– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 3 Mai 2017.
Felly, symudwn at eitem 5 ar yr agenda, sef dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig. Galwaf ar Lynne Neagle i gynnig y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel yr amlinellais yn fy natganiad i’r Siambr ar 25 Ionawr, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar beth yw’r prif faterion y dylem fod yn edrych arnynt, ac rydym yn cynllunio ein rhaglen waith yn unol â hynny. Mae’r adroddiad rydym yn ei drafod heddiw yn enghraifft arall o’r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad a nodwyd yn ein hymgynghoriad ar flaenoriaethau rhanddeiliaid yr haf diwethaf.
Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru. Ni lwyddodd ond 16 y cant ohonynt yn unig i gyrraedd trothwy cynwysedig lefel 2—h.y. pump neu ragor o bynciau TGAU gradd A* i C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg—rhwng 2013 a 2015. Mae’r ystadegau a gyhoeddwyd yn ystod ymchwiliad y pwyllgor yn dangos rhywfaint o welliant sydd i’w groesawu, i 24 y cant rhwng 2014 a 2016, er bod y bwlch rhyngddynt a phob disgybl yn dal yn rhy fawr ar 35 pwynt canran. Mae’r bwlch rhyngddynt a disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd eu hunain yn grŵp difreintiedig, yn 7 pwynt canran.
Mae dysgwyr duon a lleiafrifoedd ethnig yn grŵp llai unffurf ac mae’r darlun cyrhaeddiad yn amrywio’n sylweddol. Mae llawer o grwpiau lleiafrifol yn perfformio’n well na’u cyfoedion, ond mae cyrhaeddiad rhai grwpiau, megis grwpiau Caribïaidd du, Affricanaidd du a Charibïaidd cymysg yn is na’r cyfartaledd. Câi’r grwpiau hyn o ddysgwyr eu cefnogi’n flaenorol o dan ddau grant wedi’u clustnodi a delid i awdurdodau lleol—y grant plant Sipsiwn a phlant Teithwyr a’r grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig. Dau o 11 o grantiau wedi’u clustnodi oedd y rhain a gafodd eu cyfuno’n grant gwella addysg newydd a gyflwynwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16.
Caiff y grant gwella addysg, fel y’i gelwir, ei weinyddu gan y pedwar consortiwm rhanbarthol. Roedd bwriad Llywodraeth Cymru ar y pryd yn un i’w groesawu. Roedd yn awyddus i greu mwy o hyblygrwydd a chreu arbedion gweinyddol. Fodd bynnag, ceir pryder clir pa un a oes yr un lefel o gefnogaeth erbyn hyn ar gyfer dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma, Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, a phryderon penodol ynglŷn â sut y caiff effaith y newid yn y cyllid ei monitro a’i gwerthuso.
Diffyg monitro a gwerthuso priodol oedd y pryder mwyaf a fynegwyd dro ar ôl tro yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor. Roedd y grantiau blaenorol yn ddarostyngedig i systemau monitro ac atebolrwydd cadarn. Mae’r rhain wedi cael eu colli gyda dyfodiad y grant gwella addysg. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cryn bwyslais ar rôl y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol eu hunain yn monitro a gwerthuso effaith. Fodd bynnag, ni welodd y pwyllgor lawer o dystiolaeth fod hyn yn digwydd. Yn wir, roeddem yn siomedig gyda’r dystiolaeth a gynigiwyd gan y consortia ar sut y maent yn monitro defnydd ac effaith y grant gwella addysg, rhywbeth a gafodd ei gydnabod gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun mewn tystiolaeth lafar. Dof yn ôl at fonitro a gwerthuso yn y man.
Croesawaf yn fawr yr agwedd gadarnhaol sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet tuag at ein hymchwiliad yn ei hymateb i’n 14 argymhelliad. Rwy’n hynod o falch ei bod wedi derbyn pob un o’n hargymhellion, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor, ac eithrio un, a oedd yn galw am asesiad effaith wedi’i ddiweddaru o’r penderfyniad i gyfuno’r grantiau. Rwy’n siomedig fod yr argymhelliad hwn wedi’i wrthod, gan fod cryn feirniadaeth wedi bod o gadernid yr asesiad effaith gwreiddiol.
Yr hyn sy’n fy mhoeni i a’r pwyllgor, Llywydd, yw’r ffaith na ellir gwneud unrhyw asesiad clir pa un a yw’r newid i un grant wedi cael unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol. Mae cyfanswm gwerth y grant gwella addysg yn 2017-18 oddeutu 13 y cant yn llai na’r flwyddyn ddiwethaf o grantiau wedi’u clustnodi yn 2014-15. Nid ydym yn gwybod yn union faint o’r grant gwella addysg sy’n cael ei wario ar blant Sipsiwn, Roma, Teithwyr a phlant o leiafrifoedd ethnig gan nad yw gwariant yn cael ei olrhain neu ei fonitro yn y modd hwn mwyach. Ein hargymhelliad cyffredinol, felly, yw y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu’r model cyllido y mae’n ei ddefnyddio i gefnogi’r dysgwyr hyn ac adrodd yn ôl cyn diwedd y Cynulliad hwn.
Yn y cyfamser, mae’r pwyllgor wedi argymell nifer o welliannau i’r ffordd y mae’r grant gwella addysg yn cael ei fonitro a’i werthuso. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau manylach ar sut y gellir defnyddio’r grant er budd dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma, Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig y tu hwnt i’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd, ac nid ydynt yn llawer mwy nag amcanion lefel uchel sy’n cyfeirio at y cynllun gwella ‘Cymwys am oes’.
Rydym yn pryderu na chafwyd digon o gynnydd ar gynhyrchu fframwaith canlyniadau y bwriadwyd iddo lywio’r modd y caiff y grant gwella addysg ei wario, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gael gafael llawer cadarnach ar fonitro a gwerthuso er mwyn sicrhau bod consortia ac awdurdodau lleol yn gwybod yn union beth a ddisgwylir.
Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i sefydlu fframwaith canlyniadau mwy cadarn yn 2017-18. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad y dylai Estyn gynnal adolygiad thematig o’r pwnc hwn. Fodd bynnag, mae gan y pwyllgor amheuon ynglŷn â phwyslais Llywodraeth Cymru ar ddiwallu anghenion grwpiau penodol o ddysgwyr drwy fabwysiadu ymagwedd sy’n canolbwyntio ar bob disgybl tuag at wella ysgolion. Fel y mae tystion wedi’i ddweud wrthym, nid yw cynhwysiant yn golygu trin pawb yr un fath. Rhaid i chi gydnabod bod pobl yn wahanol a bod ganddynt wahanol anghenion.
Credwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau ei ffocws yn sylfaenol a thargedu cyllid yn fwy penodol ar ddysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr a grwpiau ethnig sydd â chyrhaeddiad is na’r cyfartaledd. Rydym wedi gwneud dau argymhelliad ar hyn, ac yn disgwyl gweld mwy o gyfeirio at y grwpiau hyn yn y diweddariad o’r cynllun ‘Cymwys am oes’ ac yn y strategaeth ‘Ailysgrifennu’r dyfodol’ sydd i fod i gael ei chyhoeddi cyn bo hir. I gloi, Llywydd, hoffwn bwysleisio i’r Aelodau nad yw hwn yn fater y gellir mynd i’r afael ag ef drwy ymagwedd ‘un ateb sy’n addas i bawb’ tuag at welliant addysgol. Mae’n rhaid i gymorth ac ymyriadau gael eu teilwra ar gyfer y dysgwr os ydym am helpu pob plentyn a pherson ifanc i gyflawni eu potensial llawn. Diolch.
A gaf fi ddiolch i’r Cadeirydd am ei haraith agoriadol a’i chanmol am y ffordd y mae hi wedi arwain yr ymchwiliad hwn, a chofnodi fy niolch hefyd i’r clercod a’r tystion a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor? Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod wedi ymgymryd â’r gwaith hwn, a dyna pam y cytunodd y pwyllgor y dylai fod yn flaenoriaeth gynnar o ran rhaglen waith y pwyllgor. Rwy’n ymwybodol iawn, ac rwy’n aml wedi beirniadu’r nifer fawr o grantiau sydd wedi bod ar gael, yn enwedig pan oeddwn yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac sydd wedi cael eu defnyddio gan y Llywodraeth er mwyn cyfarwyddo a chyflawni eu hamcanion polisi. Felly, gallaf ddeall yn iawn pam y ceisiodd y Llywodraeth gyfuno’r grantiau hyn er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau addysg lleol, ac ar Lywodraeth Cymru yn wir o ran bwrw ymlaen â phethau. Ond rwy’n pryderu ynglŷn â diffyg dilyniant wrth i Lywodraeth Cymru geisio penderfynu a yw’r canlyniadau yr oedd yn awyddus i’w cyflawni yn dal i gael eu gwireddu ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Dyna pam y gwnaethom y gwaith hwn fel pwyllgor, ac roeddwn yn hapus iawn i’w gefnogi.
Gwyddom nad yw cyrhaeddiad addysgol, yn enwedig mewn cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mor dda ag y dylai fod. Mae wedi gwella’n ddiweddar, sy’n beth cadarnhaol, ond ceir bwlch cyrhaeddiad anferth rhyngddynt a’u cyfoedion mewn ysgolion o hyd, ac nid yw hynny’n ddigon da. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hynny. A dyna yw diben rhan o’r grant hwn, ynghyd â’r angen i gau’r bwlch i rai o’r gwahanol grwpiau lleiafrifoedd ethnig a’u cyrhaeddiad addysgol a’u cyflawniad hwy hefyd.
Rwy’n credu mai’r hyn a’m synnodd yn fawr oedd y ffaith fod gennym ddarpariaeth dameidiog yng Nghymru sy’n anghyson iawn. Fe’m calonogwyd yn fawr gan rywfaint o’r dystiolaeth a gawsom o Went, lle y mae’n eithaf amlwg fod ganddynt safon aur i bob pwrpas o ran y gefnogaeth y gallant ei darparu yn enwedig ar gyfer y rhai o leiafrifoedd ethnig sy’n symud i mewn i’r ardal. Ac fe’m calonogwyd yn fawr gan y ffaith fod hynny’n ychwanegu gwerth sylweddol ac yn cefnogi ysgolion unigol, yn enwedig lle nad oes ganddynt arbenigedd ar gael iddynt. Ond roedd y sefyllfa’n wahanol iawn mewn rhannau eraill o Gymru, ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud nad yw rhai o’r consortia rhanbarthol yn gwybod yn iawn beth sy’n digwydd yn eu hardaloedd ac mai blaenoriaeth isel iawn a roddwyd ganddynt i hyn. Roedd hynny’n peri pryder mawr yn wir.
Roeddwn yn arbennig o bryderus ynglŷn â’r dystiolaeth a gawsom gan Estyn hefyd. Roedd Estyn yn ddefnyddiol iawn o ran darparu tystiolaeth i ni; maent yn amlwg wedi gwneud gwaith yn y gorffennol, yn enwedig ar gymuned y Sipsiwn/Teithwyr a’u lefelau cyrhaeddiad. Ond roedd yn gwbl amlwg eu bod wedi cynhyrchu un neu ddau o adroddiadau gydag argymhellion clir ynddynt, ond nad oeddent wedi gwneud gwaith dilynol ar yr adroddiadau hynny. Nawr, a bod yn onest, mae’n gwbl annerbyniol nad yw’r arolygiaeth addysg wedi gwneud gwaith dilynol ar eu hargymhellion. Roeddent yn dweud mai mater o adnoddau ydoedd ac mai dyna pam na wnaethant waith dilynol arno, ond a dweud y gwir, credaf nad oes esgus dros fethiant yr arolygiaeth i fynd ar drywydd y mater yn fwy egnïol gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau addysg lleol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa rôl y mae’n disgwyl i Estyn ei chwarae yn y dyfodol o ran sicrhau bod peth o gyfeiriad polisi’r Llywodraeth yn cael ei gyflwyno ar lawr gwlad mewn gwirionedd a’u bod yn ysgwyddo’u cyfrifoldeb fel arolygiaeth i wneud yn union hynny.
