Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 9 Mai 2017.
Prif Weinidog, mae nifer yr ymwelwyr â strydoedd mawr Cymru wedi gostwng. Mewn cymhariaeth, mae nifer yr ymwelwyr â chanolfannau siopa y tu allan i'r dref wedi cynyddu 4.6 y cant yn ôl gwybodaeth o’r llynedd. Nawr, mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi galw ar awdurdodau lleol a manwerthwyr i weithio gyda'i gilydd i farchnata hunaniaeth stryd fawr yn effeithiol. Hefyd, maen nhw eisiau i awdurdodau lleol gael mwy o hyblygrwydd o ran y system gynllunio. Felly, a gaf i ofyn i chi: sut ydych chi'n meddwl y gall y system gynllunio helpu i fod yn fwy cefnogol i’r stryd fawr?