1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mai 2017.
8. Ar ôl gweithredu Deddf Cymru 2017, pa bwerau eraill ddylai gael eu datganoli i Gymru? OAQ(5)0590(FM)
Gellir dod o hyd i’r pwerau hynny yn y Bil llywodraeth a deddfau yng Nghymru drafft, a gyhoeddwyd gennym.
Iawn. Diolch i chi am eich ateb. Nodaf i chi addo yn gynharach i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ond a wnewch chi addo hefyd defnyddio eich pwerau datganoledig i leihau costau i fusnesau, fel y gall cyflogwyr ddechrau cael eu denu i Gymru a darparu swyddi y mae wir eu hangen?
Nid wyf yn siŵr pa bwerau y mae hi'n cyfeirio atynt. Nid oes llawer o'r materion y mae'n cyfeirio atynt wedi eu datganoli. Mae ardrethi busnes—mae hynny'n wir—ond o ran materion fel yswiriant gwladol neu’r dreth gorfforaeth, nid ydyn nhw wedi eu datganoli. Rydym ni’n gwybod y byddwn yn gweld rhywfaint o ddatganoli treth incwm yn ystod y flwyddyn i ddod, ond o'n safbwynt ni, mae gennym ni hanes da iawn: mae gennym ni ddiweithdra sy'n is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac wrth gwrs rydym ni newydd gael y ffigurau gorau ar gyfer buddsoddi tramor uniongyrchol ers 30 mlynedd yn ddiweddar.
Prif Weinidog, fel y mae Michelle Brown newydd ddweud, bydd Deddf Cymru—y ddeddfwriaeth gyfredol—wrth gwrs, yn darparu ystod o bwerau cyllidol newydd i Lywodraeth Cymru, yn amrywio o fenthyg i bwerau treth incwm a threth stamp. Beth bynnag yr ydych chi eisiau ei wneud gyda’r trethi hynny yn y dyfodol—pa un a ydych chi eisiau eu gadael nhw lle maen nhw, eu cynyddu, neu eu gostwng—yn dibynnu ar Awdurdod Refeniw Cymru cryf, ac mae hwnnw yn y broses o gael ei sefydlu, ac mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ystyried hynny. A ydych chi'n hapus â'r cynnydd sy’n cael ei wneud gyda datblygiad yr awdurdod hwnnw? A pha fecanweithiau sydd gennych chi ar waith i wneud yn siŵr bod y cynnydd hwnnw yn parhau ar y trywydd cywir, oherwydd, yn amlwg, mae’n hanfodol bwysig?
Nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch cynnydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym ni’n gwybod y bydd ar waith mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau, pan fydd trethi’n cael eu datganoli, bod awdurdod ar waith i wneud yn siŵr y gellir casglu’r trethi hynny. Rydym ni wedi deall bod pwysau ar y Llywodraeth, ac rydym ni wedi ymateb i’r pwysau hwnnw. Rydym ni’n hyderus, pan ddaw'r amser y flwyddyn nesaf, y bydd Awdurdod Refeniw Cymru wedi’i sefydlu ac yn barod i ddechrau ar ei waith.
Prif Weinidog, a wnewch chi ymbellhau eich hun o sylwadau a wnaed gan Diane Abbot AS, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid Lafur, a ddywedodd wrth BBC Radio Wales yr wythnos diwethaf nad oedd y Blaid Lafur yn meddwl ei bod, a dyfynnaf, yn 'iawn ar hyn o bryd' i ddatganoli plismona i Gymru? A ydych chi wedi gofyn i Diane Abbott pam mae’n teimlo bod Llywodraeth Cymru, yn unigryw, yn llai galluog na Gweithrediaethau’r Alban a Gogledd Iwerddon o ran darparu gwasanaethau heddlu? Mae Llywodraeth Cymru yn llawn cynrychiolwyr etholedig Llafur, fel yr wyf yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol—lle nad oes gan Weithrediaethau’r Alban a Gogledd Iwerddon unrhyw lyffetheiriau meingefnol o’r fath.
Rwy'n gwbl ymwybodol o'r ffaith bod pobl Cymru wedi penderfynu y dylid cael Llywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru y llynedd. Diolchaf iddo am fy atgoffa i o hynny. Nid wyf yn cytuno na ddylai plismona gael ei ddatganoli. Dylai plismona gael ei ddatganoli. Ceir dadl yn y Siambr hon brynhawn yfory pan fydd y mater yn dod yn eglur o ran y ffordd y mae pleidleisiau’n digwydd. Nid oes unrhyw reswm o gwbl—dim o gwbl—pam y dylai plismona gael ei ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ei ddatganoli i Fanceinion, i Lundain, ond nid i Gymru. Nid oes unrhyw reswm rhesymegol i hynny fod yn wir. Rydym ni’n gwybod y bydd angen cydweithrediad o ran mesurau gwrthderfysgaeth; ceir rhai materion y mae angen ymdrin â nhw ar lefel y DU. Pan ddaw i blismona cymunedol, pam mae Cymru'n cael ei hystyried yn genedl ail ddosbarth gan y Torïaid?
Diolch i’r Prif Weinidog.