1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mai 2017.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion y trosolwg sydd gan Lywodraeth Cymru dros ddyledion sy'n ddyledus i awdurdodau lleol gan drydydd partïon? OAQ(5)0582(FM)
Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am gasglu ei ddyledion yn rhan o'i brosesau rheoli ariannol effeithiol ei hun.
Rwyf braidd yn siomedig â'r ateb yna, Prif Weinidog, gan fy mod i’n meddwl yr hoffech chi wybod am yr hyn nad yw eich awdurdodau lleol yn ei adfer ar adeg pan maen nhw’n honni bod cyni cyllidol yn eu hamddifadu o unrhyw arian. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl gynghorwyr sydd newydd gael eu hethol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys y 10 aelod Ceidwadol newydd, a, gobeithio, bydd y cyngor newydd yn gallu ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth o fewn y terfyn amser statudol fel y gallaf ofyn cwestiynau fel hyn gyda gwybodaeth lawn i law. A allwch chi ddweud wrthyf faint o ddyled heb eu hawlio sy’n ddyledus i awdurdodau lleol, prif ffynonellau’r dyledion hynny, a'r rhesymau y mae awdurdodau lleol yn eu rhoi i chi am beidio â mynd ar eu trywydd?
Gallaf ddweud, yn 2015-16, bod awdurdodau lleol wedi casglu dros 97 y cant o’r dreth gyngor yr anfonwyd biliau ar ei chyfer—y lefel uchaf ers cyflwyno’r dreth hon. Mae cynnal hawl llawn i gymorth ar gyfer yr holl ymgeiswyr cymwys drwy ein cynllun lleihau'r dreth gyngor wedi helpu i liniaru cynnydd i lefel dyled y dreth gyngor yng Nghymru, ac rydym ni’n gwybod bod y dreth gyngor yng Nghymru yn llawer is nag yn Lloegr, o dan Lywodraeth Dorïaidd yno. Ac, wrth gwrs, gallaf ddweud wrth yr Aelod bod cyfraddau casglu yn 97.2 y cant yng Nghymru erbyn hyn; maen nhw’n is yn Lloegr.
Gwelais y Cynghorydd Keith Reynolds, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, am y tro diwethaf, yn gweithio wrth ei ddesg rai wythnosau cyn iddo farw. A wnaiff y Prif Weinidog gydnabod bod buddugoliaeth Llafur Cymru ym mwrdeistref sirol Caerffili yn tystio i arweinyddiaeth ariannol gadarn, ac oes o wasanaeth cyhoeddus Keith?
Wel, a gaf i ymuno â'r Aelod i fynegi fy nghofion, wrth gwrs, at deulu’r Cynghorydd Keith Reynolds? Gwn fod y salwch yn fyr ac, mewn sawl ffordd, yn annisgwyl. Ac, wrth gwrs, rwy’n siŵr y byddai pobl yng Nghaerffili wedi cydnabod y gwaith a wnaed ganddo ef a chymaint o bobl eraill yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r trydydd parti sydd â’r ddyled fwyaf i awdurdodau lleol Cymru yw Llywodraeth San Steffan, sydd wedi torri dros draean mewn gwariant ar ofal oedolion ers 2011, sydd wedi cael canlyniadau ariannol difrifol yng Nghymru ac, yn amlwg, canlyniadau ofnadwy o ran y gost ddynol i'r henoed, y rhai sy’n sâl a'r anabl? Os caiff y Llywodraeth Geidwadol ddideimlad hon ei hail-ethol, fel sy’n ymddangos yn fwyfwy tebygol, ar 8 Mehefin, mae angen cynllun arnom i amddiffyn Cymru. Ble mae hwnnw? Beth yw hwnnw? Pwy sy'n mynd i’w arwain? Oherwydd mae’n rhaid i mi ddweud, ar sail y dystiolaeth a welwyd o ddoe, rydym ni mewn sefyllfa enbyd os mai fe sy’n mynd i wneud hynny.
Wel, yn ôl yr wythnos ddiwethaf, fe sy’n mynd i wneud. Roedd yn sôn am yr angen am arweinyddiaeth, roedd yn sôn amdano ei hun. Byddwn ni’n hapus i sefyll dros Gymru. Nid ydym ni eisiau gweld Llywodraeth Geidwadol yn y dyfodol yn sathru Cymru dan draed. Ac rydym ni wedi sefyll dros ein pobl, fel y dangosodd yr etholiad y llynedd, ac, yn wir, yn 2011. Y gwir yw—ac mae'n iawn i dynnu sylw at y toriadau sydd wedi digwydd—ein bod wedi colli, ers 2010, swm sy'n cyfateb i gyllideb iechyd gyfan gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd. Er gwaethaf hynny, rydym ni wedi cynnal gwariant ar iechyd 1 y cant yn uwch na’r lefel fesul pen yn Lloegr, ac wedi cynnal gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol 6 y cant y pen yn uwch nag yn Lloegr, gan ddangos Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru yn wyneb cyni cyllidol y Torïaid.