Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 9 Mai 2017.
Gallaf ddweud, yn 2015-16, bod awdurdodau lleol wedi casglu dros 97 y cant o’r dreth gyngor yr anfonwyd biliau ar ei chyfer—y lefel uchaf ers cyflwyno’r dreth hon. Mae cynnal hawl llawn i gymorth ar gyfer yr holl ymgeiswyr cymwys drwy ein cynllun lleihau'r dreth gyngor wedi helpu i liniaru cynnydd i lefel dyled y dreth gyngor yng Nghymru, ac rydym ni’n gwybod bod y dreth gyngor yng Nghymru yn llawer is nag yn Lloegr, o dan Lywodraeth Dorïaidd yno. Ac, wrth gwrs, gallaf ddweud wrth yr Aelod bod cyfraddau casglu yn 97.2 y cant yng Nghymru erbyn hyn; maen nhw’n is yn Lloegr.