7. 7. Dadl UKIP Cymru: Polisi Ynni ac Amgylchedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:55, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Hoffwn ddiolch i David am ildio mor gynnar yn y ddadl, ond roeddwn i eisiau gwybod, ar ddechrau’r ddadl hon, ai safbwynt cenedlaethol UKIP o hyd yw diddymu Deddf Newid Hinsawdd 2008 yn gyfan gwbl a chael gwared ar dargedau datgarboneiddio. Oherwydd nid yw hynny yn ysbryd yr hyn rydych newydd ei ddweud, David.