5. 5. Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant o Leiafrifoedd Ethnig

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:23, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma? Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl ardderchog. Darren Millar, diolch i chi am eich cyfraniad ac am eich gwaith ar yr ymchwiliad. Roeddech yn gwbl gywir i dynnu sylw at natur dameidiog y ddarpariaeth, sy’n eithaf brawychus mewn gwirionedd, a’r ffaith nad oeddem ni, fel pwyllgor, yn gallu nodi’r hyn a oedd yn digwydd ar lawr gwlad, a oedd, ynddo’i hun, yn destun pryder mawr. Rwyf innau hefyd yn ddiolchgar i chi am dalu teyrnged i wasanaeth cymorth lleiafrifoedd ethnig Gwent, a gafodd argraff fawr, rwy’n credu, ar y pwyllgor cyfan ac sy’n gwneud gwaith hollol ragorol. Ond y broblem sydd gennym yw nad yw’r enghreifftiau hynny o arfer da yn cael eu lledaenu hyd y gwyddom. Ac fel y dywedwch, roedd y dystiolaeth gan y consortia’n siomedig. Rwy’n rhannu eich pryderon am y sesiwn a gawsom gydag Estyn. Roedd yn destun pryder eu bod wedi dod atom a dweud eu bod wedi gwneud yr adolygiad hwn yn ôl yn 2011 ac nad oeddent wedi gwneud gwaith dilynol ar yr argymhellion. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, rwy’n credu y byddai gennym rywbeth cryf iawn i’w ddweud am y peth. Gyda’r arolygiaethau, rwy’n credu bod yn rhaid i ni ddisgwyl y ceir y trylwyredd hwnnw wrth wneud gwaith dilynol lle y maent wedi buddsoddi amser, mewn gwirionedd, yn arolygu rhywbeth.

A gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad? Mae Julie yn eiriolwr brwd iawn dros y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac yn enwedig y plant, ac roeddwn yn falch iawn fod Julie, fel aelod o’r pwyllgor, wedi chwarae rhan mor allweddol yn yr ymchwiliad. Rwy’n rhannu’r pryder nad oedd yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd yn ddigonol, a gwn fod y rhanddeiliaid yn teimlo hynny, ac er fy mod yn ymwybodol o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru newydd ei ddweud, rwy’n gobeithio wrth symud ymlaen y bydd Llywodraeth Cymru’n dysgu gwersi o hyn wrth wneud penderfyniadau tebyg yn y dyfodol.

Gwnaeth Julie bwyntiau pwysig iawn am fodelau rôl, ac roedd hynny’n rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn yr ymchwiliad—rydym yn ceisio annog y bobl ifanc hyn i fod yn yr ysgol, eto i gyd nid oes ganddynt lawer o fodelau rôl mewn gwirionedd, ac mae hynny’n wir am blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond hefyd am blant o leiafrifoedd ethnig. Roedd hwnnw hefyd yn fater a ddaeth yn amlwg yn yr ymchwiliad. A diolch i chi am dynnu sylw at y prosiect adolygu gan gymheiriaid. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol bwysig fod pawb ohonom yn cadw safbwyntiau plant yn ganolog i’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni.

Hoffwn ddiolch i Bethan Jenkins am ei chyfraniad, am gamu i’r adwy dros Llyr heddiw. Mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr. Diolch i chi am eich sylwadau. Nid wyf yn credu bod y pwyllgor yn dweud bod y rhain yn grŵp unffurf. Yn enwedig gyda dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, nid yw hynny’n wir o gwbl, ond mae’n rhaid inni wneud yn siŵr, lle y mae gennym grwpiau lleiafrifoedd ethnig nad ydynt yn perfformio, ein bod yn sicrhau bod yr ymyriadau cywir ar waith, ac yn sicr nid oedd hynny’n glir yn y dystiolaeth a gawsom. Yn yr un modd, nid oeddem mewn sefyllfa i argymell yn benodol yr hyn y dylai awdurdodau lleol neu gonsortia fod yn ei wneud, oherwydd nid oedd gennym ddigon o wybodaeth am yr hyn a oedd yn digwydd ar lawr gwlad, a dyna pam y mae ffocws allweddol ein hargymhellion, mewn gwirionedd, wedi bod ar yr angen am fonitro a gwerthuso trylwyr a phriodol.

A gaf fi ddiolch i David Melding am ei gyfraniad heddiw, am dynnu sylw at y tensiynau pwysig iawn rhwng darpariaeth prif ffrwd a darpariaeth wedi’i thargedu a’i chlustnodi? Rwy’n sicr yn cytuno â chi, er y byddai pawb ohonom yn gobeithio y gellir cyflawni popeth drwy drefniant prif ffrwd, yn amlwg ceir amgylchiadau lle nad yw hynny’n mynd i ddigwydd, a dyna pam ein bod angen dull wedi’i dargedu fel hyn. A diolch i chi, hefyd, am eich pwyslais ar yr angen am fonitro a gwerthuso priodol, a hefyd am eich geiriau caredig am waith y pwyllgor yn y maes hwn.

A gaf fi ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei chyfraniad heddiw, ac am ei hymwneud adeiladol iawn â’r pwyllgor ar y pwnc hwn? Croesawaf yn arbennig yr hyn a ddywedoch heddiw am yr angen i gryfhau’r fframwaith rheoli perfformiad; mae hynny i’w groesawu’n fawr, a byddwn yn edrych ymlaen at wneud gwaith dilynol gyda chi ar hynny. A diolch i’r Aelodau’n gyffredinol am eu cyfranogiad heddiw ac i ailadrodd yr hyn rwyf wedi’i ddweud yn ystod y dadleuon a gawsom yn flaenorol yn y pwyllgor: nid gwaith untro y byddwn yn ei roi o’r neilltu a’i adael yw hwn; rydym yn bwriadu gwneud gwaith dilynol trylwyr iawn arno wrth symud ymlaen a pharhau i dynnu sylw at y maes gwaith pwysig hwn. Felly, diolch yn fawr iawn, bawb.