Un o’r pethau eraill y cyfeirir ato yn yr adroddiad yw’r diffyg cefnogaeth i bobl ifanc dros 16 sydd am barhau â’u haddysg. Gwyddom fod cael cymheiriaid hŷn yn aml yn ffactor pwysig iawn wrth gynorthwyo pobl ifanc i ymddiddori yn eu haddysg, ac unwaith eto, nid yw pobl ifanc o gefndiroedd cymunedau Sipsiwn/Teithwyr yn enwedig yn camu ymlaen at addysg bellach neu addysg uwch, ac eto nid oes unrhyw gymorth penodol ar eu cyfer ar hyn o bryd. Byddai gennyf ddiddordeb mawr, Ysgrifennydd y Cabinet—a gwn fy mod wedi crybwyll hyn wrthych yn ystod trafodion y pwyllgor—ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a oes unrhyw beth y gellir ei wneud o fewn yr adolygiad o gymorth i fyfyrwyr sydd ar y gweill ar hyn o bryd i dargedu’r grwpiau hyn yn benodol er mwyn annog cyfranogiad gweithgar mewn addysg ôl-16 gan bobl ifanc o gefndiroedd du yn benodol, cefndiroedd Affro-Caribïaidd, a’r cymunedau Sipsiwn/Teithwyr—y rhai sydd ymhell ar ei hôl hi o ran rhai o’r canlyniadau penodol hyn.
Ac rwy’n credu y bydd yr holl argymhellion yn yr adroddiad, os cânt eu hystyried gyda’i gilydd, yn cyflawni newid mawr o ran gwella’r maes hwn yn y dyfodol, ac mae’n siŵr y bydd y pwyllgor yn awyddus i barhau i edrych arno mewn perthynas â chanlyniadau yn y dyfodol i weld a yw ein hargymhellion wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn. Rwy’n cydnabod bod un ohonynt wedi cael ei wrthwynebu, fel petai, ond gwn fod calon y Gweinidog yn y lle cywir o ran ei hawydd i sicrhau newid go iawn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn siarad yn benodol am y mater ôl-16 a rôl Estyn mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon ar effaith cyfuno grantiau arbenigol blaenorol i greu’r grant gwella addysg ar blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a phlant o leiafrifoedd ethnig. Rwy’n aelod o’r pwyllgor, felly rwyf wedi gallu cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar addysg Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan fy mod yn gadeirydd ar y grŵp trawsbleidiol yma yn y Cynulliad.
Gyda llaw, rydym newydd gael grŵp trawsbleidiol yma amser cinio heddiw, lle y cawsom blant o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Sir Benfro a Thorfaen, yn holi Ysgrifennydd y Cabinet dros blant a chydlyniant cymdeithasol, Carl Sargeant, ynglŷn ag argaeledd safleoedd, ynglŷn â’r rheswm pam fod Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu gorfodi i symud ymlaen a llawer o gwestiynau heriol iawn. Rwy’n credu y byddai unrhyw un ohonoch a fyddai wedi clywed y bobl ifanc yn gofyn y cwestiynau hyn yn gwybod am y potensial enfawr sydd gan y plant hynny. Mae’n amlwg yn ddyletswydd arnom i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.
Pan gafodd y grantiau eu cyfuno i fod yn grantiau gwella addysg, fe lobïodd aelodau’r grŵp hwnnw’n gryf yn erbyn y newid, fel y gwnes i, a fy marn i, ar ôl cymryd rhan yn yr ymchwiliad, yw mai dyna’r ffordd anghywir o’i chwmpas hi. Rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad y dylid ei adolygu, er ei fod wedi gwrthod, wrth gwrs, fel y dywedodd y ddau siaradwr blaenorol, y ffordd y digwyddodd hyn—drwy edrych ar y ffordd y cynhaliwyd yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb—mae hynny wedi cael ei wrthod. Oherwydd cawsom dystiolaeth gref a ddangosai nad oeddent yn teimlo bod asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb wedi cael eu cynnal yn briodol ac rydym yn dysgu llawer drwy edrych yn ôl a gweld sut y mae pethau’n digwydd. Felly, rwy’n gwybod fod hynny wedi cael ei wrthod, ond roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried hynny—bod camgymeriad wedi cael ei wneud yma o bosibl.
Cefais fy synnu mewn gwirionedd gan beth o’r dystiolaeth a gyflwynwyd a chefais fy synnu’n bennaf gan y diffyg gwybodaeth ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd yn y maes hwn mewn gwirionedd. Roedd unigolion a oedd yn gweithio ar lawr gwlad yn angerddol ac yn wybodus ynglŷn â’u gwaith; pobl â phrofiad uniongyrchol o weithio gyda’r grwpiau o blant roeddem yn edrych arnynt—roeddent yn teimlo’n gryf iawn nad oedd pethau’n mynd i’r cyfeiriad cywir. Ond roeddwn yn teimlo bod y cyrff ehangach yn meddu ar lawer llai o wybodaeth ac yn llawer llai ymroddedig i wybod beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd. Gwn fod y cyrff ehangach—rwy’n credu bod y consortia, y cyfeiriodd cadeirydd y pwyllgor atynt—gwn mai rhan fechan iawn o’u gwaith yw hyn, ond os ydym am fod yn gymdeithas deg, ac os yw’r Cynulliad hwn am gyflawni ar gyfer pawb, mae’n rhaid i ni edrych ar y rhan hon. Mae’n rhaid i mi ddweud, fel y dywedaf, fy mod wedi cael fy synnu bod eu gwybodaeth mor wael.
Roedd yn ymddangos hefyd nad oedd unrhyw systemau monitro ar waith i weld beth oedd effaith y newid wedi bod, a gwn fod y Llywodraeth wedi dweud y bydd yn cytuno i adolygu’r trefniadau monitro, ond rwy’n credu bod gwir angen sicrwydd arnom y bydd hwn yn adolygiad ystyrlon. Beth y mae’n ei olygu: ‘Byddwn, byddwn yn edrych arno eto—edrych a gweld sut y mae’r trefniadau monitro’n gweithio’? Mae’n rhaid cael ymrwymiad penodol i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd, felly sut y byddant yn adolygu a faint o flaenoriaeth fydd i hynny?
