2015-16, yn dilyn ad-drefnu nifer o grantiau addysg. Nawr, mae llawer o’r dystiolaeth a ddarparwyd i’r pwyllgor yn ymdrin, yn fy marn i, â materion hirdymor, gyda nifer ohonynt yn rhagflaenu’r trefniadau cyllido newydd drwy’r grant gwella addysg. Mae’r ystod eang o safbwyntiau a ddarparwyd yn y dystiolaeth i’r pwyllgor yn amlygu’n berffaith fod hwn yn faes cymhleth lle na cheir un ymagwedd y mae pawb yn cydsynio yn ei chylch ynglŷn â sut y dylid datblygu a rheoli’r heriau. Mae dilysrwydd i’w ganfod yn y gwahanol safbwyntiau a fynegwyd, ac rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor am eu gwaith caled yn dwyn y materion ynghyd mewn modd mor gydlynol i’w trafod yma heddiw. Wrth geisio deall yr heriau a all wynebu rhai dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr o ran cyflawni eu potensial addysgol, mae’r pwyllgor wedi mynd i’r afael â maes gwaith anodd ond pwysig iawn.
Nid yw’n syndod i’r Aelodau, rwy’n gobeithio, fy mod wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a darpariaeth deg gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial, waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau personol. Yn yr wrthblaid, fel yn awr yn fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, rwyf bob amser wedi blaenoriaethu camau i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfleoedd y maent eu hangen ac yn eu haeddu i gyflawni’r potensial hwnnw, ac mae llawer wedi’i gyflawni. Ond mae’r her yn parhau i fod yn sylweddol i rai grwpiau, fel y clywsom gan David Melding, ac mae llawer mwy i’w wneud. Nid gormodiaith, Dirprwy Lywydd, yw dweud ein bod ar drothwy’r diwygiad mwyaf yn y byd addysg ers y 1960au. Rydym yn cyflwyno cwricwlwm a threfniadau asesu newydd, a ffocws strategol clir ar y ffactorau ategol a fydd yn helpu pob un o’n dysgwyr i gyflawni.
Wrth sicrhau bod ein dysgwyr mwyaf difreintiedig yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial, byddaf yn rhyddhau cynllun gweithredu diwygiedig ar gyfer addysg ymhen y rhawg a fydd yn dangos fy ymrwymiad i system addysg gynhwysol, gyda chyfle cyfartal i bob dysgwr yn ganolog ynddo. Rwy’n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o’r gwelliannau diweddar ym mherfformiad y mwyafrif helaeth o’r grwpiau dysgwyr hyn, ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu. A diolch i Darren Millar am dynnu sylw at rai o’r arferion da sy’n bodoli yn ein system addysg. Do, yng Ngwent, yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld ag ysgol Llysweri. Gwelais y gwaith caled y maent yn ei wneud drosof fy hun, ond mae’n ymestyn y tu hwnt i Went, at y gwaith a wnaed yng Nghil-maen yn Sir Benfro, er enghraifft, sy’n dangos esiampl yn y modd y maent yn cynorthwyo eu plant.
Ac mae nifer o grwpiau dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, fel y clywsom gan Bethan Jenkins, eisoes yn perfformio’n well na lefelau cyfartaledd cenedlaethol, ac mae hynny i’w groesawu a’i ddathlu, fel y mae Bethan wedi’i wneud heddiw. Fel y dywedais, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y darlun cymhleth hwn. Nid un grŵp unffurf yw dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma, a Theithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Mae anghenion unigol a lefelau cyrhaeddiad y dysgwyr hyn yn amrywio’n sylweddol o rai o’n plant mwyaf galluog a thalentog i’r rhai sy’n cyflawni’n llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r pwyllgor yn cydnabod hyn yn yr adroddiad, ac fel y dywedais, mae’n fater rwyf hefyd yn ymwybodol iawn ohono. Ond fel y dywedais, mae’r her yn sylweddol, ac yn arbennig mewn perthynas â’r grwpiau ystyfnig sy’n parhau o dan y cyfartaledd cenedlaethol, a dyna pam rwy’n falch o weld bod yr adroddiad yn cydnabod cyfraniad cadarnhaol ein gwasanaethau a’n hysgolion dros y blynyddoedd.
Dylai ein hysgolion, gwasanaethau cymorth ein hawdurdodau lleol a’n gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol gael gwybodaeth ac arbenigedd helaeth i gynorthwyo’r dysgwyr hyn, ac mae’r rhain ganddynt eisoes mewn llawer o achosion,. Rwy’n credu’n gryf nad yw ein cryfder a’n llwyddiant yn y dyfodol yn deillio o fy swyddfa yn Nhŷ Hywel, ond yn hytrach o’r sector, yn gweithio fel cyfanrwydd, mewn partneriaeth o fewn system hunanwella sy’n rhoi gwerth ar ein proffesiwn addysgu ac amrywiaeth ein cymdeithas.
Gan symud at argymhellion y pwyllgor—darparodd 14 o argymhellion yn ei adroddiad, argymhellion sy’n darparu ffocws clir ar gyfer gweithredu yn fy marn i. Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol ac yn gadarnhaol i’r pwyllgor, rwy’n credu, yn dangos fy mod yn cytuno â phob un ond un o’r argymhellion. Rwyf wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor i edrych eto ar yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd rai blynyddoedd yn ôl. Rwy’n deall pam fod hyn yn destun siom i’r pwyllgor, ond gan nad yw’r pwyllgor yn gwneud unrhyw argymhelliad penodol ar gyfer newid y mecanwaith cyllido, rwy’n teimlo na fyddai asesiad effaith ar wahân yn fuddiol ar hyn o bryd ac mae’n well cyfeirio ein hymdrechion ac ymdrechion fy swyddogion a’r gwasanaeth tuag at gefnogi a chyflawni pob un o argymhellion eraill y pwyllgor, ac rwy’n credu y bydd hynny’n mynd â ni ymlaen i’r dyfodol.
