Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 9 Mai 2017.
Rwy'n credu mai’r cwestiwn cyntaf yr ydych yn ei ofyn, Andrew R.T. Davies, ynghylch llosgydd y Barri—. Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd—ac, yn wir, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad —i adrodd fy mod wedi cadeirio cyfarfod neithiwr, cyfarfod lle’r oedd cynrychiolaeth o Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau, ac uwch swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyhoeddais ddatganiad heddiw, y cytunwyd arno bawb a oedd yno neithiwr. Roedd hwn yn gyfarfod adeiladol iawn er mwyn gwneud yn siŵr—daeth y Prif Weinidog i'r Barri, fel y gwyddoch, a chael trafodaeth gadarn iawn ag aelodau o'r cyhoedd yn ei gyfarfod Carwyn Connect. Ac o ganlyniad i hyn, roeddem yn gallu symud ymlaen a chael estyniad ar gyfnod ymgynghori y drwydded amgylcheddol, ac, wrth gwrs, cytunwyd ar yr estyniad hwnnw gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yr hyn sy'n bwysig iawn ac a drafodwyd neithiwr —a’r pwyntiau a gyflwynwyd gerbron Cyfoeth Naturiol Cymru—yw y byddant, a’u bod wedi cytuno i hynny, ac, yn wir, mai eu dyletswydd yw, ystyried yn llawn effaith y cynigion ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd. Wrth gwrs, bydd cyfleoedd eraill i ymgynghori ar hynny, wrth iddynt, yn ddiweddarach yn yr wythnos, gyhoeddi amserlen 5—gwelsom ddrafft ohoni neithiwr—sy’n holi rhagor o gwestiynau i'r cwmni, Biomas 2, ynghylch y pryderon, nid yn unig y mae’r cyhoedd wedi eu codi yn ystod y cyfnod ymgynghori, ond hefyd Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i roi'r newyddion diweddaraf adeiladol iawn hwnnw am y cyfarfod adeiladol iawn hwnnw neithiwr. Ac, yn wir, cytunwyd i gyfarfod eto, ac rwy'n siwr y byddwch yn clywed hynny gan Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau.
O ran eich ail bwynt, wrth gwrs bydd gan gyngor y Fro, cyngor newydd y Fro, lawer o heriau o'u blaenau a phenderfyniadau anodd eu gwneud. Rwy'n falch iawn o'r ffaith yr ystyriwyd cyngor y Fro, dan arweiniad Llafur yn ystod y pum mlynedd diwethaf, fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o'r cynghorwyr, y cynghorwyr Llafur newydd, a gafodd eu hethol hefyd ddydd Iau. Ond, yn amlwg, mae'r blaenoriaethau o'n blaenau, a'r heriau, i gyngor newydd y Fro.