Y pwynt olaf rwyf am ei wneud mewn gwirionedd yw bod argymhelliad 14 yn cynnig y dylai’r prosiect Teithio Ymlaen, ‘Arfer Da mewn Addysg: Prosiect Ymchwil Cymheiriaid’—y dylai’r Llywodraeth fwrw ymlaen â’i argymhelliad. Mae’r Llywodraeth yn cytuno mewn egwyddor ac yn dweud y bydd yn ei gyhoeddi ar wefannau penodol. Rwy’n teimlo o ddifrif fod yna dystiolaeth y mae angen i bobl wybod amdani yn yr adolygiad hwn gan gymheiriaid. Rwyf wedi bod yn edrych ar rai o’r argymhellion yn yr adolygiad gan gymheiriaid ac mae rhai o’r rhain yn bwysig iawn. Dywedodd y plant, ‘Mae angen athro/athrawes sy’n Sipsi arnom’. Felly, rydym angen modelau rôl ac rydym yn gwybod fod Sipsiwn yn cyflawni’n uchel iawn mewn llawer o rolau, ac yn aml, nid yw’r cyhoedd yn gwybod am hynny. Ac yna, ‘Ni fyddaf yn mynd i’r gwersyll y flwyddyn nesaf am fod Mam a Dad yn dweud bod yr ysgol yn rhy bell ac nid ydynt eisiau i mi fynd ar y bws ar fy mhen fy hun; mae Mam yn credu y byddaf yn gweld ac yn dysgu pethau drwg.’ Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig deall cefndir cymunedol y plant sy’n deillio o ofal dros y plant.
Ac ar y tri phwynt olaf, roeddent yn dweud bod ganddynt dri awgrym i ysgolion ynglŷn â sut i weithio gyda disgyblion sy’n Sipsiwn a Theithwyr. Rhif un yw: ‘byddwch yn ymwybodol o’n diwylliant’, a chredaf fod gan hynny ffordd bell i fynd, ond mae’n bwysig iawn. ‘Byddwch yn ymwybodol o’r gwahaniaethau rhyngom a’r gymuned sefydlog’, ac fel y dywedodd ein Cadeirydd, ni cheir un ateb sy’n addas i bawb. Mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau sydd yno. Ac yn drydydd: ‘addysg hyblyg ac opsiynau i fynychu’n rhan-amser ar gyfer pob disgybl ledled Cymru’, sydd, unwaith eto, yn rhywbeth rwy’n credu y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddo o bosibl.
Rwy’n cyfrannu yn lle Llyr Huws Gruffydd, er fy mod yn sylweddoli y byddai Llyr wedi chwarae llawer mwy o ran yn y trafodaethau na minnau—nid wyf ond newydd ddarllen yr adroddiad heddiw mewn gwirionedd. Rwy’n gwerthfawrogi llawer o’r sylwadau a wnaed yma heddiw, ond rwy’n credu, ar ôl darllen yr adroddiad, fod gennyf safbwynt gwahanol ar lawer o’r materion. Roeddwn yn cytuno â’r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am y ffaith nad yw’r grwpiau’n unffurf, ac rwy’n credu weithiau efallai bod rhai o’r argymhellion yn edrych ar leiafrifoedd ethnig a phobl dduon a grwpiau eraill mewn golau mwy negyddol nag a ragwelwyd gennych. Er enghraifft, mae’n dweud yn yr adroddiad y dyfynnodd y Gweinidog ohono fod teuluoedd Indiaidd a theuluoedd tebyg—. Mae gennyf gysylltiad cryf â chymunedau Indiaidd yng Nghaerdydd ac os porthwn y ffaith eu bod yn weithgar iawn, yn llawn ysgogiad, eu bod yn aml yn dilyn gyrfaoedd sy’n galw am lawer o ysgogiad—credaf y gallwn, o bosibl, droi hynny o gwmpas a dweud, ‘Wel, sut y gallwn ddefnyddio disgyblion o leiafrifoedd ethnig mewn ffordd gadarnhaol i rannu’r profiadau hyn â’r rhai nad ydynt mor llwyddiannus o bosibl?’, yn hytrach na dweud, ‘Wel, ie, nid ydynt yn gwneud cystal â disgyblion eraill,’ ac mae angen i ni gael rhywbeth penodol i’w targedu hwy’n unig.
Rwy’n ymwybodol o fod eisiau i bawb gael chwarae teg yn yr ystafell ddosbarth, a minnau’n dod o deulu o athrawon, a byddwn eisiau gallu caniatáu i’r athrawon hynny ddysgu mewn ffordd y teimlant y gall pawb yn yr ystafell ddosbarth fod yn rhan o’r un math o argymhellion addysgol. Felly, ydw, rwy’n credu y dylai athrawon fod yn ymwybodol o Sipsiwn a Theithwyr a’u cymunedau; ydw, rwy’n credu, wrth gwrs, y dylem fod yn ymwybodol o wahanol ddiwylliannau, ond nid wyf yn credu y dylem fod yn dweud y dylent gael eu haddysgu mewn ffordd wahanol neu y dylent gael, o bosibl—wel, nid wyf yn gwybod beth ydyw’n benodol gan na allwn weld beth oedd yr argymhellion penodol yn adroddiad y pwyllgor i ddweud, ‘Wel, mae angen i X, Y a Z gael eu gwneud ar gyfer y grwpiau penodol hynny mewn gwirionedd’.
