<p>Canolfannau Siopa Ardal</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 9 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:52, 9 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Mae Treforys ac Abertawe yn ganolfan siopa ardal o bwys. Ceir canolfannau siopa ardal eraill yn Abertawe ac mewn dinasoedd eraill yng Nghymru. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd canolfannau siopa ardal, fel yn Nhreforys, y Mwmbwls a'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Yn Nhreforys, rydym ni wedi colli banciau, tafarndai ac amrywiaeth siopa. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi y dylai fod banc mawr ym mhob un o’r canolfannau siopa ardal hyn?