7. 7. Dadl UKIP Cymru: Polisi Ynni ac Amgylchedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:16, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, byddai’n well gennyf beidio am fy mod eisiau datblygu’r ddadl hon ar bwynt arall, a bydd digon o gyfleoedd eraill, rwy’n siŵr, i ni i ddadlau am y pwynt hwn. Ond ni waeth beth y mae neb yn ei gredu sy’n digwydd gyda newid yn yr hinsawdd, ein dadl yw bod y costau a osodwyd gan y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn anghymesur o uchel i’r wlad hon eu talu yng nghyd-destun yr hyn sy’n digwydd yng ngweddill y byd. Nawr, ysgrifennwyd ein polisi ar gynhesu byd-eang gan Mark Reckless. Ef a ysgrifennodd y maniffesto a roesom gerbron wrth inni sefyll etholiad fis Mai diwethaf. Felly, nid wyf yn gwybod a ydym yn mynd i weld tröedigaeth Ddamascaidd y prynhawn yma, ond arhoswn i weld. Ond yr holl bwynt yw—[Torri ar draws.] Wel, gall yr Aelod anrhydeddus wneud ei araith yn y man. Gan mai pedair munud yn unig sydd gennym, rwyf eisiau gwneud—[Torri ar draws.] Rwyf eisiau gwneud [Anghlywadwy.]—y pwynt syml fod y wlad hon, ac rwy’n golygu Cymru yn benodol, yn talu pris anghymesur am y polisïau sy’n cael eu gorfodi arnom.

Nid 0.5 y cant o allyriadau byd-eang y mae Cymru yn eu cynhyrchu mewn gwirionedd, ond 0.05 y cant o allyriadau byd-eang o garbon deuocsid. Mae’r Deyrnas Unedig, gyda’i gilydd, yn cynhyrchu tua 1.16 y cant. Mae Tsieina’n cynhyrchu 30 y cant; yr Unol Daleithiau 15 y cant; India 7 y cant. Ymhell o’r hyn roedd Huw Irranca-Davies yn ei ddweud am gytundebau byd i leihau allyriadau carbon, mae Tsieina ac India yn argymell cynnydd enfawr yn eu hallbwn carbon deuocsid dros y 30 mlynedd nesaf. Mae Tsieina’n mynd i ddyblu faint o garbon deuocsid sy’n cael ei allyrru, ac mae India’n mynd i dreblu’r hyn y maent yn ei allyrru ar hyn o bryd oherwydd bod eu heconomïau’n mynd i dyfu, ac o dan gytundeb hinsawdd Paris, ceir cymal eithrio penodol ar eu cyfer i ganiatáu hynny. Felly, er bod hwn yn rhwymo mewn cyfraith, mae’r hyn sy’n rhwymo mewn cyfraith yn caniatáu iddynt gynyddu eu hallyriadau byd-eang lawer gwaith yn fwy na’r hyn y byddem yn ei arbed pe baem yn dileu economi Prydain gyfan. [Torri ar draws.] Rwyf am roi un dyfyniad, ac fe ildiaf i Rhianon Passmore wedyn. Mae erthygl 4.7 yng nghytundeb Paris yn dweud:

Bydd y graddau y bydd gwledydd sy’n datblygu yn gweithredu eu hymrwymiadau’n effeithiol o dan y Confensiwn... yn ystyried yn llawn mai datblygu economaidd a chymdeithasol a dileu tlodi yw prif flaenoriaethau’r gwledydd sy’n datblygu a hynny’n gwbl briodol hefyd. Wrth gwrs, os yw’r gwledydd hyn, sy’n aml iawn yn enbyd o dlawd, yn mynd i ddatblygu, mae’n anochel eu bod yn mynd i gynyddu allyriadau carbon deuocsid. Wrth i boblogaeth y byd ehangu, mae hynny’n rhwym o gynhyrchu’r effaith hon. Ildiaf i’r Aelod.