1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mai 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canolfannau siopa ardal mewn dinasoedd? OAQ(5)0586(FM)
Rydym ni’n hyrwyddo canolfannau manwerthu a masnachol presennol fel y lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd. Dylai awdurdodau lleol sefydlu strategaethau a pholisïau defnydd tir ac adfywio i gefnogi canolfannau manwerthu a masnachol bywiog, hyfyw a deniadol.
Diolch, Prif Weinidog. Mae Treforys ac Abertawe yn ganolfan siopa ardal o bwys. Ceir canolfannau siopa ardal eraill yn Abertawe ac mewn dinasoedd eraill yng Nghymru. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd canolfannau siopa ardal, fel yn Nhreforys, y Mwmbwls a'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Yn Nhreforys, rydym ni wedi colli banciau, tafarndai ac amrywiaeth siopa. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi y dylai fod banc mawr ym mhob un o’r canolfannau siopa ardal hyn?
Wel, yn ddelfrydol, byddem yn croesawu cyd-leoli canghennau banc mewn canolfannau siopa ardal, ond materion i’r banciau yw’r rhain yn y pen draw. Ond mae'n bwysig bod y gallu gan fusnesau a chwsmeriaid i dalu arian i mewn a chodi arian yn eu cymunedau. Felly, pan fydd y banciau yn methu â hwyluso hyn, rydym ni’n gwybod bod Swyddfa'r Post yn chwarae rhan bwysig, gan fod gan 95 y cant o holl gwsmeriaid bancio’r DU fynediad at eu cyfrifon banc drwy'r swyddfa bost. Yr hyn y byddwn yn pryderu mwy amdano yw pe byddai unrhyw gyhoeddiad gan Swyddfa'r Post yn y dyfodol am gau canghennau swyddfa'r post, gan fod hynny’n cael gwared, wrth gwrs, ar yr unig swyddogaeth fancio sydd ar ôl mewn cynifer o gymunedau.
Prif Weinidog, mae nifer yr ymwelwyr â strydoedd mawr Cymru wedi gostwng. Mewn cymhariaeth, mae nifer yr ymwelwyr â chanolfannau siopa y tu allan i'r dref wedi cynyddu 4.6 y cant yn ôl gwybodaeth o’r llynedd. Nawr, mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi galw ar awdurdodau lleol a manwerthwyr i weithio gyda'i gilydd i farchnata hunaniaeth stryd fawr yn effeithiol. Hefyd, maen nhw eisiau i awdurdodau lleol gael mwy o hyblygrwydd o ran y system gynllunio. Felly, a gaf i ofyn i chi: sut ydych chi'n meddwl y gall y system gynllunio helpu i fod yn fwy cefnogol i’r stryd fawr?
Rydym ni’n gwybod ei bod yn hynod bwysig bod awdurdodau lleol, pan fyddant yn datblygu eu CDLlau, yn edrych ar sut y gallant gynorthwyo canolfannau manwerthu presennol, gan gynnwys strydoedd mawr. Ond mae'n ymwneud â mwy na hynny. Mae'n hynod bwysig i ganol trefi ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain; faint o ganol trefi sydd â gwefan? Pe bawn i’n mynd i dref yng Nghymru, a allaf i ddarganfod beth sydd yno? A oes gwefan? A oes gan fasnachwyr eu gwefannau eu hunain? Ac, wrth gwrs, y rheswm pam mae pobl yn mynd i ganolfannau siopa y tu allan i'r dref yw cyfleustra llwyr—maen nhw ar agor. Ac maen nhw ar agor ar y Sul yn arbennig, pryd y mae’r rhan fwyaf o bobl, y dyddiau hyn, yn tueddu i siopa. Felly, mae'n hynod bwysig bod manwerthwyr y stryd fawr yn ystyried hyblygrwydd eu horiau agor hefyd. Nid 40 mlynedd yn ôl yw hyn yn pan oedd pobl yn mynd i siopa yn ystod yr wythnos yn ystod y dydd ac roedd siopau ar agor. Ar y cyfan, mae pobl yn siopa am 6, 7, 8 o'r gloch y nos, ac maen nhw’n siopa ar y Sul pan fo llawer o strydoedd mawr wedi cau, felly mae angen rhywfaint o hyblygrwydd ar fasnachwyr hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn cyfochri eu horiau agor—ceir terfyn i’r hyn y gallant ei wneud fel unig fasnachwyr—gyda’r patrymau gwaith sydd gan bobl nawr, nid y patrymau gwaith oedd gan bobl, dyweder, 30 neu 40 mlynedd yn ôl. Mae'n hynod bwysig hefyd, yn rhan o’r broses CDLl, y rhoddir digon o le yng nghanol trefi i gael mwy o lety byw a mwy o leoedd swyddfa. Os oes gennych chi’r gweithwyr swyddfa yn ystod y dydd, mae gennych chi’r ymwelwyr yn ystod y dydd i helpu'r manwerthwyr.
Soniodd Mike Hedges am fanciau yn cau ar y stryd fawr a soniasoch chi am swyddfeydd post. Rhan bwysig arall o ardaloedd siopa ardal weithiau yw’r dafarn leol. Roeddwn i’n meddwl tybed a oedd unrhyw ddiweddariad ynghylch trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn, rwy’n credu, am sut i ddiogelu tafarndai cymunedol.
Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant fel aelod o CAMRA ar y pwynt hwn. Mae'n fater anodd gan ein bod ni’n gwybod, o safbwynt cynllunio, nad yw'n anodd newid y defnydd o dafarn i ddefnydd masnachol neu fanwerthu arall. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, yn aml iawn nid yw tafarndai yn cael eu gwerthu ac maen nhw’n adfeilio oherwydd eu bod yn wag ar ôl ychydig, felly nid yw'n fater hawdd ei ddatrys. Rydym ni’n gwybod, ac mae hyd yn oed CAMRA ei hun yn cydnabod, bod gormod o dafarndai o hyd, o ystyried arferion cymdeithasol presennol pobl. Yr hyn sy'n hynod bwysig yw gallu gweithio gyda thafarndai sy’n arwain y farchnad—ceir llawer ohonynt, rhai’n fach, rhai’n fawr—i roi esiampl dda i eraill. Ond, yn y pen draw, mae'n fater o sicrhau y gall y tafarndai gynnig yr amrywiaeth ehangaf o wasanaethau posibl i gwsmeriaid. Rwyf i wedi bod mewn gwledydd lle mae'r tafarndai hefyd yn siopau—yng Nghymru, a dweud y gwir. Rwy'n credu fod Cwmdu yn un enghraifft, ger Llandeilo, lle mae'r dafarn hefyd yn siop. Felly, mae edrych ar ffyrdd y gall tafarndai hefyd weithredu fel canolfannau busnes mewn cymunedau, lle gall y siop leol, o bosibl, fod yn swyddfa bost—dyna un ffordd ymlaen i sicrhau bod gan dafarndai ddyfodol dichonadwy.