Felly, er enghraifft, rwyf wedi gweithio cryn dipyn gyda phlant ffoaduriaid yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac rwyf wedi dweud wrth y penaethiaid yno, ‘Wel, ni all Joni bach fynd i’r ysgol am na all y rhieni fforddio teithio yno’ ac roeddent yn dweud wrthyf ‘Wel, ie, hoffwn sicrhau darpariaeth ychwanegol ar eu cyfer i’w cael nhw yma, ond os wyf yn gwneud hynny bydd yn rhaid i mi ei wneud ar gyfer pawb.’ Ac os ydym yn mynd i wneud newidiadau, credaf fod angen i ni edrych arno’n ehangach fel nad ydym yn eithrio unrhyw un o unrhyw newidiadau. Rwy’n cydnabod yn llwyr y gall fod gan wahanol grwpiau o bobl broblemau sylfaenol iawn, ond nid wyf yn gwybod a ydym am hwyluso gwahaniaeth. Rwy’n credu ein bod yn awyddus i hwyluso gweithio gyda’n gilydd. Efallai fy mod yn anghywir, efallai y bydd Llyr yn flin â’r hyn rwy’n ei ddweud yma heddiw, ond rwy’n credu weithiau ein bod yn canolbwyntio ar bethau negyddol. Mae’n rhaid i ni weld y cyfoeth o brofiad a’r cefndiroedd teuluol y daw pobl ohonynt, o wledydd eraill, lle y mae eu hetheg gwaith, mewn gwirionedd, os meiddiaf ddweud—yn ddadleuol—yn well na’n hetheg gwaith ni. Maent eisiau mynd allan i weithio, ac maent yn awyddus i ymgysylltu’n gadarnhaol â’r gymdeithas.
Fel gydag unrhyw grant, rwy’n credu, mewn ffordd gyffredinol mae angen i ni allu sicrhau ein bod yn olrhain pa mor bositif ydyw ac yn olrhain i ble y mae’r arian yn mynd. Ac os wyf yn cytuno ag unrhyw beth yn yr adroddiad, rwy’n credu fy mod yn cytuno â hynny. Mae’n rhaid i ni ddeall, nawr bod y newid wedi’i wneud, ein bod yn gallu dweud, ‘Wel, mewn gwirionedd, bydd yn arwain at welliannau i’n pobl ifanc’. Ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod athrawon o dan straen enfawr, ac os ydym yn mynd i gyflwyno cynigion penodol o ganlyniad i’r adroddiad hwn, yna mae’n rhaid ei wneud gan gadw’r pwysau gwaith hwnnw mewn cof.
A gaf fi ganmol y pwyllgor plant—y Cadeirydd yn arbennig, ond yr Aelodau eraill hefyd—am gynhyrchu adroddiad mor eglur a phriodol? Rwy’n credu bod hwn yn graffu o ansawdd uchel, ac yn union y math o beth y dylai pwyllgorau Cynulliad ei wneud. Y mater allweddol, yn amlwg, yw’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn ymdrin â chwestiynau i gynyddu prif-ffrydio yn hytrach na chlustnodi. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn aml yn ei wynebu yn y dewisiadau a wnawn yma. Mewn byd delfrydol, rydych eisiau system sydd mor agos at y brif ffrwd ag y bo modd, sef yr hyn yr oedd y siaradwr blaenorol, Bethan, yn ei awgrymu rwy’n credu.
Ond rydym hefyd yn gwybod bod angen camau gweithredu penodol iawn weithiau. Rwyf wedi gwneud llawer o waith, dros y blynyddoedd, ar blant sy’n derbyn gofal, ac mae llawer o adleisiau yma, yn enwedig ynglŷn â’r bwlch cyflawniad ar lefel TGAU ac yna’r cyfleoedd y mae’r bobl ifanc hyn yn eu cael yn y dyfodol. Ond rwy’n credu mai’r hyn y mae’r adroddiad pwyllgor hwn wedi’i hoelio mewn gwirionedd yw eich bod angen systemau monitro a gwerthuso clir iawn os ydych yn symud at ddulliau prif ffrwd. Fel arall, gallwch golli holl bwrpas yr ymyriad—mae’r ymyriad yn un a ddymunir o hyd. Mae’n bosibl ein bod yn symud o grant penodol iawn at ymagwedd fwy cyffredinol, ond yn amlwg, mae’r angen am ymyrraeth wedi’i dderbyn. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â’r Aelodau—cyfraniadau hynod o huawdl Darren a Julie—ac rwy’n pryderu’n fawr fod y dull o weithredu wedi bod mor esgeulus ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am sicrhau bod y newid hwn yn digwydd yn effeithiol, ac nid oes gennym y dystiolaeth i ddod i’r casgliad ei fod wedi digwydd yn effeithiol ar hyn o bryd. Felly, rwy’n credu ei bod yn hynod o bwysig inni allu arddangos trefn fonitro a gwerthuso effeithiol.
Mae perygl, rwy’n credu, y gall anghenion penodol plant lleiafrifol gael eu hanwybyddu, hyd yn oed pan geir blaenoriaeth wleidyddol glir i roi sylw arbennig iddynt. Dyma rywbeth y mae angen i ni fod yn ymwybodol iawn ohono. A gaf fi ailadrodd y pwynt ynglŷn â’r bwlch cyrhaeddiad? Rwy’n credu ei bod bob amser yn briodol, pan fyddwn yn edrych ar grwpiau penodol, i’w cymharu â phoblogaeth eu cymheiriaid, oherwydd—ac unwaith eto, gan adleisio cyfraniadau blaenorol—rwy’n credu y dylai ein disgwyliadau fod yr un fath. Pam yn y byd y dylem sefyll o flaen pobl a dweud, ‘Wel, y rhai sydd ag anghenion penodol ac amgylchiadau arbennig—dechreuwn drwy ostwng y bar a’r disgwyliadau y gellir disgwyl i’r bobl hynny eu cyflawni’? Rwy’n credu bod hynny’n eithriadol o wael. Mae’r bwlch ar hyn o bryd, gyda 24.5 y cant yn cyflawni’r lefel sylfaenol yn eu TGAU o’i gymharu â 59 y cant ymhlith poblogaeth eu cymheiriaid, yn rhy fawr. Mae wedi cau, ac efallai fod hynny’n deillio o’r ffaith fod y consortia’n gweithio’n gynhyrchiol yn eu ffordd eu hunain, er na allwn arddangos hynny. Ond mae’n rhaid i ni gael tystiolaeth, a beth bynnag, rwy’n credu y byddem i gyd yn cytuno ein bod eisiau i’r bwlch hwnnw gael ei gau gryn dipyn yn fwy na hynny.