Un o’r argymhellion rwy’n cytuno’n arbennig o gryf ag ef yw nad yw’r fframwaith perfformiad addysg presennol yn ddigon cadarn. Nid ydyw, yn syml, ac nid oedd modd cuddio rhag hynny yn ystod sesiynau’r pwyllgor. A dyna pam, cyn cyhoeddi adroddiad y pwyllgor, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gryfhau’r fframwaith ar gyfer y grant gwella addysg i ysgolion. Dros y misoedd diwethaf, rwy’n falch o ddweud eu bod wedi gweithio gyda’r consortia rhanbarthol i sefydlu fframwaith canlyniadau gwell a llawer mwy cadarn, a fydd yn canolbwyntio ar herio a chynorthwyo awdurdodau lleol a chonsortia gydag ymdrechion i wella canlyniadau addysgol i’r dysgwyr hyn o 2017-18. Mae’r fframwaith canlyniadau ar gyfer y grant gwella addysg yn mynegi beth yw ein canlyniadau cenedlaethol, ac yn dangos sut y mae strategaethau consortia rhanbarthol, drwy’r grant gwella addysg, yn cyfrannu at gyflawni’r canlyniadau hyn, ac yn sicrhau bod y grant gwella addysg yn effeithio’n gadarnhaol ar ganlyniadau dysgwyr. Y bwriad, drwy’r fframwaith, yw symud oddi wrth ddull rhagnodol a arweinir gan weithgaredd i ganolbwyntio ar ganlyniadau, gan barhau i fod yn ddigon soffistigedig i bwyso ar y gweithgaredd os oes angen. Bydd y fframwaith diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chynlluniau busnes y consortia rhanbarthol ar gyfer 2017-18. Rwy’n falch hefyd fod Estyn wedi cytuno i ailedrych ar y mater drwy gynnal adolygiad byr yn 2018-19. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar gynnydd ers 2011, a’i adroddiad ar y pryd, a bydd yn ystyried effaith y gwasanaethau a’r cymorth presennol ar gyfer y dysgwyr hyn. Mae’n hen bryd i ni gael yr adolygiad o’r adroddiad hwnnw.
Yr hyn y mae’r dystiolaeth hon wedi’i grisialu i mi, Dirprwy Lywydd, yw bod yna gydbwysedd bregus rhwng cefnogi pob dysgwr i fanteisio ar y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a pharchu a gwerthfawrogi natur amrywiol ein cymunedau, sy’n helpu i wneud Cymru heddiw’n gymdeithas fodern a blaengar lle rwyf fi—a’r rhan fwyaf yn y Siambr hon, rwy’n gobeithio—eisiau byw. Dros amser, mae presenoldeb wedi gwella, mae cyrhaeddiad addysgol wedi gwella, ac mae disgwyliadau, sy’n gwbl hanfodol, wedi codi, ac yn briodol felly. Ac rydym wedi gwrando ar ein cymunedau. Byddaf yn bendant yn cyhoeddi adroddiad ymchwil cymheiriaid y prosiect Teithio Ymlaen gan Achub y Plant ar Dysgu Cymru, a byddaf yn sicrhau ei fod ar gael i bob ysgol, i bob awdurdod lleol a’r consortia rhanbarthol, fel y gall ein haddysgwyr proffesiynol a’n darparwyr gwasanaethau ystyried y safbwyntiau a gyflwynwyd gan y bobl ifanc yn eu darpariaeth.
Mewn llawer o achosion, mae ein gwasanaethau wedi gwneud gwaith da, a hoffwn ddiolch iddynt am eu penderfyniad. Ond rwyf yn awr yn gofyn iddynt gynyddu eu hymdrechion i sicrhau bod mwy o’r dysgwyr hyn a’u teuluoedd yn teimlo’n gyfforddus i gofrestru eu nodweddion ar y ffurflenni cyfrifiad ysgolion blynyddol, fel y gallaf fod yn sicr fod y cymorth sydd ar gael iddynt drwy gyllidebau ysgolion a’n cyllid grant yn adlewyrchu eu niferoedd.
Darren Millar, rwy’n gobeithio y bydd ein hadolygiad Diamond, parhad ein Lwfans Cynhaliaeth Addysg a chymorth i ddysgwyr addysg bellach allu mynd i’r afael â rhwystrau yn parhau i ddarparu fframwaith ariannol i annog pobl i mewn i addysg bellach ac addysg uwch, ond mae disgwyliadau’r cymunedau hynny’n allweddol. Gwnaed pwynt pwysig mewn perthynas ag amrywiaeth ein proffesiwn addysgu. Nid yw ein proffesiwn addysgu mor amrywiol ag y byddwn eisiau iddo fod, a byddaf yn ystyried, gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, beth arall y gallwn ei wneud i annog amrywiaeth yn ein proffesiwn addysgu.
Dirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, a diolch i’r pwyllgor unwaith eto am yr adroddiad gwerthfawr hwn? Mae wedi cryfhau fy ngallu i ysgogi pobl i weithredu yn yr adran, yn enwedig mewn perthynas â monitro. Edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr ag aelodau’r pwyllgor ar waith yn y maes hwn yn y dyfodol.