Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 9 Mai 2017.
Argymhelliad yr ombwdsmon yw y bydd yn ein gwahodd ni fel Llywodraeth i ystyried adolygu ein polisïau a’n canllawiau o ran ymweliadau addysgol dramor. Yn rhan o'r broses honno o adolygu, mae'n hynod bwysig deall beth yw’r arfer gorau, i ymgynghori, unwaith eto, gyda’r panel cynghorwyr addysg awyr agored, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr argymhelliad y mae'r ombwdsmon wedi ei wneud i ni yn cael ei fodloni’n llawn.