Wrth fesur effeithiolrwydd polisi cyhoeddus, rwy’n credu bod yna bob amser adeg pan fyddwn yn clywed gan y rhai sydd â chyfrifoldeb gweithredol am weithredu newid fod angen inni symud weithiau tuag at ymagwedd sy’n anelu at welliant cyffredinol yn hytrach na chael ein clymu wrth ganlyniadau targed penodol iawn. Weithiau, dyna’r ffordd sy’n briodol—bod yn fwy eang. Ond rwy’n credu bod yna lawer o dystiolaeth ein bod ar y cam lle y mae angen i ni dargedu mwy, ac a dweud y gwir, pan fyddwch yn targedu mwy, rwy’n credu bod angen tystiolaeth dda iawn arnoch i gamu’n ôl oddi wrth system gyllido sy’n clustnodi mwy. Ond rwy’n llongyfarch y gwaith a wnaed yma; rwy’n credu ei fod yn gyfraniad pwysig iawn.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau lle y gorffennodd David Melding, a diolch, yn ddiffuant, i Lynne Neagle ac aelodau’r pwyllgor am eu hadroddiad? Fel y nododd y Cadeirydd, canolbwyntiodd ymchwiliad y pwyllgor ar effaith y trefniadau cyllid grant newydd a gyflwynwyd yn 2015-16, yn dilyn ad-drefnu nifer o grantiau addysg. Nawr, mae llawer o’r dystiolaeth a ddarparwyd i’r pwyllgor yn ymdrin, yn fy marn i, â materion hirdymor, gyda nifer ohonynt yn rhagflaenu’r trefniadau cyllido newydd drwy’r grant gwella addysg. Mae’r ystod eang o safbwyntiau a ddarparwyd yn y dystiolaeth i’r pwyllgor yn amlygu’n berffaith fod hwn yn faes cymhleth lle na cheir un ymagwedd y mae pawb yn cydsynio yn ei chylch ynglŷn â sut y dylid datblygu a rheoli’r heriau. Mae dilysrwydd i’w ganfod yn y gwahanol safbwyntiau a fynegwyd, ac rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor am eu gwaith caled yn dwyn y materion ynghyd mewn modd mor gydlynol i’w trafod yma heddiw. Wrth geisio deall yr heriau a all wynebu rhai dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr o ran cyflawni eu potensial addysgol, mae’r pwyllgor wedi mynd i’r afael â maes gwaith anodd ond pwysig iawn.
Nid yw’n syndod i’r Aelodau, rwy’n gobeithio, fy mod wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a darpariaeth deg gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial, waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau personol. Yn yr wrthblaid, fel yn awr yn fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, rwyf bob amser wedi blaenoriaethu camau i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfleoedd y maent eu hangen ac yn eu haeddu i gyflawni’r potensial hwnnw, ac mae llawer wedi’i gyflawni. Ond mae’r her yn parhau i fod yn sylweddol i rai grwpiau, fel y clywsom gan David Melding, ac mae llawer mwy i’w wneud. Nid gormodiaith, Dirprwy Lywydd, yw dweud ein bod ar drothwy’r diwygiad mwyaf yn y byd addysg ers y 1960au. Rydym yn cyflwyno cwricwlwm a threfniadau asesu newydd, a ffocws strategol clir ar y ffactorau ategol a fydd yn helpu pob un o’n dysgwyr i gyflawni.
Wrth sicrhau bod ein dysgwyr mwyaf difreintiedig yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial, byddaf yn rhyddhau cynllun gweithredu diwygiedig ar gyfer addysg ymhen y rhawg a fydd yn dangos fy ymrwymiad i system addysg gynhwysol, gyda chyfle cyfartal i bob dysgwr yn ganolog ynddo. Rwy’n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o’r gwelliannau diweddar ym mherfformiad y mwyafrif helaeth o’r grwpiau dysgwyr hyn, ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu. A diolch i Darren Millar am dynnu sylw at rai o’r arferion da sy’n bodoli yn ein system addysg. Do, yng Ngwent, yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld ag ysgol Llysweri. Gwelais y gwaith caled y maent yn ei wneud drosof fy hun, ond mae’n ymestyn y tu hwnt i Went, at y gwaith a wnaed yng Nghil-maen yn Sir Benfro, er enghraifft, sy’n dangos esiampl yn y modd y maent yn cynorthwyo eu plant.
Ac mae nifer o grwpiau dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, fel y clywsom gan Bethan Jenkins, eisoes yn perfformio’n well na lefelau cyfartaledd cenedlaethol, ac mae hynny i’w groesawu a’i ddathlu, fel y mae Bethan wedi’i wneud heddiw. Fel y dywedais, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y darlun cymhleth hwn. Nid un grŵp unffurf yw dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma, a Theithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Mae anghenion unigol a lefelau cyrhaeddiad y dysgwyr hyn yn amrywio’n sylweddol o rai o’n plant mwyaf galluog a thalentog i’r rhai sy’n cyflawni’n llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r pwyllgor yn cydnabod hyn yn yr adroddiad, ac fel y dywedais, mae’n fater rwyf hefyd yn ymwybodol iawn ohono. Ond fel y dywedais, mae’r her yn sylweddol, ac yn arbennig mewn perthynas â’r grwpiau ystyfnig sy’n parhau o dan y cyfartaledd cenedlaethol, a dyna pam rwy’n falch o weld bod yr adroddiad yn cydnabod cyfraniad cadarnhaol ein gwasanaethau a’n hysgolion dros y blynyddoedd.
Dylai ein hysgolion, gwasanaethau cymorth ein hawdurdodau lleol a’n gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol gael gwybodaeth ac arbenigedd helaeth i gynorthwyo’r dysgwyr hyn, ac mae’r rhain ganddynt eisoes mewn llawer o achosion,. Rwy’n credu’n gryf nad yw ein cryfder a’n llwyddiant yn y dyfodol yn deillio o fy swyddfa yn Nhŷ Hywel, ond yn hytrach o’r sector, yn gweithio fel cyfanrwydd, mewn partneriaeth o fewn system hunanwella sy’n rhoi gwerth ar ein proffesiwn addysgu ac amrywiaeth ein cymdeithas.
