Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 9 Mai 2017.
Nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch cynnydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym ni’n gwybod y bydd ar waith mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau, pan fydd trethi’n cael eu datganoli, bod awdurdod ar waith i wneud yn siŵr y gellir casglu’r trethi hynny. Rydym ni wedi deall bod pwysau ar y Llywodraeth, ac rydym ni wedi ymateb i’r pwysau hwnnw. Rydym ni’n hyderus, pan ddaw'r amser y flwyddyn nesaf, y bydd Awdurdod Refeniw Cymru wedi’i sefydlu ac yn barod i ddechrau ar ei waith.