Gan symud at argymhellion y pwyllgor—darparodd 14 o argymhellion yn ei adroddiad, argymhellion sy’n darparu ffocws clir ar gyfer gweithredu yn fy marn i. Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol ac yn gadarnhaol i’r pwyllgor, rwy’n credu, yn dangos fy mod yn cytuno â phob un ond un o’r argymhellion. Rwyf wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor i edrych eto ar yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd rai blynyddoedd yn ôl. Rwy’n deall pam fod hyn yn destun siom i’r pwyllgor, ond gan nad yw’r pwyllgor yn gwneud unrhyw argymhelliad penodol ar gyfer newid y mecanwaith cyllido, rwy’n teimlo na fyddai asesiad effaith ar wahân yn fuddiol ar hyn o bryd ac mae’n well cyfeirio ein hymdrechion ac ymdrechion fy swyddogion a’r gwasanaeth tuag at gefnogi a chyflawni pob un o argymhellion eraill y pwyllgor, ac rwy’n credu y bydd hynny’n mynd â ni ymlaen i’r dyfodol.
Un o’r argymhellion rwy’n cytuno’n arbennig o gryf ag ef yw nad yw’r fframwaith perfformiad addysg presennol yn ddigon cadarn. Nid ydyw, yn syml, ac nid oedd modd cuddio rhag hynny yn ystod sesiynau’r pwyllgor. A dyna pam, cyn cyhoeddi adroddiad y pwyllgor, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gryfhau’r fframwaith ar gyfer y grant gwella addysg i ysgolion. Dros y misoedd diwethaf, rwy’n falch o ddweud eu bod wedi gweithio gyda’r consortia rhanbarthol i sefydlu fframwaith canlyniadau gwell a llawer mwy cadarn, a fydd yn canolbwyntio ar herio a chynorthwyo awdurdodau lleol a chonsortia gydag ymdrechion i wella canlyniadau addysgol i’r dysgwyr hyn o 2017-18. Mae’r fframwaith canlyniadau ar gyfer y grant gwella addysg yn mynegi beth yw ein canlyniadau cenedlaethol, ac yn dangos sut y mae strategaethau consortia rhanbarthol, drwy’r grant gwella addysg, yn cyfrannu at gyflawni’r canlyniadau hyn, ac yn sicrhau bod y grant gwella addysg yn effeithio’n gadarnhaol ar ganlyniadau dysgwyr. Y bwriad, drwy’r fframwaith, yw symud oddi wrth ddull rhagnodol a arweinir gan weithgaredd i ganolbwyntio ar ganlyniadau, gan barhau i fod yn ddigon soffistigedig i bwyso ar y gweithgaredd os oes angen. Bydd y fframwaith diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chynlluniau busnes y consortia rhanbarthol ar gyfer 2017-18. Rwy’n falch hefyd fod Estyn wedi cytuno i ailedrych ar y mater drwy gynnal adolygiad byr yn 2018-19. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar gynnydd ers 2011, a’i adroddiad ar y pryd, a bydd yn ystyried effaith y gwasanaethau a’r cymorth presennol ar gyfer y dysgwyr hyn. Mae’n hen bryd i ni gael yr adolygiad o’r adroddiad hwnnw.
Yr hyn y mae’r dystiolaeth hon wedi’i grisialu i mi, Dirprwy Lywydd, yw bod yna gydbwysedd bregus rhwng cefnogi pob dysgwr i fanteisio ar y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a pharchu a gwerthfawrogi natur amrywiol ein cymunedau, sy’n helpu i wneud Cymru heddiw’n gymdeithas fodern a blaengar lle rwyf fi—a’r rhan fwyaf yn y Siambr hon, rwy’n gobeithio—eisiau byw. Dros amser, mae presenoldeb wedi gwella, mae cyrhaeddiad addysgol wedi gwella, ac mae disgwyliadau, sy’n gwbl hanfodol, wedi codi, ac yn briodol felly. Ac rydym wedi gwrando ar ein cymunedau. Byddaf yn bendant yn cyhoeddi adroddiad ymchwil cymheiriaid y prosiect Teithio Ymlaen gan Achub y Plant ar Dysgu Cymru, a byddaf yn sicrhau ei fod ar gael i bob ysgol, i bob awdurdod lleol a’r consortia rhanbarthol, fel y gall ein haddysgwyr proffesiynol a’n darparwyr gwasanaethau ystyried y safbwyntiau a gyflwynwyd gan y bobl ifanc yn eu darpariaeth.
Mewn llawer o achosion, mae ein gwasanaethau wedi gwneud gwaith da, a hoffwn ddiolch iddynt am eu penderfyniad. Ond rwyf yn awr yn gofyn iddynt gynyddu eu hymdrechion i sicrhau bod mwy o’r dysgwyr hyn a’u teuluoedd yn teimlo’n gyfforddus i gofrestru eu nodweddion ar y ffurflenni cyfrifiad ysgolion blynyddol, fel y gallaf fod yn sicr fod y cymorth sydd ar gael iddynt drwy gyllidebau ysgolion a’n cyllid grant yn adlewyrchu eu niferoedd.
Darren Millar, rwy’n gobeithio y bydd ein hadolygiad Diamond, parhad ein Lwfans Cynhaliaeth Addysg a chymorth i ddysgwyr addysg bellach allu mynd i’r afael â rhwystrau yn parhau i ddarparu fframwaith ariannol i annog pobl i mewn i addysg bellach ac addysg uwch, ond mae disgwyliadau’r cymunedau hynny’n allweddol. Gwnaed pwynt pwysig mewn perthynas ag amrywiaeth ein proffesiwn addysgu. Nid yw ein proffesiwn addysgu mor amrywiol ag y byddwn eisiau iddo fod, a byddaf yn ystyried, gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, beth arall y gallwn ei wneud i annog amrywiaeth yn ein proffesiwn addysgu.
Dirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, a diolch i’r pwyllgor unwaith eto am yr adroddiad gwerthfawr hwn? Mae wedi cryfhau fy ngallu i ysgogi pobl i weithredu yn yr adran, yn enwedig mewn perthynas â monitro. Edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr ag aelodau’r pwyllgor ar waith yn y maes hwn yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Lynne Neagle, fel Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma? Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl ardderchog. Darren Millar, diolch i chi am eich cyfraniad ac am eich gwaith ar yr ymchwiliad. Roeddech yn gwbl gywir i dynnu sylw at natur dameidiog y ddarpariaeth, sy’n eithaf brawychus mewn gwirionedd, a’r ffaith nad oeddem ni, fel pwyllgor, yn gallu nodi’r hyn a oedd yn digwydd ar lawr gwlad, a oedd, ynddo’i hun, yn destun pryder mawr. Rwyf innau hefyd yn ddiolchgar i chi am dalu teyrnged i wasanaeth cymorth lleiafrifoedd ethnig Gwent, a gafodd argraff fawr, rwy’n credu, ar y pwyllgor cyfan ac sy’n gwneud gwaith hollol ragorol. Ond y broblem sydd gennym yw nad yw’r enghreifftiau hynny o arfer da yn cael eu lledaenu hyd y gwyddom. Ac fel y dywedwch, roedd y dystiolaeth gan y consortia’n siomedig. Rwy’n rhannu eich pryderon am y sesiwn a gawsom gydag Estyn. Roedd yn destun pryder eu bod wedi dod atom a dweud eu bod wedi gwneud yr adolygiad hwn yn ôl yn 2011 ac nad oeddent wedi gwneud gwaith dilynol ar yr argymhellion. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, rwy’n credu y byddai gennym rywbeth cryf iawn i’w ddweud am y peth. Gyda’r arolygiaethau, rwy’n credu bod yn rhaid i ni ddisgwyl y ceir y trylwyredd hwnnw wrth wneud gwaith dilynol lle y maent wedi buddsoddi amser, mewn gwirionedd, yn arolygu rhywbeth.
A gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad? Mae Julie yn eiriolwr brwd iawn dros y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac yn enwedig y plant, ac roeddwn yn falch iawn fod Julie, fel aelod o’r pwyllgor, wedi chwarae rhan mor allweddol yn yr ymchwiliad. Rwy’n rhannu’r pryder nad oedd yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd yn ddigonol, a gwn fod y rhanddeiliaid yn teimlo hynny, ac er fy mod yn ymwybodol o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru newydd ei ddweud, rwy’n gobeithio wrth symud ymlaen y bydd Llywodraeth Cymru’n dysgu gwersi o hyn wrth wneud penderfyniadau tebyg yn y dyfodol.
Gwnaeth Julie bwyntiau pwysig iawn am fodelau rôl, ac roedd hynny’n rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn yr ymchwiliad—rydym yn ceisio annog y bobl ifanc hyn i fod yn yr ysgol, eto i gyd nid oes ganddynt lawer o fodelau rôl mewn gwirionedd, ac mae hynny’n wir am blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond hefyd am blant o leiafrifoedd ethnig. Roedd hwnnw hefyd yn fater a ddaeth yn amlwg yn yr ymchwiliad. A diolch i chi am dynnu sylw at y prosiect adolygu gan gymheiriaid. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol bwysig fod pawb ohonom yn cadw safbwyntiau plant yn ganolog i’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni.
Hoffwn ddiolch i Bethan Jenkins am ei chyfraniad, am gamu i’r adwy dros Llyr heddiw. Mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr. Diolch i chi am eich sylwadau. Nid wyf yn credu bod y pwyllgor yn dweud bod y rhain yn grŵp unffurf. Yn enwedig gyda dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, nid yw hynny’n wir o gwbl, ond mae’n rhaid inni wneud yn siŵr, lle y mae gennym grwpiau lleiafrifoedd ethnig nad ydynt yn perfformio, ein bod yn sicrhau bod yr ymyriadau cywir ar waith, ac yn sicr nid oedd hynny’n glir yn y dystiolaeth a gawsom. Yn yr un modd, nid oeddem mewn sefyllfa i argymell yn benodol yr hyn y dylai awdurdodau lleol neu gonsortia fod yn ei wneud, oherwydd nid oedd gennym ddigon o wybodaeth am yr hyn a oedd yn digwydd ar lawr gwlad, a dyna pam y mae ffocws allweddol ein hargymhellion, mewn gwirionedd, wedi bod ar yr angen am fonitro a gwerthuso trylwyr a phriodol.
A gaf fi ddiolch i David Melding am ei gyfraniad heddiw, am dynnu sylw at y tensiynau pwysig iawn rhwng darpariaeth prif ffrwd a darpariaeth wedi’i thargedu a’i chlustnodi? Rwy’n sicr yn cytuno â chi, er y byddai pawb ohonom yn gobeithio y gellir cyflawni popeth drwy drefniant prif ffrwd, yn amlwg ceir amgylchiadau lle nad yw hynny’n mynd i ddigwydd, a dyna pam ein bod angen dull wedi’i dargedu fel hyn. A diolch i chi, hefyd, am eich pwyslais ar yr angen am fonitro a gwerthuso priodol, a hefyd am eich geiriau caredig am waith y pwyllgor yn y maes hwn.
A gaf fi ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei chyfraniad heddiw, ac am ei hymwneud adeiladol iawn â’r pwyllgor ar y pwnc hwn? Croesawaf yn arbennig yr hyn a ddywedoch heddiw am yr angen i gryfhau’r fframwaith rheoli perfformiad; mae hynny i’w groesawu’n fawr, a byddwn yn edrych ymlaen at wneud gwaith dilynol gyda chi ar hynny. A diolch i’r Aelodau’n gyffredinol am eu cyfranogiad heddiw ac i ailadrodd yr hyn rwyf wedi’i ddweud yn ystod y dadleuon a gawsom yn flaenorol yn y pwyllgor: nid gwaith untro y byddwn yn ei roi o’r neilltu a’i adael yw hwn; rydym yn bwriadu gwneud gwaith dilynol trylwyr iawn arno wrth symud ymlaen a pharhau i dynnu sylw at y maes gwaith pwysig hwn. Felly, diolch yn fawr iawn, bawb.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.